HYDREF 20-26
PREGETHWR 9-10
Cân 30 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Cadw Agwedd Gywir Tuag at Dy Dreialon
(10 mun.)
Dydy treialon ddim yn arwydd ein bod ni wedi colli ffafr Jehofa (Pre 9:11; w13-E 8/15 14 ¶20-21)
Dydyn ni ddim yn disgwyl i fywyd fod yn deg ym myd Satan (Pre 10:7; w19.09 5 ¶10)
Cymera amser i fwynhau rhoddion gan Jehofa, hyd yn oed mewn amseroedd anodd (Pre 9:7, 10; w11 10/15 “Ydy Dy Adloniant yn Dda i Ti?” ¶1-2)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Pre 10:12-14—Pa rybudd sydd am hel clecs yn ôl yr adnodau hyn? (it-E “Gossip, Slander” ¶4, 8)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Pre 10:1-20 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Dechreua sgwrs â rhywun sy’n edrych yn drist. (lmd gwers 3 pwynt 4)
5. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Rhanna un o’r “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu” yn atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl â pherson sy’n poeni am yr economi. (lmd gwers 4 pwynt 4)
6. Gwneud Disgyblion
Cân 47
7. Cadw Sefydlogrwydd pan Fydd Trasiedi yn Taro
(15 mun.) Trafodaeth.
Rydyn ni’n wynebu treialon a heriau bob dydd. Ond, mae rhai treialon mor ddifrifol ac yn digwydd mor sydyn nes eu bod nhw’n gallu ein llethu ni’n emosiynol, yn gorfforol, a hyd yn oed yn ysbrydol. Pwy fydd yn ein helpu ni, a beth gallwn ni ei wneud pan fydd trasiedi yn taro?
Beth bynnag rydyn ni’n ei wynebu, mae Jehofa’n ‘rhoi sicrwydd inni bob amser.’ (Esei 33:6) Er mwyn dibynnu ar Jehofa, mae’n rhaid inni fod yn rhesymol ac yn wylaidd. (Dia 11:2) Os ydyn ni’n dioddef sefyllfa ddifrifol, efallai bydd rhaid inni gymryd amser i ofalu amdanon ni’n hunain neu rywun sy’n agos aton ni, i wneud penderfyniadau doeth, neu i ganiatáu inni alaru. (Pre 4:6)
Gan fod Jehofa’n defnyddio ei addolwyr i gryfhau ei gilydd, dylen ni fod yn barod i dderbyn neu i ofyn am help. Cofia, mae dy gyd-gredinwyr yn dy garu di’n fawr iawn, ac mae rhoi cefnogaeth i ti yn eu gwneud nhw’n hapus.
Darllen 2 Corinthiaid 4:7-9. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam dylen ni gadw lan â’n rwtîn ysbrydol sylfaenol hyd yn oed mewn amserau anodd?
Dangosa’r FIDEO Mae Jehofa’n Agos at y Rhai Sydd Wedi Torri Eu Calonnau. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gwnaeth Jehofa helpu’r Brawd a’r Chwaer Septer?
Sut gwnaeth eu cyd-addolwyr eu helpu nhw?
Beth arall rwyt ti’n ei ddysgu o’u hesiampl?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 22 ¶8-14, blychau ar tt. 174, 177