LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp22 Rhif 1 tt. 8-9
  • 2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Dysgeidiaeth o’r Beibl:
  • Beth Mae’n ei Olygu:
  • Beth Allwch Chi ei Wneud:
  • Bydd Casineb yn Cael ei Drechu!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Sut i Dorri’r Cylch o Gasineb
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Joseff yn Maddau i’w Frodyr
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Pam Mae ’Na Gymaint o Gasineb?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
wp22 Rhif 1 tt. 8-9
Dau ddyn sy’n grac yn eistedd gyferbyn â’i gilydd ar ganghennau coeden. Mae’r ddau ohonyn nhw yn llifio drwy’r gangen maen nhw’n eistedd arni.

SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB

2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl

Dysgeidiaeth o’r Beibl:

“Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. . . . Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl . . . Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘“Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl” meddai’r Arglwydd.’”—RHUFEINIAID 12:17-19.

Beth Mae’n ei Olygu:

Er ei fod yn beth naturiol i deimlo’n ddig pan mae rhywun yn ein brifo ni, dydy Duw ddim eisiau inni dalu drwg am ddrwg. Yn hytrach, mae’n ein hannog ni i fod yn amyneddgar achos yn fuan bydd yn cywiro pob cam.—Salm 37:7, 10.

Beth Allwch Chi ei Wneud:

Pan fydd pobl amherffaith yn dial, maen nhw’n cyfrannu at y cylch o gasineb. Felly, os ydy rhywun wedi eich brifo chi neu wedi achosi niwed ichi, peidiwch â thalu’r pwyth yn ôl. Ceisiwch reoli’ch teimladau ac ymateb mewn ffordd heddychlon. Weithiau, byddai’n well i anghofio am y peth. (Diarhebion 19:11) Wrth gwrs, ar adegau eraill, byddai’n well gweithredu. Er enghraifft, os ydych chi wedi dioddef trosedd, efallai byddwch chi eisiau rhoi gwybod i’r heddlu neu’r awdurdodau.

Mae talu’r pwyth yn ôl yn achosi niwed i’ch hun

Beth os nad ydych chi’n gallu gweld ffordd heddychlon o ddatrys y broblem? Neu beth os ydych chi wedi gwneud popeth bosib i’w datrys? Peidiwch â dial. Bydd hynny’n debygol o wneud y sefyllfa’n waeth. Yn hytrach, torrwch y cylch o gasineb. Gallwch chi ddysgu i ddibynnu ar ffordd Duw o ddatrys y broblem. ‘Trystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di.’—Salm 37:3-5.

Profiad Bywyd​—ADRIÁN

Trechodd yr Awydd i Ddial

Adrián.

Yn ei arddegau cynnar, roedd Adrián yn dreisgar, yn llawn casineb, ac eisiau dial ar unrhyw un oedd wedi ei groesi. Mae’n dweud: “Yn aml, o’n i mewn ffeit lle oedd ’na saethu, a sawl gwaith ges i fy ngadael ar y stryd i farw gyda gwaed drosto i.”

Dechreuodd Adrián astudio’r Beibl pan oedd yn 16. Mae’n dweud: “Wrth imi ddysgu mwy am y Beibl, gwelais yr angen i wneud newidiadau yn fy mhersonoliaeth.” Roedd rhaid iddo gefnu ar gasineb a stopio bod yn dreisgar. Elwodd yn enwedig o beth mae’n ei ddweud yn Rhufeiniaid 12:17-19 am beidio â thalu’r pwyth yn ôl. Mae’n ychwanegu: “Wnes i dderbyn bod Jehofa am ddelio ag anghyfiawnder yn ei amser a’i ffordd ei hun. Fesul tipyn, wnes i drechu fy ymddygiad treisgar.”

Un noswaith, gwnaeth gang o hen elynion ymosod ar Adrián. Gwaeddodd y bachgen ar y blaen: “Cwffia’n ôl!” Mae Adrián yn cyfaddef: “O’n i’n teimlo awydd cryf i’w daro.” Ond y lle dial, dywedodd weddi fer ar Jehofa a gadawodd.

Meddai Adrián: “Y diwrnod wedyn, des i ar draws arweinydd y gang ar ei ben ei hun. Cododd fy nhymer, ond unwaith eto erfyniais ar Jehofa yn ddistaw bach am iddo fy helpu i ddal fy hun yn ôl. O’n i wedi synnu pan ddaeth y bachgen i fyny ata i a dweud: ‘Maddeua imi am beth ddigwyddodd neithiwr. Y gwir yw, dw i eisiau bod fel ti. Dw i eisiau astudio’r Beibl.’ O’n i mor ddiolchgar fy mod i wedi gallu rheoli fy nhymer! Ac o ganlyniad, gwnaethon ni ddechrau astudio’r Beibl gyda’n gilydd.”

Darllenwch fwy am hanes Adrián yn Y Tŵr Gwylio Saesneg Rhif. 5 2016, tudalennau 14-15.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu