TACHWEDD 17-23
CANIAD SOLOMON 6-8
Cân 34 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Bydda’n Wal, Nid yn Ddrws
(10 mun.)
Roedd brodyr y Sulames eisiau iddi aros yn bur (Ca 8:8, 9; it-E “Song of Solomon, The” ¶11)
Daeth hi o hyd i heddwch oherwydd ei bod hi wedi gwrthod temtasiynau yn llwyddiannus (Ca 8:10; yp-E 188 ¶2)
O ganlyniad, mae hi’n esiampl dda ar gyfer pobl ifanc (yp2-E 33)
GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Sut galla i helpu Cristnogion sengl yn fy nghynulleidfa i i fod yn wal, nid yn ddrws?’
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Ca 8:6—Pam mae gwir gariad yn cael ei ddisgrifio fel “fflam Jah” (NWT)? (w23.05 20 ¶1, troednodyn)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Ca 7:1-13 (th gwers 12)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) O DŶ I DŶ. Defnyddia gerdyn cyswllt jw.org i ddechrau sgwrs. (lmd gwers 4 pwynt 4)
5. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Defnyddia daflen i ddechrau sgwrs mewn tiriogaeth fusnes. (lmd gwers 1 pwynt 4)
6. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dechreua sgwrs gyfeillgar sy’n dod i ben cyn iti gael y cyfle i dystiolaethu. (lmd gwers 2 pwynt 4)
7. Egluro Dy Ddaliadau
(5 mun.) Dangosiad. ijwfq erthygl 43—Thema: A Oes Gan Dystion Jehofa Reolau Ynglŷn â Chanlyn? (th gwers 7)
Cân 121
8. Ffo Oddi Wrth Anfoesoldeb Rhywiol
(15 mun.) Trafodaeth.
Yn Caniad Solomon, gwnaeth y bugail wahodd y Sulames i fynd am dro rhamantus. (Ca 2:10-14) Mae’n debyg bod ganddo gymhellion da, er hynny, rhoddodd brodyr doeth y ferch waith iddi ei wneud i’w rhwystro hi rhag derbyn ei wahoddiad. (Ca 2:15) Roedden nhw’n deall bod gadael hi ar ei phen ei hun gyda’i chariad yn gallu arwain at demtasiwn.
Mae’r Beibl yn dweud wrth Gristnogion: “Ffowch oddi wrth anfoesoldeb rhywiol!” (1Co 6:18) Dylen ni osgoi gwneud unrhyw beth a all arwain at anfoesoldeb. Gwnaeth ysgrifennwr Caniad Solomon hefyd ddweud: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”—Dia 22:3.
Dangosa’r FIDEO Mae Duw yn Ymwybodol o “Gyfrinachau’r Galon.” Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pa wersi gwnest ti eu dysgu o’r fideo?
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 23 ¶16-19, blwch ar t. 188