LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 31
  • Ai Cwlt Yw Tystion Jehofa?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ai Cwlt Yw Tystion Jehofa?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth yw cwlt?
  • Ydy Tystion Jehofa yn Sect neu Enwad Americanaidd?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 31
Un o Dystion Jehofa yn cynnal gwersi llythrennedd i ddosbarth.

Ai Cwlt Yw Tystion Jehofa?

Nac ydyn, nid cwlt yw Tystion Jehofa. Yn hytrach rydyn ni’n Gristnogion sydd yn gwneud ein gorau i ddilyn yr enghraifft a osododd Iesu Grist ac i fyw yn unol â’i ddysgeidiaethau.

Beth yw cwlt?

Mae ystyron amryw i’r term “cwlt,” yn dibynnu ar y person. Gan dderbyn hynny, ystyriwch ddwy o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o adnabod cwlt a pham nad ydyn nhw’n berthnasol i ni.

  • Mae rhai yn gweld cwlt fel crefydd o’r newydd neu’n un ansafonol. Nid yw Tystion Jehofa wedi ffurfio crefydd o’r newydd. I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n patrymu ein haddoliad ar enghraifft a dysgeidiaethau Cristnogion y ganrif gyntaf sydd wedi eu cofnodi yn y Beibl. (2 Timotheus 3:​16, 17) Fe gredwn ni mai Ysgrythur Sanctaidd sydd yn awdurdodi ar yr hyn sydd yn safonol ynglŷn ag addoliad.

  • Mae rhai yn gweld cwlt fel sect grefyddol beryglus sydd â bod dynol yn ben iddo. Nid yw Tystion Jehofa yn edrych at unrhyw unigolyn fel eu harweinydd. Yn hytrach rydyn ni’n cadw at y safon a ddarparodd Iesu i’w ddilynwyr pan ddywedodd ef: “Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw.”​—Mathew 23:10.

Yn bell o fod yn gwlt peryglus, mae Tystion Jehofa yn ymarfer crefydd sydd yn fuddiol iddyn nhw ac i eraill yn y gymuned. Er enghraifft, mae ein gweinidogaeth wedi helpu llawer o bobl i oresgyn arferion niweidiol fel camddefnydd o gyffuriau ac alcohol. Yn ogystal, rydyn ni’n cynnal gwersi llythrennedd ledled y byd, sydd wedi dysgu miloedd sut i ddarllen ac ysgrifennu. Hefyd rydyn ni bob amser yn brysur yn darparu cymorth ar adeg trychinebau. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddylanwadu’n bositif ar eraill, fel gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr.​—Mathew 5:​13-​16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu