LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w24 Gorffennaf t. 30-t. 31 par. 2
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
w24 Gorffennaf t. 30-t. 31 par. 2
Pobl yn mwynhau bywyd ar baradwys ddaear. Yn y pellter, mae afon yn llifo o’r ddinas symbolaidd Jerwsalem Newydd. Mae coed deiliog yn tyfu ar ddwy ochr yr afon.

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pwy sy’n ‘codi’ ac yn ‘disgleirio’ yn Eseia 60:1?

Mae Eseia 60:1 yn dweud: “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!” Mae’r cyd-destun yn dangos bod yr adnod yn cyfeirio at Seion, neu Jerwsalem, prif ddinas Jwda ar yr adeg.a (Esei. 60:14; 62:​1, 2) Mae’r ddinas yn cynrychioli’r genedl gyfan. Mae geiriau Eseia yn codi dau gwestiwn: Yn gyntaf, sut a phryd gwnaeth Jerwsalem ‘godi’ a ‘disgleirio’ golau ysbrydol? Yn ail, ydy geiriau Eseia hefyd yn cael eu cyflawni heddiw?

Sut a phryd gwnaeth Jerwsalem ‘godi’ a ‘disgleirio’ golau ysbrydol? Roedd Jerwsalem a’i theml yn adfeilion tra oedd yr Iddewon yn alltudion ym Mabilon am 70 o flynyddoedd. Ond ar ôl i Fabilon gael ei choncro gan y Mediaid a’r Persiaid, roedd Israeliaid o bob cwr o Ymerodraeth Babilon yn gallu mynd yn ôl i’w mamwlad ac adfer addoliad pur. (Esra 1:​1-4) Ac ym 537 COG fe ddaeth y rhai cyntaf, pobl ffyddlon o 12 llwyth Israel, yn ôl i Jerwsalem. (Esei. 60:4) Dechreuon nhw aberthu i Jehofa, dathlu’r gwyliau, ac ailadeiladu’r deml. (Esra 3:​1-4, 7-11; 6:​16-22) Unwaith eto, roedd gogoniant Jehofa yn disgleirio ar Jerwsalem—hynny ydy, ar bobl Dduw. Yna, gwnaethon nhw ddechrau dod â goleuni i’r cenhedloedd o’u cwmpas nhw a oedd mewn tywyllwch ysbrydol.

Ond, ni chafodd proffwydoliaethau Eseia eu cyflawni yn llawn bryd hynny. Ni wnaeth y rhan fwyaf o’r Israeliaid barhau i addoli Duw. (Neh. 13:27; Mal. 1:​6-8; 2:​13, 14; Math. 15:​7-9) Yn nes ymlaen, fe wnaethon nhw hyd yn oed wrthod y Meseia, Iesu Grist. (Math. 27:​1, 2) Felly, yn 70 OG, cafodd Jerwsalem a’i theml eu dinistrio eto.

Rhagfynegodd Jehofa’r canlyniadau trist hynny. (Dan. 9:​24-27) Yn amlwg, doedd ef ddim yn bwriadu i’r Jerwsalem ddaearol gyflawni pob rhan o’r proffwydoliaethau yn Eseia pennod 60.

Ydy geiriau Eseia yn cael eu cyflawni heddiw? Ydyn, ond yn y “Jerwsalem uwchben.” Ysgrifennodd yr apostol Paul amdani: “Hi yw ein mam.” (Gal. 4:26) Mae’r Jerwsalem uwchben yn cyfeirio at ran nefol cyfundrefn Jehofa o ysbryd greaduriaid ffyddlon. Mae ei phlant yn cynnwys Iesu a’r 144,000 o Gristnogion eneiniog sydd â’r gobaith nefol, fel Paul. Mae’r eneiniog yn cael eu galw’n “genedl sanctaidd,” neu “Israel Duw.”—1 Pedr 2:9; Gal. 6:16.

Sut gwnaeth y Jerwsalem uwchben ‘godi’ a ‘disgleirio’? Trwy ei meibion eneiniog ar y ddaear. Ystyria sut mae eu profiadau yn debyg i’r proffwydoliaethau yn Eseia pennod 60.

