LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb25 Tachwedd tt. 4-5
  • Tachwedd 10-16

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Tachwedd 10-16
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
mwb25 Tachwedd tt. 4-5

TACHWEDD 10-16

CANIAD SOLOMON 3-5

Cân 31 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Y Pwysigrwydd o Fod yn Brydferth ar y Tu Mewn

(10 mun.)

Roedd geiriau’r Sulames yn dangos ei bod hi’n brydferth ar y tu mewn (Ca 4:​3, 11; w15-E 1/15 30 ¶8)

Cafodd ei glendid moesol ei gymharu â gardd brydferth (Ca 4:12; w00-E 11/1 11 ¶17)

Mae’n bosib i bawb ddatblygu personoliaeth brydferth, sy’n bwysicach na phrydferthwch corfforol (g04-E 12/22 9 ¶2-5)

Collage: 1. Chwaer yn cysuro’n dyner chwaer iau sy’n drist. 2. Brawd iau yn mwynhau helpu brawd hŷn wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd ar y weinidogaeth.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Pa rinweddau ysbrydol rydw i’n eu gwerthfawrogi’r mwyaf mewn eraill?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Ca 3:5—Pam mae’r Sulames yn pledio ar “ferched Jerwsalem . . . o flaen y gasél a’r ewig gwyllt”? (w06-E 11/15 18 ¶4)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Can 4:​1-16 (th gwers 2)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 6 pwynt 4)

5. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dangosa i’r person sut i ddod o hyd i wybodaeth yn ei iaith ei hun ar jw.org. (lmd gwers 4 pwynt 3)

6. Anerchiad

(5 mun.) ijwbq erthygl 131—Thema: Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud am Wisgo Colur a Gemwaith? (th gwers 1)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 36

7. Marry Only in the Lord (Ge 28:2)

(8 mun.)

Dangosa’r FIDEO.

8. A Fyddi Di’n Cymar Da?

(7 mun.) Trafodaeth.

A wyt ti eisiau dod o hyd i gymar? Pan mae Cristnogion eraill sydd eisiau priodi yn cymryd sylw ohonot ti, a ydyn nhw’n gweld rhywun sydd â rhinweddau ysbrydol hyfryd? Er bod rhywun yn gallu ymddwyn fel person ysbrydol am gyfnod o amser, bydd ei wir bersonoliaeth yn dod i’r amlwg yn y pen draw.

Chwaer yn cynnig ei sêt ar fws i ddynes hŷn.
Brawd yn cynnig taflen i un o’i gyd-weithwyr wrth iddyn nhw adael y safle adeiladu lle maen nhw’n gweithio.
Dau frawd a dwy chwaer yn gweithio gyda’i gilydd ar y weinidogaeth. Mae un o’r brodyr yn arwain y chwiorydd yn garedig i’r ardal lle dylen nhw bregethu.

Noda adnod sy’n cyd-fynd â’r rhinweddau canlynol sydd gan berson ysbrydol.

  • Cariad at Jehofa a dangos ffydd ynddo

  • Y gallu i fod yn benteulu da, neu i barchu’r penteulu

  • Anhunanoldeb a chariad hunanaberthol

  • Bod yn gall, yn gytbwys, ac yn rhesymol

  • Bod yn ddibynadwy ac yn weithgar

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt pen. 23 ¶9-15, blychau ar tt. 184 a 186

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 48 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu