LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 29
  • Sut i Reoli Pryder

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Reoli Pryder
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Awgrymiadau i leihau pryder
  • Sut i Ddelio â Phroblem Iechyd Annisgwyl
    Pynciau Eraill
  • Ceisia’r Deyrnas, Nid Pethau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Sut Galla’ i Feithrin yr Awydd i Wneud Ymarfer Corff?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Ymdopi â Galar—Yr Hyn Gallwch Chi ei Wneud Heddiw
    Deffrwch!—2018
Gweld Mwy
Pynciau Eraill
mrt erthygl 29
Dyn mewn oed a golwg bryderus arno.

Sut i Reoli Pryder

Mae pryderu’n ormodol yn gallu eich niweidio’n gorfforol ac yn emosiynol. Gall hyd yn oed arwain at broblemau mwy na’r broblem oeddech chi’n poeni amdani yn y lle cyntaf.

Awgrymiadau i leihau pryder

  • Wyneb trist.

    Peidiwch â gwylio, darllen neu wrando ar ormod o newyddion negyddol. Does dim rhaid ichi wybod pob manylyn am ryw greisis. Bydd gormod o adroddiadau dychrynllyd dim ond yn gwaethygu eich teimladau o ofn ac anobaith.

    Egwyddor o’r Beibl: “Mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn.”—Diarhebion 17:22.

    “Mae’n ddigon hawdd mynd yn gaeth i’r newyddion syfrdanol diweddaraf, ond dydy hynny ddim yn beth iach. Dw i’n pryderu llawer llai pan fydda i’n gwylio llai o newyddion.”—John.

    Rhywbeth i’w ystyried: Pa mor aml ydych chi wir angen gwybod y newyddion diweddaraf?

  • Cloc.

    Cadwch at rwtîn. Ceisiwch ddeffro, bwyta, gwneud gwaith tŷ a mynd i gysgu ar yr un amser bob dydd. Bydd cael rwtîn yn eich helpu i gadw rhyw fath o normalrwydd yn eich bywyd ac yn eich helpu i leihau eich pryderon.

    Egwyddor o’r Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.

    “Pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, wnes i esgeuluso fy rwtîn gan dreulio gormod o amser ar adloniant. O’n i eisiau gwneud defnydd gwell o fy amser, felly wnes i amserlen i ofalu am fy nghyfrifoldebau bob dydd.”—Joseph.

    Rhywbeth i’w ystyried: Oes gynnoch chi rwtîn sy’n eich helpu i deimlo ar ddiwedd bob dydd eich bod chi wedi gwneud rhywbeth gwerth chweil?

  • Wyneb hapus.

    Canolbwyntiwch ar y pethau positif. Os ydych chi’n meddwl yn aml am beth allech chi fod wedi ei wneud yn wahanol yn y gorffennol, ac am y pethau drwg a allai digwydd yn y dyfodol, bydd hyn ond yn ychwanegu at eich pryder. Yn hytrach, meddyliwch am ddau neu dri pheth gallwch chi fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

    Egwyddor o’r Beibl: “Byddwch yn ddiolchgar.”—Colosiaid 3:15.

    “Mae darllen y Beibl yn fy helpu i osgoi newyddion negyddol ac i ganolbwyntio ar bethau positif yn eu lle. Efallai bod hynny’n swnio’n rhy syml, ond mae’n gweithio!”—Lisa.

    Rhywbeth i’w ystyried: Ydych chi’n tueddu i hel meddyliau am y pethau negatif yn eich bywyd a chau allan y positif?

  • Anrheg.

    Meddyliwch am eraill. Yn hytrach na chadw ar wahân—sydd mor hawdd gwneud os ydych chi wedi cael eich llethu gan bryder—meddyliwch am sut gallwch chi helpu eraill mewn angen.

    Egwyddor o’r Beibl: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:4.

    “Mae gwneud pethau ar gyfer pobl eraill yn fy ngwneud i’n hapus. Dw i’n gwneud rhywbeth sy’n codi eu calonnau nhw, ac ar yr un pryd dw i’n lleihau fy mhryderon i. A dweud y gwir, does gen i ddim amser ar ôl i bryderu.”—Maria.

    Rhywbeth i’w ystyried: O’r bobl rydych chi’n eu hadnabod, pa rai sydd angen help ychwanegol, a beth allwch chi ei wneud i’w helpu?

  • Calon.

    Cadwch yn iach. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael digon o ymarfer corff a gorffwys. Bwytewch fwydydd iach. Gall cymryd gofal o’ch iechyd corfforol wneud ichi deimlo’n fwy gobeithiol a’ch helpu i beidio â phryderu.

    Egwyddor o’r Beibl: “Mae ymarfer corff yn beth da.”—1 Timotheus 4:8.

    “Alla i a fy mab ddim gwneud gymaint o ymarfer corff a fydden ni’n hoffi, felly ’dyn ni wedi gwneud ymarfer corff dan do yn rhan o’n rwtîn gartref. Mae hyn wedi gwneud i ni’n hunain deimlo’n hapusach a hyd yn oed ein gwneud ni’n fwy amyneddgar â’n gilydd.”—Catherine.

    Rhywbeth i’w ystyried: Ydych chi angen bwyta bwyd iachach a gwneud mwy o ymarfer corff?

Yn ogystal â rhoi’r awgrymiadau hyn ar waith i leihau pryder, mae llawer o bobl wedi elwa ar ddysgu am addewidion dibynadwy’r Beibl am ddyfodol gwell. Gweler yr erthygl “Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?”

Adnodau o’r Beibl am bryder

Salm 55:22: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.”a

Beth mae’n ei olygu: Gallwn ni roi ein beichiau, sy’n cynnwys ein pryderon, i Dduw drwy weddi. Mae gweddi yn gyfathrebu go iawn â’r Creawdwr, sy’n ein cynnal a’n “cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 Corinthiaid 1:3, 4.

Diarhebion 12:25: “Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.”

Beth mae’n ei olygu: Siaradwch ag aelodau’r teulu neu ffrindiau a fydd yn gallu rhoi geiriau o gysur a chymorth ymarferol.

Mathew 6:27: “Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!”

Beth mae’n ei olygu: Yn aml, fydd pryderu ddim yn helpu o gwbl. Fydd poeni am bethau ddim yn gwella’r sefyllfa nac yn eich helpu i ddatrys problemau.

Mathew 6:31, 32: “Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ . . . Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi.”

Beth mae’n ei olygu: Mae Jehofa Dduw yn gwybod beth sydd ei angen arnon ni o ran bwyd, dillad, a rhywle i fyw hyd yn oed cyn inni wybod ein hunain.

a Mae ARGLWYDD yn cyfeirio at Jehofa, sef enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu