HYDREF 13-19
PREGETHWR 7-8
Cân 39 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Ewch i’r ‘Cartref Lle Mae Pawb yn Galaru’
(10 mun.)
Neilltua amser i gysuro’r rhai sy’n galaru (Pre 7:2; it-E “Mourning” ¶9)
Rho gysur drwy siarad am rinweddau da’r un sydd wedi marw (Pre 7:1; w19.06 23 ¶15)
Gweddïa gyda’r rhai sy’n galaru (w17.07 16 ¶16)
COFIA: Yn aml, bydd rhaid i gyd-Gristnogion gefnogi’r rhai sy’n galaru am beth amser ar ôl i’w hanwylyn farw.—w17.07 16 ¶17-19.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Pre 7:20-22—Sut gall yr adnodau hyn ein helpu ni i benderfynu a ddylen ni gael gair â rhywun sydd wedi ein digio? (w23.03 31 ¶18)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Pre 8:1-13 (th gwers 10)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Dysga beth sydd o ddiddordeb i’r person a threfna i gysylltu ag ef eto. (lmd gwers 2 pwynt 4)
5. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. (lmd gwers 2 pwynt 3)
6. Parhau â’r Sgwrs
(2 fun.) O DŶ I DŶ. Sonia am ein gwefan, jw.org. (lmd gwers 9 pwynt 4)
7. Egluro Dy Ddaliadau
(5 mun.) Dangosiad. ijwfq erthygl 50—Thema: Beth Sy’n Digwydd yn Ystod Angladdau Tystion Jehofa? (th gwers 17)
Cân 151
8. Cryfha Dy Ffydd yn yr Atgyfodiad
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae addewid Jehofa i atgyfodi’r meirw yn un hynod o werthfawr inni. Mae’n ein dysgu ni am rinweddau Jehofa—ei nerth, ei ddoethineb, ei drugaredd, ac yn enwedig ei gariad tuag aton ni fel unigolion.—In 3:16.
Pan fydd ein ffydd yn yr atgyfodiad yn gryf, byddwn ni’n gallu gweld tu hwnt i’n treialon. (2Co 4:16-18) Byddwn ni hefyd yn cael rhywfaint o heddwch a chysur wrth inni wynebu erledigaeth, salwch, neu pan fydd anwylyn yn marw. (1The 4:13) Er mwyn cael gwir hapusrwydd, mae’n rhaid cael ffydd yn yr atgyfodiad. (1Co 15:19) Beth am osod nod i gryfhau dy ffydd yn y gobaith hyfryd hwn?
Darllen Ioan 11:21-24. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Sut dangosodd Martha ffydd gref yn yr atgyfodiad?
Sut cafodd ei ffydd ei gwobrwyo?—In 11:38-44
Dangosa’r FIDEO Efelycha Ffydd Gref Menywod!—Martha. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam rwyt ti’n trysori gobaith yr atgyfodiad?
Beth gelli di ei wneud i gadw dy ffydd yn yr atgyfodiad yn gryf?
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 22 ¶1-7