Roedd rhaid i Gristnogion eneiniog ‘godi’ o dywyllwch ysbrydol ar ôl cael eu llethu gan wrthgiliad yn ystod yr ail ganrif. (Math. 13:​37-43) O ganlyniad i hynny, roedden nhw mewn caethiwed i Fabilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, tan ‘gyfnod olaf y system hon,’ adeg a ddechreuodd ym 1914. (Math. 13:​39, 40) Yn fuan wedyn, ym 1919, cawson nhw eu rhyddhau a dechreuon nhw ddisgleirio golau ysbrydol yn syth drwy wneud ymdrech arbennig yn y weinidogaeth.b Dros y blynyddoedd, mae pobl o bob cenedl wedi dod i’r goleuni hwnnw, gan gynnwys gweddill Israel Duw—y “brenhinoedd” sy’n cael eu sôn amdanyn nhw yn Eseia 60:3.—Dat. 5:​9, 10.

Yn y dyfodol, bydd Cristnogion eneiniog yn adlewyrchu golau ysbrydol yn fwy byth. Sut felly? Pan maen nhw’n gorffen eu bywydau ar y ddaear, byddan nhw’n dod yn rhan o “Jerwsalem Newydd,” neu briodferch Crist, sef y 144,000 o frenhinoedd ac offeiriaid.—Dat. 14:1; 21:​1, 2, 24; 22:​3-5.

Bydd Jerwsalem Newydd yn chwarae rôl bwysig yng nghyflawniad Eseia 60:1. (Cymhara Eseia 60:​1, 3, 5, 11, 19, 20 â Datguddiad 21:​2, 9-11, 22-26.) Yn union fel roedd Jerwsalem ddaearol yn ganolfan llywodraeth Israel gynt, bydd Jerwsalem Newydd a Christ Iesu yn llywodraethu dros y system newydd. Sut mae Jerwsalem Newydd yn “dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw”? Drwy weithredu mewn ffordd sy’n effeithio ar y ddaear. Bydd pobl dduwiol o bob cenedl “yn cerdded yn ei goleuni,” a byddan nhw’n rhydd o bechod a marwolaeth. (Dat. 21:​3, 4, 24) O ganlyniad i hynny, bydd popeth yn cael ei adfer yn union fel dywedodd Eseia a phroffwydi eraill. (Act. 3:21) Dechreuodd popeth gael ei adfer pan ddaeth Iesu’n Frenin a bydd yn gorffen ar ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd.

a Yn Eseia 60:​1, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn sôn am “ddynes” yn hytrach na “Seion,” neu “Jerwsalem,” oherwydd bod y berfau gorchmynnol Hebraeg ar gyfer “cod” a “disgleiria” yn fenywaidd. Mae’r cyfieithiad Saesneg wedi ychwanegu’r gair “dynes” i helpu darllenwyr i ddeall bod yr adnod yn cyfeirio at ddynes symbolaidd.

b Disgrifiwyd yr adferiad ysbrydol a ddigwyddodd ym 1919 yn Eseciel 37:​1-14 a Datguddiad 11:​7-12. Rhagfynegodd Eseciel y byddai Cristnogion eneiniog i gyd yn cael eu hadfer yn ysbrydol ar ôl cyfnod hir o gaethiwed. Mae’r broffwydoliaeth yn Datguddiad yn cyfeirio at ailenedigaeth ysbrydol. Cafodd hon ei chyflawni pan gafodd grŵp bach o frodyr eneiniog a oedd yn cymryd y blaen eu rhyddhau ar ôl cael eu caethiwo yn anghyfiawn. Yn ystod y cyfnod byr hwnnw doedden nhw ddim yn gallu gweithredu mewn ffordd ysbrydol. Ym 1919, cawson nhw eu penodi fel y “gwas ffyddlon a chall.”—Math. 24:45; gweler Pure Worship of Jehovah—Restored At Last! t. 118.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu