LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w22 Hydref tt. 18-23
  • Mae Doethineb Go Iawn yn Gweiddi’n Uchel

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae Doethineb Go Iawn yn Gweiddi’n Uchel
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE ADNABOD JEHOFA YN ARWAIN AT DDOETHINEB
  • PAM MAE POBL YN GWRTHOD DOETHINEB GO IAWN
  • MAE GWIR DDOETHINEB O LES INNI
  • Parha i Elwa o Ofn Duwiol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
w22 Hydref tt. 18-23

ERTHYGL ASTUDIO 43

Mae Doethineb Go Iawn yn Gweiddi’n Uchel

“Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd, ac yn codi ei llais ar y sgwâr.”—DIAR. 1:20.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

CIPOLWGa

1. Sut mae llawer yn ymateb i lais doethineb heddiw? (Diarhebion 1:20, 21)

MAE Tystion Jehofa ledled y byd wedi bod yn sefyll ar strydoedd prysur yn cynnig llenyddiaeth i bobl sy’n cerdded heibio. Wrth iti wneud hynny, wyt ti erioed wedi meddwl am yr adnod yn llyfr Diarhebion sy’n sôn am ddoethineb yn codi ei llais yn y sgwâr i bawb gael clywed ei chyngor? (Darllen Diarhebion 1:20, 21.) Mae’r Beibl a’n cyhoeddiadau yn llawn doethineb Jehofa. Dyma’r doethineb mae pobl ei hangen er mwyn cael byw am byth. Rydyn ni wrth ein boddau pan mae pobl yn cymryd llenyddiaeth, ond nid pawb sy’n gwneud hynny. Dydy rhai jest ddim eisiau gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Mae eraill yn chwerthin am ein pennau, neu’n meddwl bod y Beibl yn hen ffasiwn. Mae eraill yn edrych i lawr eu trwynau ar safonau moesol y Beibl a’r rhai sy’n eu dilyn, gan feddwl eu bod nhw’n rhy llym ac yn feirniadol. Er gwaethaf hynny, mae Jehofa yn dal ati i roi cyfle i bawb elwa ar ei ddoethineb. Ond sut?

2. Lle gallwn ni gael hyd i ddoethineb go iawn heddiw, ond beth mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis ei wneud?

2 Mae doethineb Jehofa ar gael i bawb drwy ei Air, y Beibl, a gyda’i help, mae ein cyhoeddiadau sy’n esbonio’r Beibl ar gael mewn dros fil o ieithoedd. Felly gall unrhyw un elwa o’i ddoethineb, dim ond iddyn nhw wrando a rhoi beth maen nhw’n ei ddysgu ar waith. Ond yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis anwybyddu doethineb go iawn. Mae’n well ganddyn nhw ddibynnu arnyn nhw’u hunain, neu wrando ar bobl eraill pan fydd ganddyn nhw benderfyniad i’w wneud. Mae rhai hyd yn oed yn ein bychanu ni am ein bod ni’n dewis dilyn y Beibl. Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam mae pobl yn gwneud hyn. Ond yn gyntaf, dewch inni weld sut gallwn ni gael doethineb Jehofa.

MAE ADNABOD JEHOFA YN ARWAIN AT DDOETHINEB

3. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cael doethineb go iawn?

3 Mae rhai yn diffinio doethineb fel y gallu i ddefnyddio beth rydyn ni’n ei wybod i wneud penderfyniadau da. Ond mae doethineb go iawn yn golygu mwy. Mae’r Beibl yn dweud: “Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.” (Diar. 9:10) Wrth wneud penderfyniadau mawr, bydd “nabod yr Un Sanctaidd” yn ein helpu ni i feddwl yr un ffordd ag ef. Bydd astudio’r Beibl a’n cyhoeddiadau yn ein helpu ni i wneud hynny. Mae hyn yn dangos doethineb go iawn.—Diar. 2:5-7.

4. Pam mai dim ond Jehofa sy’n gallu roi doethineb go iawn inni?

4 Jehofa ydy’r unig un sy’n gallu rhoi doethineb go iawn inni, am o leiaf dri rheswm. (Rhuf. 16:27) Yn gyntaf, ef sydd wedi ein creu. Felly mae’n gwybod pob manylyn am bawb a phopeth. (Salm 104:24, BCND) Yn ail, mae Jehofa wedi dangos doethineb ym mhopeth mae ef wedi ei wneud. (Rhuf. 11:33) Ac yn drydydd, mae ei gyngor wastad yn gwneud lles i’r rhai sy’n ei roi ar waith. (Diar. 2:10-12) Dyma’r pethau sylfaenol mae’n rhaid inni eu derbyn er mwyn cael doethineb go iawn. Byddan nhw’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau da.

5. Beth sy’n digwydd pan dydy pobl ddim yn derbyn mai Jehofa ydy ffynhonnell gwir ddoethineb?

5 Mae llawer o bobl yn y byd yn fodlon dweud bod byd natur wedi ei ddylunio mewn ffordd ryfeddol. Ond eto, maen nhw’n taeru does ’na ddim Creawdwr. Mae eraill yn dweud eu bod nhw’n credu yn Nuw ond eto’n meddwl bod safonau’r Beibl yn hen ffasiwn, ac yn benderfynol o fynd eu ffordd eu hunain. Ydy’r byd yn lle gwell am fod pobl yn dibynnu ar eu doethineb eu hunain yn hytrach na doethineb Duw? Ydyn nhw wedi cael hyd i wir hapusrwydd? A oes ganddyn nhw obaith cadarn ar gyfer y dyfodol? Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y ddihareb yn wir: “Does dim doethineb na deall na chyngor sy’n gallu ennill y dydd ar yr ARGLWYDD.” (Diar. 21:30) Er bod hynny yn rheswm gwych i droi at Jehofa am ddoethineb, dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwneud hynny. Pam?

PAM MAE POBL YN GWRTHOD DOETHINEB GO IAWN

6. Yn ôl Diarhebion 1:22-25, pwy sy’n anwybyddu doethineb go iawn?

6 Er bod doethineb “yn gweiddi ar y strydoedd,” mae’n aml yn syrthio ar glustiau byddar. Yn ôl y Beibl, mae ’na dri grŵp o bobl sy’n anwybyddu’r ddoethineb hon: y rhai ‘gwirion,’ y rhai “sy’n gwawdio,” a’r ‘rhai dwl.’ (Darllen Diarhebion 1:22-25.) Dewch inni weld pam maen nhw’n gwneud hynny, a sut gallwn ni osgoi datblygu agwedd debyg iddyn nhw.

7. Pam mae rhai yn dewis peidio â thalu sylw?

7 Yn yr iaith wreiddiol, mae’r ‘rhai gwirion’ yn cyfeirio at bobl sy’n naïf, yn ddi-brofiad, neu’n hawdd eu twyllo. (Diar. 14:15) Er enghraifft, meddylia am yr holl bobl rydyn ni’n eu cyfarfod ar y weinidogaeth sydd wedi cael eu camarwain gan arweinwyr crefyddol neu wleidyddol. Mae rhai’n synnu pan maen nhw’n sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu twyllo. Ond ar y llaw arall, mae Diarhebion 1:22 yn disgrifio’r rhai sy’n dewis peidio â thalu sylw am mai dyna sy’n well ganddyn nhw. (Jer. 5:31) Maen nhw’n mwynhau gwneud fel mynnan nhw, a dydyn nhw ddim eisiau gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud, na bod yn atebol i’w safonau. Mae llawer yn teimlo fel roedd un ddynes grefyddol yn Cwebéc, Canada. Dywedodd hi wrth Dyst a alwodd arni: “Os ydy ein gweinidog ni wedi ein camarwain ni, ei fai ef fydd hynny, nid ein bai ni!” Yn sicr dydyn ni ddim eisiau datblygu agwedd fel hynny.—Diar. 1:32; 27:12.

8. Sut gallwn ni “feddwl ac ymddwyn fel oedolion”?

8 Mae’r Beibl yn ein hannog ni i beidio â bod yn wirion, ond i “feddwl ac ymddwyn fel oedolion.” (1 Cor. 14:20) I wneud hynny, mae’n rhaid inni gael doethineb drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein bywydau. Fesul dipyn, rydyn ni’n dysgu sut mae’r egwyddorion hynny yn ein helpu ni i osgoi problemau a gwneud penderfyniadau da. Mae’n werth inni i gyd feddwl am y cynnydd rydyn ni wedi ei wneud hyd yn hyn. Er enghraifft, os wyt ti wedi bod yn astudio’r Beibl a mynd i’r cyfarfodydd ers tro, mae’n beth da i ofyn beth sy’n dy ddal di yn ôl rhag cysegru dy hun i Jehofa, a chael dy fedyddio. Neu os wyt ti eisoes wedi cael dy fedyddio, wyt ti’n gwella yn dy sgiliau pregethu a dysgu? Beth bynnag yw’r achos, ydy dy benderfyniadau’n dangos dy fod di’n rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn dy fywyd? A wyt ti’n dangos rhinweddau Cristnogol yn y ffordd rwyt ti’n trin eraill? Os wyt ti’n gweld dy fod gen ti le i wella, cofia fod Jehofa yn gallu “gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.”—Salm 19:7.

9. Sut mae’r rhai “sy’n gwawdio” yn dangos eu bod nhw’n gwrthod doethineb?

9 Yr ail grŵp sy’n anwybyddu doethineb Duw ydy’r rhai “sy’n gwawdio.” Yn aml iawn yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n dod ar draws pobl sy’n mwynhau gwneud hwyl am ein pennau. (Salm 123:4) Dydy hynny ddim yn ein synnu oherwydd dywedodd y Beibl y byddai hyn yn digwydd yn y dyddiau diwethaf. (2 Pedr 3:3, 4) Mae rhai pobl heddiw yn debyg i feibion-yng-nghyfraith Lot. Dydyn nhw ddim yn talu dim owns o sylw i rybuddion Duw. (Gen. 19:14) Am ein bod ni’n byw yn ôl safonau’r Beibl, rydyn ni’n destun sbort i’r rhai sy’n “gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.” (Jwd. 7, 17, 18) Onid ydy’r Beibl yn disgrifio agwedd gwrthgilwyr, ac eraill sy’n gwrthod Jehofa, i’r dim.

10. Yn ôl Salm 1:1, sut gallwn ni osgoi datblygu agwedd debyg i’r rhai sy’n gwawdio?

10 Un ffordd gallwn ni osgoi datblygu agwedd debyg i’r rhai sy’n gwawdio, ydy drwy osgoi cymysgu â phobl sy’n cwyno am bob dim. (Darllen Salm 1:1.) Mae hynny’n cynnwys peidio â gwrando ar wrthgilwyr, na darllen eu propaganda. Ac mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â dechrau cwyno am bopeth, ac amau Jehofa a’r arweiniad rydyn ni’n ei gael drwy ei gyfundrefn. I osgoi pethau fel ’na, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n dueddol o ddweud rhywbeth negyddol pan fyddwn ni’n cael arweiniad, neu ddealltwriaeth newydd? Ydw i’n un am bigo beiau’r rhai sy’n cymryd y blaen?’ Os ydyn ni’n cywiro agweddau o’r fath yn sydyn, byddwn ni’n plesio Jehofa.—Diar. 3:34, 35.

11. Sut mae’r ‘rhai dwl’ yn ystyried safonau moesol Jehofa?

11 Y trydydd grŵp sy’n gwrthod doethineb Duw ydy’r “rhai dwl.” Maen nhw’n ddwl oherwydd maen nhw’n gwneud beth sy’n iawn yn eu golwg eu hunain, yn hytrach na dilyn safonau moesol Duw. (Diar. 12:15) Dydyn nhw ddim eisiau dim byd i’w wneud â Jehofa, Ffynhonnell doethineb. (Salm 53:1) Maen nhw’n gallu bod yn annifyr â ni yn y weinidogaeth, a’n beirniadu ni am barchu safonau’r Beibl. Ond eto, does gynnon nhw ddim byd gwell i’w gynnig chwaith. Ac fel mae’r Beibl yn dweud: “Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; does ganddo ddim i’w ddweud.” (Diar. 24:7) Mewn geiriau eraill, does ganddyn nhw ddim byd call i’w ddweud. Does dim rhyfedd bod Jehofa yn ein rhybuddio ni i ‘gadw draw o gwmni person ffôl.’—Diar. 14:7.

12. Beth fydd yn ein helpu ni i beidio ag ymddwyn fel y rhai dwl?

12 Yn wahanol i’r rhai sy’n casáu cyngor Duw, rydyn ni’n caru safonau moesol Jehofa a’i ddoethineb. Meddylia am yr holl broblemau mae pobl yn eu hachosi iddyn nhw’u hunain am eu bod nhw wedi gwrthod cyngor doeth Jehofa. Yna, meddylia gymaint gwell ydy dy fywyd di am dy fod ti’n ufudd i Dduw. (Salm 32:8, 10) Onid ydy hynny’n gwneud iti garu ffyrdd Duw yn fwy byth?

13. Ydy Jehofa yn ein gorfodi ni i ddilyn ei gyngor doeth?

13 Mae doethineb Jehofa ar gael i bawb. Dydy ef ddim yn gorfodi neb i’w derbyn, ond mae’n ein rhybuddio ni o’r canlyniadau fydd yn dod o beidio â gwrando. (Diar. 1:29-32) Mae’r Beibl yn dweud yn glir y byddan nhw’n “wynebu canlyniadau [eu] ffyrdd.” Yn hwyr neu’n hwyrach, byddan nhw’n dod â phoen, dioddefaint, a dinistr arnyn nhw’u hunain. Ond beth am y rhai sy’n gwrando ar gyngor doeth Jehofa ac yn ei roi ar waith? Mae’n addo: “Bydd pwy bynnag sy’n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.”—Diar. 1:33.

MAE GWIR DDOETHINEB O LES INNI

Brawd yn ateb mewn cyfarfod.

Mae ateb yn y cyfarfodydd yn cryfhau ein perthynas â Jehofa (Gweler paragraff 15)

14-15. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Diarhebion 4:23?

14 Mae doethineb Duw wastad o les inni. Ac fel rydyn ni wedi trafod, mae doethineb Jehofa ar gael i bawb. Mae llyfr Diarhebion, er enghraifft, yn llawn o’i gyngor a bydd ein bywydau ond yn gwella o’i roi ar waith. Felly gad inni drafod pedair enghraifft o ddoethineb sydd yn y llyfr hwnnw.

15 Gwarchoda dy galon ffigurol. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd.” (Diar. 4:23) Rydyn ni’n edrych ar ôl ein calonnau llythrennol drwy fwyta’n iach, cael digon o ymarfer corff, ac osgoi arferion drwg. Mae’r un peth yn wir am ein calonnau ffigurol. Rydyn ni’n bwydo ein hunain yn ysbrydol drwy ddarllen y Beibl bob dydd, paratoi am y cyfarfodydd, ac ateb pan ydyn ni yno. Rydyn ni’n aros yn actif drwy gadw’n brysur yn y weinidogaeth, ac yn osgoi arferion drwg drwy gadw draw o unrhyw beth allai lygru ein meddyliau, fel adloniant anfoesol a chwmni drwg.

Teulu y tu allan i’w tŷ, yn hapus braf â beth sydd gynnon nhw. Mae’r fam yn coginio pryd o fwyd syml ar y tân. Gerllaw, mae’r tad yn defnyddio’r llyfr “Lessons You Can Learn From the Bible” i astudio gyda’u dau blentyn.

Bydd cael agwedd gytbwys tuag at arian yn ein helpu ni i fod yn hapus â beth sydd gynnon ni (Gweler paragraff 16)

16. Pam mae cyngor Diarhebion 23:4, 5 mor ymarferol heddiw?

16 Bydda’n fodlon â beth sydd gen ti. Mae’r Beibl yn dweud: “Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian; . . . cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae’n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.” (Diar. 23:4, 5) Mae cyfoeth yn gallu mynd a dod. Ond eto, mae ’na bobl gyfoethog a thlawd sy’n gwneud dim ond meddwl am arian. Mae’n gallu mynd yn gymaint o obsesiwn nes iddo chwalu eu henw da, eu perthynas ag eraill, a hyd yn oed eu hiechyd. (Diar. 28:20; 1 Tim. 6:9, 10) Ar y llaw arall, mae doethineb yn ein helpu ni i gadw agwedd gytbwys tuag at arian. Wedyn, yn hytrach na bod yn farus, byddwn ni’n fodlon ein byd.—Preg. 7:12.

Chwaer yn hel clecs wrth chwiorydd eraill yn y gynulleidfa. Mae dwy o’r chwiorydd yn glustiau i gyd, ond mae’r chwaer arall yn meddwl yn ofalus am beth mae hi’n ei glywed.

Drwy feddwl cyn siarad, gallwn ni osgoi brifo eraill â’n geiriau (Gweler paragraff 17)

17. Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n defnyddio “geiriau doeth”? (Diarhebion 12:18)

17 Meddylia cyn siarad. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu ond mae geiriau doeth yn iacháu.” (Diar. 12:18) Ie, os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ni frifo eraill â’n geiriau. I gadw ffrindiau da, mae’n rhaid inni osgoi cario clecs am wendidau eraill. (Diar. 20:19) Beth fydd yn ein helpu ni i iacháu yn hytrach na brifo â’n geiriau? Llenwi ein calonnau â doethineb Duw drwy ddarllen a myfyrio ar ei Air. (Luc 6:45) O ganlyniad byddwn ni fel “ffynnon o ddoethineb,” a bydd ein geiriau yn calonogi eraill.—Diar. 18:4.

Chwaer yn gwneud nodiadau wrth iddi wylio fideo sgwrs enghreifftiol o’r cyfarfod canol wythnos. Mae taflenni allan ganddi hefyd, ac mae ganddi’r ap JW Library ar agor ar ei ffôn.

Gall dilyn arweiniad y gyfundrefn ein helpu i wella ein sgiliau pregethu (Gweler paragraff 18)

18. Sut gall rhoi Diarhebion 24:6 ar waith ein helpu ni i lwyddo yn y weinidogaeth?

18 Dilyna arweiniad y gyfundrefn. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae angen strategaeth i ymladd brwydr, a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.” (Diar. 24:6) Sut mae dilyn yr egwyddor hon yn ein helpu ni i lwyddo yn ein gwaith pregethu a dysgu? Yn hytrach na dibynnu ar ein gallu ein hunain, rydyn ni’n hapus i dderbyn awgrymiadau gan eraill. Byddwn ni ar ein hennill o wrando ar sut mae brodyr a chwiorydd profiadol yn dysgu o’r Beibl yn y cyfarfodydd. Ar ben hynny, mae gynnon ni bentwr o gyhoeddiadau a fideos all helpu pobl i ddeall y Beibl. Wyt ti’n gwneud y defnydd gorau ohonyn nhw?

19. Sut rwyt ti’n teimlo am ddoethineb Jehofa? (Diarhebion 3:13-18)

19 Darllen Diarhebion 3:13-18. Ar ôl trafod llyfr Diarhebion, mae’n siŵr byddwn ni i gyd yn cytuno y bydden ni ar goll heb y ddoethineb ymarferol sydd ynddo. Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi llenwi ei Air â chymaint o ddoethineb. Felly bydda’n benderfynol o ddilyn ei gyngor ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud. Er dydy doethineb Duw ddim yn golygu llawer i bobl y byd, rydyn ni’n gwybod yn iawn bod y “rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus!”

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Sut gallwn ni gael doethineb go iawn?

  • Pam mae llawer yn anwybyddu llais doethineb, a beth ydy’r canlyniadau?

  • Pa gyngor o lyfr Diarhebion sy’n dy helpu di fwyaf?

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

a Mae doethineb Jehofa yn llawer gwell nag unrhyw beth mae’r byd yn ei gynnig. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod rhan ddiddorol o lyfr Diarhebion sy’n sôn am ddoethineb yn codi ei llais ar sgwâr y ddinas. Byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni gael doethineb go iawn, pam mae rhai yn ei hanwybyddu, a sut rydyn ni’n elwa o wrando ar ddoethineb Jehofa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu