HANES BYWYD
Rydw i Wedi Gweld Ffydd Pobl Jehofa
MAE’N debyg dy fod ti’n cofio sgyrsiau oedd yn enwedig o bwysig iti. Un sgwrs sy’n sefyll mas i mi oedd un ces i gyda ffrind tua 50 mlynedd yn ôl pan oedden ni’n gwersylla yn Cenia. Roedden ni’n eistedd o gwmpas y tân, ac roedd gynnon ni liw haul ar ôl bod yn teithio am fisoedd. Roedden ni wedi bod yn trafod ffilm oedd yn cynnwys pethau crefyddol, pan ddywedodd fy ffrind: “Roedd y ffilm yn rhoi darlun anghywir o’r Beibl.”
Gwnes i chwerthin a gofyn: “Beth wyt ti’n ei wybod am y Beibl?” achos doeddwn i ddim yn meddwl bod fy ffrind yn grefyddol. Gwnaeth e gymryd ei amser i ateb. O’r diwedd gwnaeth e gyfaddef bod ei fam yn un o’r Tystion, ac roedd e wedi dysgu ychydig ganddi. Roeddwn i’n awyddus i wybod mwy, felly gwnes i ei holi am y peth.
Gwnaethon ni sgwrsio bron drwy’r nos. Dywedodd fy ffrind mai Satan ydy rheolwr y byd yn ôl y Beibl. (Ioan 14:30) Efallai dy fod ti wedi gwybod hynny ar hyd dy oes, ond i mi roedd e’n syniad newydd a diddorol. Roeddwn i wastad wedi clywed mai Duw oedd yn rheoli’r byd, a’i fod yn garedig a theg. Ond doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr imi, achos roeddwn i wedi gweld cymaint o bethau drwg yn digwydd, er fy mod i ond yn 26 mlwydd oed.
Roedd fy nhad wedi bod yn beilot yn Awyrlu’r Unol Daleithiau. Felly hyd yn oed pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n gwybod bod ’na bosibilrwydd go iawn o ryfel niwclear. Tra oeddwn i yn y coleg yng Nghaliffornia, roedd y rhyfel yn Fietnam yn mynd ymlaen. Roeddwn i wastad yn ymuno â myfyrwyr eraill mewn protestiadau. Roedd yr heddlu yn dod ar ein holau gyda phastynau, wrth inni redeg i ffwrdd yn tagu a ddim yn gweld yn iawn oherwydd y nwy dagrau. Roedd ’na helynt a gwrthryfel ym mhobman. Cafodd arweinwyr gwleidyddol eu llofruddio, ac roedd pobl yn protestio ac yn codi terfysg. Roedd gan bawb farn wahanol ar beth ddylai gael ei wneud. Roedd hi’n annibendod llwyr.
O Lundain i Ganolbarth Affrica
Ym 1970, gwnes i ddechrau gweithio ar yr arfordir yng Ngogledd Alasga a gwneud llwyth o arian. Yna gwnes i hedfan i Lundain, prynu motobeic, a reidio i’r de heb syniad yn fy mhen o le roeddwn i’n mynd. Rai misoedd wedyn, roeddwn i wedi cyrraedd Affrica. Ar hyd y ffordd gwnes i gyfarfod pobl oedd â’r un awydd am ryddid—roedden ni i gyd eisiau dianc oddi wrth ein problemau.
Felly oherwydd popeth roeddwn i wedi ei weld a’i glywed, roedd dysgeidiaeth y Beibl bod ysbryd creadur drwg yn rheoli beth sy’n mynd ymlaen ar y ddaear yn gwneud synnwyr imi. Ond os nad oedd Duw yn rheoli’r byd, beth oedd e’n ei wneud? Roeddwn i eisiau gwybod.
Ces i hyd i’r ateb yn y misoedd wedyn. A dros amser rydw i hefyd wedi dod i ’nabod a charu llawer o ddynion a merched sydd wedi aros yn ffyddlon i’r unig wir Dduw o dan bob math o amgylchiadau.
GOGLEDD IWERDDON—“GWLAD Y BOM A’R BWLED”
Pan es i yn ôl i Lundain, gwnes i gysylltu â mam fy ffrind. Rhoddodd hi Feibl imi. Yn hwyrach, pan es i i Amsterdam yn yr Iseldiroedd, dyma un o’r Tystion yn fy ngweld i’n ei ddarllen o dan olau stryd, a gwnaeth e fy helpu i ddysgu mwy. Nesaf, es i i Ddulyn yn Iwerddon a chael hyd i swyddfa gangen Tystion Jehofa. Gwnes i gnocio ar y drws ffrynt, a dyna ble wnes i gyfarfod Arthur Matthews, brawd doeth a phrofiadol. Gwnes i ofyn am astudiaeth Feiblaidd, a gwnaeth e gytuno i astudio â mi.
Gwnes i ddechrau astudio’n frwdfrydig, a darllen y llyfrau a’r cylchgronau roedd y Tystion yn eu cyhoeddi. Ac wrth gwrs, roeddwn i wrth fy modd yn darllen y Beibl ei hun. Gwelais fod hyd yn oed y plant yn y cyfarfod yn gwybod yr atebion i gwestiynau oedd wedi achosi penbleth dros y canrifoedd i bobl ag addysg dda. Cwestiynau fel: ‘Pam mae pethau drwg yn digwydd? Pwy yw Duw? Beth sy’n digwydd inni ar ôl inni farw?’ Y Tystion oedd yr unig bobl roeddwn i’n treulio amser â nhw. Roedd hynny’n hawdd achos doeddwn i ddim yn ’nabod unrhyw un arall yn y wlad gyfan. Roedden nhw’n help mawr imi ddod i garu Jehofa ac eisiau gwneud ei ewyllys.
Nigel, Denis, a minnau
Ces i fy medyddio ym 1972. Flwyddyn wedyn, dechreuais arloesi mewn cynulleidfa fach iawn yn Newry, Gogledd Iwerddon. Gwnes i rentu bwthyn carreg ar fynydd ymhell o bob man. Gwartheg mewn cae cyfagos oedd fy unig gymdogion, ac roeddwn i’n ymarfer fy anerchiadau o’u blaenau nhw. I bob golwg, roedden nhw’n gwrando’n astud wrth gnoi cul. Ches i erioed gyngor ganddyn nhw, ond gwnaethon nhw fy helpu i gadw cyswllt llygaid! Ym 1974, ces i fy mhenodi yn arloeswr arbennig, a daeth Nigel Pitt i ymuno â fi. Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau ers hynny.
Roedd “Yr Helyntion” yn plagio Gogledd Iwerddon ar y pryd. Roedd rhai yn galw Gogledd Iwerddon “gwlad y bom a’r bwled.” Roedd hi’n gyffredin i weld pobl yn ymladd yn y strydoedd, yn cael eu saethu, a cheir yn ffrwydro. Roedd gwleidyddiaeth a chrefydd ynghlwm wrth y broblem. Ond roedden ni fel Tystion yn gallu pregethu yn rhydd ac yn ddiogel. Pam? Roedd y Catholigion a’r Protestaniaid yn gwybod yn iawn nad oedden ni’n cymryd ochrau mewn pethau gwleidyddol. Roedd y bobl leol yn aml yn gwybod pryd a ble i ddisgwyl helynt, felly roedden nhw’n ein rhybuddio ni fel ein bod ni’n gallu cadw draw.
Ond roedd ’na rai sefyllfaoedd peryglus. Un diwrnod, roeddwn i ar y weinidogaeth gydag arloeswr arall o’r enw Denis Carrigan mewn tref gyfagos. Doedd ’na ddim Tystion yno, ac roedden ni ond wedi bod i’r dref unwaith o’r blaen. Gwnaeth un fenyw ein cyhuddo ni o fod yn filwyr Prydeinig cudd, efallai oherwydd doedd gan yr un ohonon ni acen Gwyddeleg. Gwnaeth hyn ein dychryn ni, oherwydd gallet ti gael dy ladd neu dy saethu drwy’r pen-glin jyst am fod yn gyfeillgar â milwyr. Wrth inni sefyll tu fas yn aros am y bws, yn oer ac ar ein pennau’n hunain, dyma gar yn cyrraedd wrth y caffi ble roedd y fenyw wedi ein cyhuddo ni. Daeth hi mas a siarad â’r ddau ddyn yn y car, a pwyntio aton ni yn llawn cyffro. Daeth y car aton ni yn araf deg, a gofynnodd y dynion ychydig o gwestiynau inni am amserlen y bws. Pan gyrhaeddodd y bws, siaradon nhw â’r gyrrwr ond doedden ni ddim yn clywed gair o beth oedd yn cael ei ddweud. Doedd ’na neb arall ar y bws felly roedden ni’n ofni eu bod nhw’n trefnu i ddelio gyda ni tu fas i’r dref. Ond nid dyna ddigwyddodd. Wrth imi gamu oddi ar y bws, gwnes i ofyn i’r gyrrwr: “Oedd y dynion yn holi amdanon ni?” Atebodd: “Dw i’n gwybod pwy ’dych chi, a gwnes i ddweud hynny wrthyn nhw. Peidiwch â becso, ’dych chi’n ddigon saff.”
Ar ddiwrnod ein priodas, Mawrth 1977
Mewn cynhadledd ranbarthol yn Nulyn ym 1976, gwnes i gyfarfod Pauline Lomax, arloeswraig arbennig oedd yn ymweld o Loegr. Roedd hi’n chwaer hyfryd, yn ysbrydol ac yn ostyngedig, ac roedd hi a’i brawd, Ray, wedi bod yn y gwir ar hyd eu hoes. Flwyddyn wedyn, gwnes i briodi Pauline a gwnaethon ni barhau fel arloeswyr arbennig yn Ballymena, Gogledd Iwerddon.
Am sbel, roedden ni’n gwasanaethu ein brodyr a’n chwiorydd yn y gwaith cylch yn Belfast, Londonderry, a llefydd peryglus eraill. Er mwyn gwasanaethu Jehofa, roedd ein brodyr a’n chwiorydd wedi cefnu ar ddaliadau crefyddol a’u teimladau o ragfarn a chasineb oedd wedi eu gwreiddio’n ddwfn. Roedd eu ffydd yn cyffwrdd â’n calonnau, ac yn bendant gwnaeth Jehofa eu bendithio nhw a’u hamddiffyn nhw!
Ym 1981, ar ôl imi fyw yn Iwerddon am ddeg mlynedd, cawson ni ein gwahodd i ddosbarth 72 Gilead. Ar ôl graddio, cawson ni ein haseinio i Sierra Leone, Gorllewin Affrica.
SIERRA LEONE—FFYDD YNG NGHANOL TLODI
Roedden ni’n byw gydag 11 o genhadon hyfryd. Rhyngon ni, roedd gynnon ni un gegin, tri tŷ bach, dwy gawod, un ffôn, un peiriant golchi dillad, ac un peiriant sychu. Yn aml roedd y trydan yn diffodd heb rybudd. Roedd yr atig yn llawn llygod mawr, ac roedd nadroedd yn aml yn sleifio i mewn i’r seler.
Croesi afon i fynd i gynhadledd yn Gini
Er nad oedd hi wastad yn hawdd byw yno, roedden ni’n cael llawenydd mawr yn y weinidogaeth. Roedd pobl yn parchu’r Beibl ac felly roedden nhw’n gwrando’n astud, a gwnaeth llawer dderbyn astudiaeth a dod i mewn i’r gwir. Roedd y bobl leol yn fy ngalw i’n “Mister Robert,” a Pauline yn “Misus Robert.” Ond ar ôl sbel, gwnes i ddechrau treulio mwy o amser yn gweithio yn swyddfa’r gangen ac felly llai o amser yn pregethu. Felly dyma bobl yn dechrau galw Pauline yn “Misus Pauline” a fi yn “Mister Pauline.” Roedd Pauline wrth ei bodd!
Ar daith i bregethu yn Sierra Leone
Roedd llawer o’r brodyr a’r chwiorydd yn dlawd, ond eto roedd Jehofa wastad yn gofalu amdanyn nhw, weithiau mewn ffyrdd rhyfeddol. (Math. 6:33) Rydw i’n cofio un chwaer oedd ond gyda digon o arian i brynu bwyd iddi hi a’i phlant am y diwrnod, ond gwnaeth hi roi pob ceiniog i frawd sâl oedd methu fforddio meddyginiaeth malaria. Yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, yn hollol annisgwyl, gwnaeth y chwaer gael ei thalu gan fenyw oedd eisiau iddi steilio ei gwallt. Roedd pethau tebyg yn digwydd yn aml.
DYSGU DIWYLLIANT NEWYDD YN NIGERIA
Ar ôl naw mlynedd yn Sierra Leone, cawson ni ein hailaseinio i’r Bethel yn Nigeria a oedd yn gangen fawr. Roeddwn i’n gweithio mewn swyddfa yn gwneud yr un fath o waith roeddwn i’n ei wneud yn Sierra Leone. Ond i Pauline, roedd hi’n newid mawr ac yn anodd iddi. Roedd hi wedi arfer treulio 130 awr y mis yn y weinidogaeth ac roedd ei hastudiaethau Beiblaidd yn gwneud cynnydd. Ond nawr, ei haseiniad oedd gwnïo trwy’r dydd, yn trwsio dillad. Cymerodd amser iddi addasu, ond daeth hi i sylweddoli bod eraill yn gwerthfawrogi ei gwaith, felly gwnaeth hi ganolbwyntio ar wneud ei gorau i galonogi eraill yn y Bethel.
Roedd y diwylliant yn Nigeria yn hollol newydd inni. Un tro, daeth brawd i fy swyddfa i gyflwyno chwaer oedd newydd gychwyn yn y Bethel. Wrth imi fynd i ysgwyd ei llaw, gwnaeth hi ymgrymu o fy mlaen. Roedd hynny’n sioc imi! Daeth dwy ysgrythur i fy meddwl: Actau 10:25, 26 a Datguddiad 19:10. Ac roeddwn i’n meddwl, ‘Ddylwn i ddweud wrthi am beidio â gwneud hynny?’ Ond wrth gwrs, roedd hi wedi cael ei derbyn i weithio yn y Bethel, felly roedd hi’n amlwg yn gwybod beth oedd y Beibl yn ei ddysgu.
Felly gwnes i fwydro fy ffordd drwy weddill y sgwrs. Yn hwyrach ymlaen, drwy wneud ymchwil dysgais fod y chwaer wedi dilyn traddodiad oedd yn dal yn gyffredin mewn rhai ardaloedd yn y wlad. Roedd yn ffordd o ddangos parch, a byddai dynion yn gwneud yr un peth. Doedd hi ddim yn fath o addoliad, ac mae ’na esiamplau tebyg yn y Beibl. (1 Sam. 24:8) Roeddwn i mor falch fy mod i heb ddweud unrhyw beth difeddwl fyddai wedi codi cywilydd ar fy chwaer.
Gwnaethon ni gyfarfod llawer o frodyr a chwiorydd yn Nigeria wnaeth ddangos ffydd ryfeddol. Er enghraifft, Isaiah Adagbona.a Daeth i mewn i’r gwir pan oedd yn ddyn ifanc, ond yn hwyrach ymlaen cafodd ei ddiagnosio â’r gwahanglwyf a’i anfon i gymuned ar gyfer pobl â’r un afiechyd. Fe oedd yr unig Dyst yno. Er gwaethaf gwrthwynebiad, helpodd fwy na 30 oedd yno i dderbyn y gwir, a chafodd cynulleidfa ei sefydlu yno.
CENIA—ROEDD Y BRODYR YN AMYNEDDGAR Â MI
Cyfarfod rhinoseros amddifad yn Cenia
Ym 1996, cawson ni ein haseinio i gangen Cenia. Dyma’r tro cyntaf imi fod yn ôl yno ers yr adeg gwnes i sôn amdano ar y cychwyn. Roedden ni’n byw yn y Bethel, ac ymysg y rhai oedd yn ymweld â’r lle oedd mwncïod ferfet. Roedd y rhain yn dwyn ffrwythau o ddwylo rhai o’r chwiorydd. Un diwrnod, roedd chwaer wedi gadael ei ffenest ar agor, a phan ddaeth hi adref roedd y lle yn llawn mwncïod yn gwledda ar y bwyd oedd yn ei hystafell. Gwnaeth hi sgrechian a rhedeg mas drwy’r drws. Gwnaeth y mwncïod sgrechian hefyd a neidio mas o’r ffenest!
Gwnaeth Pauline a minnau ymuno â chynulleidfa Swahili. Roedden ni heb fod yno’n hir pan ges i fy aseinio i gynnal Astudiaeth Llyfr y Gynulleidfa (sydd bellach yn cael ei alw’n Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa). Ond doedd fy nealltwriaeth o’r iaith ddim llawer gwell na phlentyn bach, felly er mwyn gallu darllen y cwestiynau, byddwn i’n astudio’r deunydd o flaen llaw. Ond os oedd atebion y brodyr a’r chwiorydd hyd yn oed fymryn yn wahanol i beth oedd ar bapur, doeddwn i ddim yn eu deall nhw. Roedd hynny mor chwithig, roeddwn i’n teimlo’n sori dros y brodyr a’r chwiorydd. Ond er gwaethaf hynny, roedden nhw’n fodlon derbyn y sefyllfa yn ostyngedig ac yn llawn amynedd. Roeddwn i’n edmygu hynny.
YR UNOL DALEITHIAU—FFYDD YNG NGHANOL CYFOETH
Cawson ni ein gwahodd i’r Bethel yn Brooklyn, Efrog Newydd ym 1997, ar ôl treulio llai na blwyddyn yn Cenia. Nawr, roedden ni mewn gwlad gyfoethog. Er bod hynny’n dod â phroblemau unigryw, mae ein brodyr a’n chwiorydd yno yn dangos ffydd gref. (Diar. 30:8, 9) Dydyn nhw ddim yn defnyddio eu hamser a’u heiddo i wneud eu hunain yn fwy cyfoethog, ond i gefnogi gwaith cyfundrefn Jehofa.
Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld ffydd ein brodyr a’n chwiorydd mewn gwahanol amgylchiadau. Yn Iwerddon, ffydd er gwaethaf gwrthdaro. Yn Affrica, ffydd er gwaethaf tlodi ac unigrwydd. Ac yn yr Unol Daleithiau, ffydd er gwaethaf cyfoeth. Mae’n rhaid bod Jehofa wrth ei fodd wrth weld pobl yn dangos eu cariad ato er gwaethaf pob math o sefyllfaoedd.
Gyda Pauline yn Bethel Warwick
Rydw i’n cytuno â geiriau Job 7:6 sy’n dweud: “Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd.” Rydyn ni bellach yn y pencadlys yn Warwick, Efrog Newydd, yn gweithio ochr yn ochr â phobl sydd wir yn caru ei gilydd. Rydyn ni’n hapus ac yn fodlon i wneud ein rhan i gefnogi ein Brenin, Iesu Grist, fydd yn fuan yn gwobrwyo’r llu o bobl sy’n ffyddlon iddo.—Math. 25:34.
a Mae hanes bywyd Isaiah Adagbona i’w gael yn rhifyn Ebrill 1, 1998, Y Tŵr Gwylio Saesneg, tudalennau 22-27. Bu farw yn 2010.