LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 54
  • Beth Yw Safbwynt Tystion Jehofa ar Ysgariad?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Safbwynt Tystion Jehofa ar Ysgariad?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • A ydy Tystion Jehofa yn ceisio helpu cyplau sydd â phroblemau yn eu priodas?
  • A oes rhaid i henuriaid roi caniatâd cyn i Dyst ysgaru?
  • Beth yw safbwynt Tystion Jehofa ar wahanu?
  • Agwedd y Beibl Tuag at Ysgaru a Gwahanu
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Parcha “Beth Mae Duw Wedi’i Uno”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 54
Llun priodas wedi ei rwygo yn ei hanner

Beth Yw Safbwynt Tystion Jehofa ar Ysgariad?

Rydyn ni’n cadw at safonau’r Beibl ynglŷn â phriodi ac ysgaru. Roedd Duw yn bwriadu i briodas fod yn drefniant rhwng dyn a dynes a fyddai’n para am byth. Yr unig sail Ysgrythurol dros ysgaru ydy anfoesoldeb rhywiol.​—Mathew 19:​5, 6, 9.

A ydy Tystion Jehofa yn ceisio helpu cyplau sydd â phroblemau yn eu priodas?

Ydyn, mewn sawl ffordd:

  • Cyhoeddiadau. Mae ein cyhoeddiadau yn aml yn cynnwys gwybodaeth a all gryfhau priodasau, hyd yn oed y rhai sy’n ymddangos eu bod nhw heb obaith. Er enghraifft, gweler yr erthyglau “Maintaining Commitment in Your Marriage,” “How to Forgive,” a “Rebuilding Trust in a Marriage.”

  • Cyfarfodydd. Rydyn ni’n trafod cyngor ymarferol am briodas yn ystod ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau.

  • Henuriaid. Mae’r henuriaid yn y gynulleidfa yn cynnig help i gyplau priod, gan dynnu eu sylw at adnodau fel Effesiaid 5:​22-​25.

A oes rhaid i henuriaid roi caniatâd cyn i Dyst ysgaru?

Nag oes. Hyd yn oed os ydy cwpl yn gofyn i’r henuriaid eu helpu nhw â’u problemau priodasol, nid oes gan yr henuriaid yr awdurdod i ddweud wrth y cwpl beth i’w wneud. (Galatiaid 6:5) Er hynny, os ydy rhywun yn dewis ysgaru heb sail Ysgrythurol, dydy ef ddim yn rhydd yn Ysgrythurol i ailbriodi.​—1 Timotheus 3:​1, 5, 12.

Beth yw safbwynt Tystion Jehofa ar wahanu?

Mae’r Beibl yn annog cyplau priod i aros gyda’i gilydd hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. (1 Corinthiaid 7:​10-​16) Gall llawer o broblemau gael eu datrys drwy weddïo’n daer, drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith, a thrwy ddangos cariad.​—1 Corinthiaid 13:​4-8; Galatiaid 5:​22.

Gwaetha’r modd, mewn sefyllfaoedd eithriadol, fel y rhai canlynol, mae rhai Cristnogion wedi dewis gwahanu o’u cymar:

  • Gwrthod cynnal y teulu.​—1 Timotheus 5:8.

  • Camdriniaeth gorfforol ddifrifol.​—Salm 11:5.

  • Peryglu bywyd ysbrydol. Er enghraifft, petasai cymar yn ceisio gorfodi Tyst i dorri un o orchmynion Duw, efallai byddai’r Tyst yn dod i’r casgliad mai gwahanu yw’r unig ffordd i “ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion.”​—Actau 5:​29.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu