ERTHYGL ASTUDIO 10
Fel Cynulleidfa, Helpwch Fyfyrwyr y Beibl i Gyrraedd Bedydd
“Mae’r [corff] yn tyfu ac yn cryfhau . . . wrth i bob rhan wneud ei gwaith.”—EFF. 4:16.
CÂN 85 Rhowch Groeso i’ch Gilydd
CIPOLWGa
1-2. Pwy all helpu myfyrwyr y Beibl i gyrraedd bedydd?
“OEDDWN i wrth fy modd gyda’r hyn o’n i’n ei ddysgu yn fy astudiaeth Feiblaidd,” meddai Amy, sy’n byw yn Ffiji. “O’n i’n gwybod mai’r gwir oedd e. Ond wnes i ddim gwneud newidiadau a chael fy medyddio tan ar ôl imi ddechrau cymdeithasu â’r brodyr a chwiorydd.” Mae profiad Amy yn pwysleisio’r gwirionedd pwysig hwn: Bydd myfyriwr y Beibl yn fwy tebygol o wneud cynnydd cyson tuag at fedydd os bydd yn cael help gan eraill yn y gynulleidfa.
2 Gall pob cyhoeddwr gyfrannu at dwf y gynulleidfa. (Eff. 4:16) Dywedodd arloeswraig o’r enw Leilani, sy’n byw yn Fanwatw: “Fel maen nhw’n dweud, mae’n cymryd pentref cyfan i fagu plentyn. Dwi’n meddwl bod yr un peth yn wir am wneud disgyblion; fel arfer mae’n cymryd cynulleidfa gyfan i ddod â rhywun i mewn i’r gwir.” Mae angen aelodau teulu, ffrindiau, ac athrawon i helpu plentyn i aeddfedu. Maen nhw’n gwneud hyn drwy annog y plentyn a dysgu gwersi pwysig iddo. Mewn ffordd debyg, gall cyhoeddwyr gynnig cyngor, rhoi anogaeth, a gosod esiampl dda ar gyfer myfyrwyr y Beibl, gan eu helpu nhw i gyrraedd bedydd.—Diar. 15:22.
3. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau Ana, Dorin, a Leilani?
3 Pam dylai’r cyhoeddwr sy’n cynnal yr astudiaeth groesawu’r help y gall cyhoeddwyr eraill ei roi i’r myfyriwr? Sylwa ar beth ddywedodd Ana, arloeswraig arbennig ym Moldofa, “Mae’n anodd iawn i un person lenwi pob angen sydd gan fyfyriwr y Beibl wrth iddo wneud cynnydd.” Mae Dorin, arloeswr arbennig sy’n gwasanaethu yn yr un wlad, yn dweud, “Yn aml, bydd cyhoeddwyr eraill yn dweud rhywbeth sy’n cyffwrdd calon y myfyriwr, rhywbeth fyddwn i byth wedi meddwl amdano.” Mae Leilani yn cynnig rheswm arall, “Gall y cariad a’r cynhesrwydd sy’n cael ei ddangos i’r myfyriwr ei helpu i adnabod pobl Jehofa.”—Ioan 13:35.
4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
4 Ond, efallai dy fod ti’n meddwl, ‘Sut galla i yn bersonol helpu myfyriwr i wneud cynnydd os nad y fi yw’r un sy’n cynnal yr astudiaeth?’ Gad inni ystyried beth gallwn ni ei wneud pan fydd rhywun yn ein gwahodd i fynd gyda nhw ar astudiaeth, a beth gallwn ni ei wneud pan fydd y myfyriwr yn dechrau mynd i’r cyfarfodydd. Byddwn ni hefyd yn gweld sut gall henuriaid helpu myfyrwyr y Beibl i gyrraedd bedydd.
PAN WYT TI’N MYND AR ASTUDIAETH FEIBLAIDD
Pan fyddi di’n ymuno ag astudiaeth Feiblaidd, paratoa’r wers a fydd yn cael ei thrafod (Gweler paragraffau 5-7)
5. Pa rôl rwyt ti’n ei chwarae os byddi di’n cael dy wahodd i fynd ar astudiaeth Feiblaidd?
5 Yn ystod astudiaeth Feiblaidd, yr athro yn bennaf sy’n gyfrifol am helpu’r myfyriwr i ddeall Gair Duw. Os ydy’r athro yn dy wahodd di i fynd gydag ef, dylet ti ystyried dy hun yn helpwr iddo. Dy rôl yw ei gefnogi. (Preg. 4:9, 10) Beth yn benodol gelli di ei wneud i fod yn gymorth da yn ystod yr astudiaeth?
6. Pan wyt ti am fynd ar astudiaeth, sut gelli di roi’r egwyddor yn Diarhebion 20:18 ar waith?
6 Paratoa ar gyfer yr astudiaeth. Yn gyntaf, gofynna i’r athro ddweud rywfaint wrthot ti am y myfyriwr. (Darllen Diarhebion 20:18.) Gallet ti ofyn: “Beth yw cefndir y myfyriwr? Pa bwnc byddi di’n ei astudio gydag ef? Beth yw dy brif nod ar gyfer y sesiwn hwn? Oes ’na rywbeth y dylwn i ei ddweud neu ei wneud ar yr astudiaeth, ac oes ’na rywbeth y dylwn i ei osgoi? Sut galla i annog y myfyriwr i wneud cynnydd?” Yn amlwg, fyddai’r athro ddim yn rhannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol, ond gall yr hyn y mae yn ei rannu fod yn ddefnyddiol. Mae cenhades o’r enw Joy yn trafod y pethau hyn gyda’r rhai sy’n mynd gyda hi ar ei hastudiaethau. Mae hi’n cydnabod: “Mae’r drafodaeth hon yn helpu fy mhartner i gymryd diddordeb yn y myfyriwr ac i wybod sut i gyfrannu at yr astudiaeth.”
7. Pam rwyt ti angen paratoi os byddi di’n mynd ar astudiaeth rhywun arall?
7 Os wyt ti’n cael dy wahodd i fynd ar astudiaeth, byddai’n beth da iti baratoi’r wers a fydd yn cael ei thrafod. (Esra 7:10) Mae Dorin, y brawd a gafodd ei ddyfynnu ynghynt, yn dweud: “Dw i’n ddiolchgar pan fydd fy nghyfaill yn paratoi am yr astudiaeth. Yna, mae’n gallu cyfrannu mewn ffordd werthfawr.” Ar ben hynny, mae’n debyg y bydd y myfyriwr yn sylwi bod y ddau ohonoch chi wedi paratoi’n dda, a bydd hyn yn gosod esiampl dda iddo. Hyd yn oed os nad wyt ti’n gallu paratoi’r wers yn drylwyr, cymera rywfaint o amser o leiaf i gael prif bwyntiau’r wers yn dy feddwl.
8. Sut gelli di sicrhau bod dy weddi ar astudiaeth Feiblaidd yn un ystyrlon?
8 Mae gweddi yn rhan bwysig o sesiwn astudio’r Beibl, felly meddylia o flaen llaw beth fyddi di’n ei ddweud os bydd yr athro yn gofyn iti weddïo. Yna, mae’n debyg y bydd dy weddi yn fwy ystyrlon. (Salm 141:2) Mae Hanae, sy’n byw yn Japan, yn dal i gofio gweddïau un chwaer a ddaeth ar ei hastudiaethau. Dywedodd: “Oedd ei pherthynas gryf â Jehofa yn amlwg, ac o’n i eisiau bod fel hi. O’n i’n teimlo ei chariad pan wnaeth hi gynnwys fy enw yn ei gweddïau.”
9. Yn ôl Iago 1:19, beth gelli di ei wneud i fod yn helpwr da ar astudiaeth Feiblaidd?
9 Cefnoga’r athro yn ystod yr astudiaeth. “Bydd helpwr da yn gwrando’n astud yn ystod yr astudiaeth,” meddai Omamuyovbi, arloeswraig arbennig yn Nigeria. “Mae’r helpwr yn cyfrannu’n dda, heb siarad gormod, gan sylweddoli mai’r athro sy’n cymryd y blaen.” Felly, pryd a sut dylet ti gyfrannu at yr astudiaeth? (Diar. 25:11, BCND) Gwranda’n astud tra bod yr athro a’r myfyriwr yn siarad. (Darllen Iago 1:19.) Yna byddi di’n barod i helpu ar yr adeg iawn. Wrth gwrs, mae’n rhaid iti feddwl cyn siarad. Er enghraifft, fyddet ti ddim yn siarad gormod, yn amharu ar resymeg yr athro, nac yn cyflwyno pwnc gwahanol. Ond, gyda sylw byr, eglureb gryno, neu gwestiwn bach, gelli di helpu i egluro’r pwynt sy’n cael ei drafod. Ar adegau, efallai y byddi di’n teimlo na elli di gyfrannu llawer i’r astudiaeth. Ond os byddi di’n canmol y myfyriwr ac yn dangos diddordeb personol ynddo, byddi di’n cyfrannu’n fawr at ei gynnydd.
10. Sut gallai dy brofiadau di helpu myfyriwr y Beibl?
10 Rhanna dy brofiadau. Os yw’n briodol, gallet ti ddweud yn gryno sut wnest ti ddysgu’r gwir, sut wnest ti drechu her benodol, neu ym mha ffordd rwyt ti wedi gweld llaw Jehofa yn dy fywyd. (Salm 78:4, 7) Efallai mai dyna’r union beth mae’r myfyriwr angen ei glywed. Efallai bydd yn cryfhau ei ffydd neu’n ei annog i ddal ati i weithio tuag at fedydd. Ac efallai bydd yn dangos iddo sut i drechu treial mae’n ei wynebu. (1 Pedr 5:9) Mae Gabriel, sy’n byw ym Mrasil ac sydd nawr yn gwasanaethu fel arloeswr, yn cofio beth wnaeth ei helpu pan oedd yn astudio’r Beibl. “O glywed profiadau’r brodyr,” meddai, “dysgais fod Jehofa yn gweld yr heriau ’dyn ni’n eu hwynebu. Ac os oedden nhw’n gallu eu trechu, byddwn innau’n gallu hefyd.”
PAN FYDD Y MYFYRIWR YN DOD I’R CYFARFODYDD
Gall pob un ohonon ni annog y myfyriwr i barhau i fynychu’r cyfarfodydd (Gweler paragraff 11)
11-12. Pam dylen ni roi croeso cynnes i fyfyriwr sy’n mynychu’r cyfarfodydd?
11 Er mwyn i fyfyriwr y Beibl gyrraedd bedydd, mae’n rhaid iddo fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa yn rheolaidd ac elwa ohonyn nhw. (Heb. 10:24, 25) Mae’n debyg bydd yr athro yn ei wahodd i’w gyfarfod cyntaf. A phan fydd ef yn dod, gall pob un ohonon ni ei annog i ddal ati i ddod i Neuadd y Deyrnas. Sut, yn benodol, gallwn ni wneud hynny?
12 Rho groeso cynnes i’r myfyriwr. (Rhuf. 15:7) Os oes ’na groeso mawr i’r myfyriwr yn y cyfarfodydd, mae’n debyg y bydd eisiau parhau i ddod i’r Neuadd. Heb fynd dros ben llestri, cyfarch y myfyriwr yn gynnes, a’i gyflwyno i eraill. Paid â chymryd bod rhywun yn gofalu amdano; efallai bod ei athro yn rhedeg yn hwyr, neu’n gorfod gofalu am gyfrifoldebau eraill. Gwranda’n astud ar y myfyriwr, a dangosa ddiddordeb personol ynddo. Pa effaith gallai dy groeso cynnes ei gael? Ystyria esiampl Dmitrii a gafodd ei fedyddio rai blynyddoedd yn ôl, ac sydd bellach yn gwasanaethu fel gwas gweinidogaethol. Gan gofio ei gyfarfod cyntaf, dywedodd: “Wnaeth brawd fy ngweld i’n disgwyl yn nerfus y tu allan i’r neuadd, ac yn garedig, cerddodd i mewn gyda mi. Daeth llawer o bobl ata i i ’nghyfarch. O’n i wedi synnu. Wnes i ei fwynhau gymaint o’n i eisiau cyfarfod bob dydd. Do’n i erioed wedi profi hynny yn unlle arall o’r blaen.”
13. Pa effaith gall dy ymddygiad ei chael ar fyfyriwr y Beibl?
13 Bydda’n esiampl dda. Gall dy ymddygiad helpu’r myfyriwr fod yn sicr ei fod wedi cael hyd i’r gwir. (Math. 5:16) Mae Vitalii, sydd nawr yn gwasanaethu fel arloeswr yn Moldofa, yn dweud: “Wnes i sylwi sut oedd eraill yn y gynulleidfa yn byw, yn meddwl, ac yn ymddwyn. O weld hynny, o’n i’n hollol sicr fod Tystion Jehofa yn wir yn cerdded gyda Duw.”
14. Sut gallai dy esiampl helpu rhywun i barhau i wneud cynnydd?
14 Cyn iddo gael ei fedyddio, mae’n rhaid i’r myfyriwr roi’r hyn mae’n ei ddysgu ar waith. Dydy hynny ddim wastad yn hawdd. Ond pan fydd y myfyriwr yn gweld sut rwyt ti’n elwa o ddilyn egwyddorion y Beibl, mae’n ddigon posib bydd hyn yn ei gymell i dy efelychu di. (1 Cor. 11:1) Ystyria brofiad Hanae, a soniwyd amdani ynghynt. Mae hi’n dweud: “Roedd y brodyr a chwiorydd yn esiamplau byw o’r hyn roeddwn i’n ei ddysgu. Gwelais sut gallwn i galonogi eraill, bod yn barod i faddau, a dangos cariad. Oedden nhw wastad yn garedig wrth siarad am eraill. Oeddwn i eisiau eu hefelychu nhw.”
15. Sut mae Diarhebion 27:17 yn ein helpu i weld pam dylen ni wneud ffrindiau â myfyriwr wrth iddo barhau i fynychu cyfarfodydd?
15 Bydda’n ffrind i’r myfyriwr. Wrth i’r myfyriwr barhau i fynd i’r cyfarfodydd, dalia ati i ddangos diddordeb personol ynddo. (Phil. 2:4) Beth am sgwrsio ag ef? Heb fod yn rhy bersonol, gallet ti ei ganmol am unrhyw newidiadau positif mae wedi eu gwneud a’i holi am ei astudiaeth Feiblaidd, ei deulu, a’i waith. Gall y sgyrsiau hyn wneud ichi glosio at eich gilydd. Drwy fod yn ffrind i’r myfyriwr, byddi di’n ei helpu i weithio tuag at fedydd. (Darllen Diarhebion 27:17.) Mae Hanae bellach yn gwasanaethu fel arloeswraig lawn amser. Wrth gofio ei chyfarfodydd cyntaf, dywedodd: “Wrth imi wneud ffrindiau yn y gynulleidfa, wnes i ddechrau edrych ymlaen at y cyfarfodydd, a mynd hyd yn oed pan o’n i wedi blino. O’n i’n mwynhau cwmni fy ffrindiau newydd, a gwnaeth hyn fy helpu i dorri cysylltiadau â’r rhai nad oedd yn addoli Jehofa. O’n i eisiau closio at Jehofa, ac at y brodyr a chwiorydd. Felly, wnes i benderfynu cael fy medyddio.”
16. Beth arall gelli di ei wneud i helpu myfyriwr y Beibl i deimlo’n gartrefol yn y gynulleidfa?
16 Wrth i’r myfyriwr wneud cynnydd, gwna iddo deimlo ei fod yn rhan o’r gynulleidfa. Gelli di wneud hyn drwy fod yn lletygar. (Heb. 13:2) Wrth feddwl yn ôl i’w ddyddiau fel myfyriwr y Beibl, mae Denis, sy’n gwasanaethu yn Moldofa, yn cofio: “Sawl tro, cafodd fy ngwraig a minnau ein gwahodd i gymdeithasu â’r brodyr. Cawson ni glywed am sut roedd Jehofa wedi’u helpu nhw. Gwnaeth hynny ein calonogi ni. Yn y pen draw oedden ni’n hollol sicr ein bod ni eisiau gwasanaethu Jehofa, a bod ’na fywyd heb ei ail yn disgwyl amdanon ni.” Unwaith i fyfyriwr y Beibl ddod yn gyhoeddwr, gelli di hefyd ei wahodd i fynd ar y weinidogaeth gyda ti. Dywedodd Diego, cyhoeddwr o Frasil: “Mi wnaeth llawer o frodyr fy ngwahodd i i fynd ar y weinidogaeth. Dyna oedd y ffordd orau o ddod i’w hadnabod yn dda. Drwy wneud hynny, wnes i ddysgu llawer, ac o’n i’n teimlo’n agosach at Jehofa ac Iesu.”
SUT GALL HENURIAID HELPU?
Henuriaid, gall eich diddordeb diffuant helpu myfyrwyr i wneud cynnydd (Gweler paragraff 17)
17. Sut gall henuriaid helpu myfyrwyr?
17 Gwna amser i fyfyrwyr y Beibl. Os wyt ti’n henuriad, gelli di helpu myfyrwyr y Beibl i wneud cynnydd tuag at fedydd drwy ddangos cariad a gofal tuag atyn nhw. A allet ti siarad â myfyrwyr y Beibl yn rheolaidd yn y cyfarfodydd? Byddan nhw’n synhwyro dy ddiddordeb os byddi di’n cofio eu henw, yn enwedig pan fyddan nhw’n dechrau ateb. A allet ti neilltuo amser bob hyn a hyn i ymuno â chyhoeddwr ar astudiaeth? Efallai byddi di’n gallu helpu’r myfyriwr yn fwy nag wyt ti’n meddwl. Mae arloeswraig o’r enw Jackie, sy’n byw yn Nigeria, yn dweud: “Mae llawer o fyfyrwyr yn synnu i glywed fod y brawd a ddaeth gyda mi ar eu hastudiaeth yn henuriad. Dywedodd un o fy myfyrwyr: ‘Fyddai fy ngweinidog i byth yn gwneud hynny. Fydd e ond yn ymweld â phobl gyfoethog, a hynny dim ond os ydyn nhw’n ei dalu!’” Mae’r myfyriwr hwnnw bellach yn mynychu cyfarfodydd.
18. Sut gall henuriaid roi 1 Pedr 5:2 ar waith?
18 Hyffordda athrawon y Beibl a’u calonogi. Fel henuriad, mae gen ti’r cyfrifoldeb pwysig o helpu cyhoeddwyr i fod yn bregethwyr ac athrawon medrus. (Darllen 1 Pedr 5:2.) Os ydy rhywun yn teimlo’n swil am gynnal astudiaeth Feiblaidd o dy flaen, beth am gynnig cynnal yr astudiaeth. Dywedodd Jackie, a ddyfynnwyd ynghynt: “Bydd henuriaid yn holi’n aml am fy myfyrwyr. Pan dw i’n wynebu heriau wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd, maen nhw’n cynnig cyngor da.” Mae ’na lawer gall henuriaid ei wneud i galonogi athrawon a’u hysgogi i ddal ati. (1 Thes. 5:11) Mae Jackie yn ychwanegu: “Dw i’n hoffi pan mae henuriaid yn fy nghalonogi ac yn dweud wrtho i gymaint maen nhw’n gwerthfawrogi fy ngwaith caled. Mae’r fath eiriau yn fy adfywio fel gwydraid o ddŵr oer ar ddiwrnod poeth. Mae eu canmoliaeth yn rhoi hwb i fy hyder a dw i’n cael mwy o lawenydd o gynnal astudiaethau Beiblaidd.”—Diar. 25:25.
19. Pa lawenydd gall pob un ohonon ni ei gael?
19 Hyd yn oed os nad ydyn ni’n cynnal astudiaeth ar hyn o bryd, mae hi’n dal yn bosib inni helpu rhywun i dyfu’n ysbrydol. Heb gymryd drosodd, gallwn ni gefnogi’r athro yn ystod sesiwn astudio drwy baratoi a gwneud sylwadau defnyddiol. Gallwn ddod yn ffrind i fyfyrwyr pan ddôn nhw i’r Neuadd, a gallwn osod esiampl dda iddyn nhw. A gall henuriaid annog y myfyrwyr drwy wneud amser iddyn nhw, ac annog yr athrawon drwy eu hyfforddi a’u canmol. Mewn gwirionedd, does dim i gymharu â’r llawenydd a gawn o wybod ein bod ni wedi cael hyd yn oed rhan fach yn helpu rhywun i ddod i garu a gwasanaethu ein Tad, Jehofa!
CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn
a Nid oes gan bawb y fraint o gynnal astudiaeth Feiblaidd ar hyn o bryd. Er hynny, gall pob un ohonon ni helpu rhywun i gyrraedd bedydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gallwn ni i gyd helpu myfyriwr i gyrraedd y nod hwnnw.