LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w21 Hydref tt. 29-31
  • 1921—Can Mlynedd Yn Ôl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 1921—Can Mlynedd Yn Ôl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PREGETHWYR DEWR
  • ASTUDIAETH BERSONOL A THEULUOL
  • LLYFR NEWYDD!
  • Y GWAITH O’U BLAENAU
  • Y Bendithion o Wrando ar Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • 1922—Can Mlynedd yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • 1923​—Can Mlynedd Yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
w21 Hydref tt. 29-31

1921 Can Mlynedd Yn Ôl

“FELLY pa waith penodol sydd o’n blaenau ni eleni?” Dyna’r cwestiwn a ofynnodd Tŵr Gwylio Saesneg, Ionawr 1, 1921, i’w ddarllenwyr. Dyfynnodd Eseia 61:1, 2 fel ateb, gan eu hatgoffa o’u gomisiwn i bregethu. “Yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd [addfwyn] . . . , i gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni.”

PREGETHWYR DEWR

I gyflawni eu comisiwn, byddai’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl, fel oedd Tystion Jehofa yn cael eu galw ar y pryd, fod yn ddewr. Byddai’n rhaid iddyn nhw gyhoeddi newyddion da i’r rhai addfwyn, yn ogystal â “dydd dial ein Duw” i’r drygionus.

Gwnaeth y Brawd John H. Hoskin, oedd yn byw yng Nghanada, dystiolaethu’n ddewr er gwaethaf gwrthwynebiad. Yng ngwanwyn 1921, daeth ar draws weinidog Methodistaidd. Dechreuodd y Brawd John y sgwrs drwy ddweud: “Beth am inni gael sgwrs braf am y Beibl, a hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno ar rai pethau gallwn ni dal wahanu fel ffrindiau.” Ond wnaeth hynny ddim digwydd. Wrth adrodd yr hanes, dywedodd y Brawd John: “Oedden ni ond wedi siarad am rai munudau pan waldiodd y gweinidog y drws mor galed o’n i’n meddwl bod y gwydr am ddisgyn allan o’r ffrâm!”

“Pam na wnewch chi fynd at y paganiaid a siarad efo nhw!” gwaeddodd y gweinidog. Brathodd y Brawd John ei dafod, ond wrth iddo adael, meddyliodd iddo hun, ‘O’n i’n meddwl fy mod i’n siarad efo un!’

Daeth llif o eiriau cas gan y gweinidog eto y diwrnod wedyn yn ei bregeth. Dywedodd y Brawd John: “Wnaeth o rybuddio ei braidd amdana i, a dweud wrth ei braidd mai fi oedd y celwyddgi mwyaf a welodd y dref erioed ac y dylwn i gael fy saethu.” Ond wnaeth hynny ddim ei stopio o gwbl, daliodd ati i bregethu a chafodd dipyn o lwyddiant. Dywedodd: “Wel, ches i erioed amser gwell yn pregethu. Gwnaeth rhai o’r bobl hyd yn oed dweud, ‘Dwi’n gwybod eich bod chi’n gwneud gwaith Duw!’ a chynnig help mewn llawer o ffyrdd.”

ASTUDIAETH BERSONOL A THEULUOL

I helpu’r rhai a diddordeb i wneud cynnydd, gwnaeth myfyrwyr y Beibl gyhoeddi rhaglenni astudio’r Beibl yn y cylchgrawn rydyn ni bellach yn ei alw yn Deffrwch! Roedd ’na gwestiynau am y Beibl y gallai rhieni eu trafod gyda’u plant. Byddai rhieni yn gofyn y cwestiynau hyn i’w plant ac yn eu helpu nhw i gael hyd i’r atebion yn y Beibl. Roedd rhai cwestiynau, fel “Faint o lyfrau sydd ’na yn y Beibl?,” yn dysgu ffeithiau sylfaenol iddyn nhw. Roedd eraill, fel “A ddylai pob gwir Gristion ddisgwyl cael ei erlid?,” yn paratoi rhai ifanc i fod yn bregethwyr dewr.

Roedd y rhaglen Advanced Studies in the Divine Plan of the Ages yn rhoi cwestiynau dyfnach i fyfyrwyr aeddfed y Beibl yn seiliedig ar gyfrol gyntaf Studies in the Scriptures. Gwnaeth miloedd o ddarllenwyr elwa o’r rhaglenni hyn, ond ar Ragfyr 21, 1921, cafodd ei gyhoeddi y byddai’r ddwy raglen yn gorffen. Pam y newid sydyn?

LLYFR NEWYDD!

Y llyfr The Harp of God

Cerdyn ag aseiniad darllen arno

Cardiau a chwestiynau arnyn nhw

Sylweddolodd y brodyr oedd yn cymryd y blaen, bod pobl angen dysgu am y Beibl fesul pwnc. Felly, gwnaethon nhw gyhoeddi’r llyfr The Harp of God ym mis Tachwedd 1921. Byddai’r rhai oedd yn derbyn y llyfr hefyd yn ymuno ar gwrs astudio gallen nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain. Roedd y cwrs hwn yn helpu pobl i ddysgu am “fwriad Duw i fendithio’r ddynolryw â bywyd tragwyddol.” Sut roedd y cwrs yn gweithio?

Pan fyddai rhywun yn derbyn copi o’r llyfr, byddai’n cael aseiniad darllen wedi ei brintio ar gerdyn bach. Yr wythnos wedyn, byddai’n cael cerdyn â chyfres o gwestiynau yn seiliedig ar yr aseiniad hwnnw. Ar ddiwedd y cerdyn, roedd ’na aseiniad darllen ar gyfer yr wythnos ganlynol.

Bob wythnos, am 12 wythnos, byddai’r myfyriwr yn cael cerdyn newydd, wedi ei bostio gan y gynulleidfa agosaf. Yn aml, byddai’r cardiau yn cael eu hanfon gan y rhai yn y gynulleidfa oedd yn hŷn neu’n methu mynd o dŷ i dŷ. Er enghraifft, dywedodd Anna K. Gardner, o Millvale, Pensylfania, UDA: “Pan gafodd The Harp of God ei ryddhau, rhoddodd hynny gyfle i Thayle, fy chwaer anabl, wneud mwy o waith wrth anfon y cardiau cwestiynau allan yn wythnosol.” Ar ôl gorffen y cwrs, byddai rhywun o’r gynulleidfa yn mynd i weld y myfyriwr i’w helpu i ddysgu mwy am y Beibl.

Thayle Gardner yn ei chadair olwyn

Y GWAITH O’U BLAENAU

Ar ddiwedd y flwyddyn, anfonodd y Brawd J. F. Rutherford lythyr i’r cynulleidfaoedd i gyd. Dywedodd: “Mae neges y Deyrnas wedi cyrraedd mwy o bobl a’u helpu nhw’n fwy nag erioed o’r blaen.” Yna ychwanegodd: “Mae ’na lawer o waith i’w wneud o hyd, anogwch eraill i ymuno yn y gwaith bendigedig hwn.” Mae’n amlwg bod y myfyrwyr wedi gwneud union hynny. Ym 1922 byddan nhw’n pregethu’n ddewr am y Deyrnas yn fwy nag erioed o’r blaen.

Ffrindiau Dewr

Dangosodd Myfyrwyr y Beibl gariad drwy helpu ei gilydd. Roedden nhw’n ffrindiau dewr ‘wedi eu geni i helpu mewn helbul,’ fel mae’r hanes canlynol yn ei ddangos.—Diar. 17:17.

Ar Ddydd Mawrth, Mai 31, 1921, dechreuodd y Tulsa Race Massacre yn Tulsa, Oklahoma, UDA, ar ôl i ddyn du gael ei garcharu a’i gyhuddo o ymosod ar ddynes wen. Wedyn, gwnaeth grŵp o dros fil o ddynion gwyn ymladd yn erbyn grŵp llai o ddynion du. Lledodd y gwrthdaro yn sydyn i ardal Greenwood, lle roedd llawer o bobl ddu yn byw. Cafodd dros 1,400 o dai a busnesau eu hysbeilio a’u llosgi. Yn ôl yr adroddiadau, bu farw 36, ond efallai bod y nifer go iawn yn y cannoedd.

Dywedodd y Brawd Richard Hill, Myfyriwr y Beibl du oedd yn byw yn Greenwood: “Ar noson y reiat, cawson ni gyfarfod ein cynulleidfa fel arfer. Ar ôl i’r cyfarfod orffen, wnaethon ni glywed saethu yng nghanol y ddinas. Aethon ni i’n gwelyau yn gwrando arno.” Erbyn bore Mercher, Mehefin 1, roedd y sefyllfa wedi gwaethygu. “Daeth rhai pobl aton ni a dweud y dylen ni fynd i Neuadd y Ddinas ar unwaith os oedden ni eisiau diogelwch.” Felly, gwnaeth y Brawd Richard ffoi gyda’i wraig a’i bump o blant i Neuadd Dinas Tulsa. Yno, roedd tua 3,000 o ddynion a merched croenddu yn cael eu gwarchod gan y fyddin, oedd wedi cael eu hanfon yno i stopio’r ymladd.

Tua’r un pryd, gwnaeth y Brawd Arthur Claus, oedd yn wyn, benderfyniad dewr. “Pan wnes i glywed bod reiat wedi cychwyn yn Greenwood, a bod pobl yn ysbeilio tai ac yn eu rhoi nhw ar dân, wnes i benderfynu mynd i weld fy ffrind annwyl, y Brawd Richard, i weld sut oedd o.”

Gan ddefnyddio The Harp of God, dysgodd Arthur Claus ddosbarth o 14 o blant

Wrth gyrraedd tŷ y Brawd Richard, daeth ar draws dyn gwyn drws nesaf yn gafael mewn gwn. Tybiodd y dyn hwnnw, oedd hefyd yn ffrind i’r Brawd Richard, bod Arthur wedi mynd yno i ddwyn. “Be wyt ti’n da yn fan ’na?” gwaeddodd.

“Byddwn i wedi cael fy saethu petasai fo ddim wedi hoffi fy ateb,” dywedodd Arthur. “Wnes i ddweud fy mod i’n ffrind i’r Brawd Richard, a mod i wedi bod yna lawer o weithiau.” Llwyddodd Arthur a’r cymydog i amddiffyn y tŷ rhag ysbeilwyr.

Cyn bo hir, clywodd Arthur fod y Brawd Richard a’i deulu yn Neuadd y Ddinas. Cafodd Arthur wybod bod pobl ddu ddim yn cael gadael heb lofnod y Cadfridog Barrett, y swyddog mewn awdurdod. Dywedodd Arthur: “Roedd hi’n dipyn o her cael gafael ar y cadfridog. Pan ddywedais i beth o’n i eisiau ei wneud, gofynnodd: ‘A fyddwch chi’n edrych ar ôl y teulu hwn, a gofalu am eu hanghenion?’ ‘Wel wrth gwrs!’ medda fi.”

Wedi cael ei lofnod, rhuthrodd Arthur yn ôl i Neuadd y Ddinas. Dangosodd y papur i swyddog, a ddywedodd: “Waw, cawsoch chi lofnod y cadfridog ei hun! Ydych chi’n gwybod mai chi ydy’r cyntaf i fynd ag unrhyw un o’r lle ’ma drwy’r dydd?” Ymhen dim, daeth Arthur a’r swyddog o hyd i’r Brawd Richard a’i deulu. Gwnaethon nhw i gyd wasgu i mewn i gar Arthur a mynd adref.

“Roedden ni i gyd yn ystyried ein gilydd yn gyfartal fel pobl Dduw”

Gwnaeth y Brawd Arthur gwneud yn siŵr bod y Brawd Richard a’i deulu yn ddiogel. Cafodd ei esiampl fel ffrind dewr effaith dda ar eraill. Dywedodd Arthur: “Roedd gan y cymydog fwy o barch tuag at Dystion Jehofa nag o’r blaen. A gwnaeth llawer o bobl gymryd diddordeb yn y Deyrnas am eu bod nhw’n gweld bod lliw croen ddim yn gwahanu pobl Dduw, a’n bod ni i gyd yn ystyried ein gilydd yn gyfartal fel pobl Dduw.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu