LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 143
  • Ydy Ysmygu yn Bechod?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy Ysmygu yn Bechod?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Ydy’r Beibl yn dweud rhywbeth am ddefnydd cyffuriau adloniant fel mariwana?
  • Paratoi ar Gyfer Yr Anawsterau
    Deffrwch!—2010
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 143
Ysmygu sigarét

Ydy Ysmygu yn Bechod?

Ateb y Beibl

Nid yw’r Beibl yn sôn am ysmygua nac unrhyw ffordd arall o ddefnyddio tybaco. Ond, mae’n cynnwys egwyddorion sy’n dangos bod Duw ddim yn cymeradwyo arferion sy’n afiach ac yn aflan, ac felly’n gweld ysmygu yn bechod.

  • Parch am fywyd. “Duw . . . sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.” (Actau 17:24, 25) Gan fod bywyd yn rhodd gan Dduw, dylen ni beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n cwtogi ein bywyd, fel ysmygu. Ledled y byd, mae ysmygu yn un o brif achosion marwolaeth y gellir ei atal.

  • Cariad am gymydog. “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” (Mathew 22:39) Nid yw ysmygu yng nghwmni eraill yn dangos cariad. Mae pobl sy’n mewnanadlu mwg ail-law yn rheolaidd mewn mwy o berygl o gael yr un heintiau ag y mae ysmygwyr yn eu cael.

  • Yr angen i fod yn sanctaidd. “Cyflwyno eich hunain [i Dduw] yn aberth byw​—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.” (Rhufeiniaid 12:1) “Gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan. Am fod Duw i’w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi’n hunain iddo yn bobl lân.” (2 Corinthiaid 7:1) Mae ysmygu yn rhywbeth annaturiol sy’n mynd yn groes i sancteiddrwydd​—hynny yw, glendid a phurdeb​—oherwydd bod ysmygwyr yn cymryd tocsinau i’w cyrff yn fwriadol, sy’n gwneud niwed difrifol iddyn nhw.

Ydy’r Beibl yn dweud rhywbeth am ddefnydd cyffuriau adloniant fel mariwana?

Nid yw’r Beibl yn sôn am mariwana, neu gyffuriau tebyg, wrth eu henw. Ond mae’n cynnwys egwyddorion sy’n gwahardd defnyddio sylweddau caethiwus o’r fath yn adloniadol. Yn ychwanegol i’r egwyddorion blaenorol, mae’r canlynol hefyd i’w hystyried:

  • Yr angen i reoli ein galluoedd meddyliol. “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw . . . a’th holl feddwl.” (Mathew 22:37, 38) “Gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn.” (1 Pedr 1:​13) Ni all berson reoli ei feddwl na’i ymddygiad yn llwyr wrth gamddefnyddio cyffuriau, ac mae llawer o bobl yn mynd yn gaeth i’w dylanwad. Mae eu bryd ar gael a defnyddio cyffuriau yn hytrach nac ar bethau adeiladol.​—Philipiaid 4:8.

  • Ufudd-dod i gyfreithiau seciwlar. “Rhaid iddyn nhw fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau.” (Titus 3:1) Mae’r gyfraith mewn llawer o wledydd yn gosod rheolau cyfyng ar ddefnyddio rhai cyffuriau. Os ydyn ni eisiau plesio Duw, dylen ni ufuddhau i’r awdurdodau seciwlar.​—Rhufeiniaid 13:1.

Tybaco a’ch Iechyd

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfri bod tua chwe miliwn o bobl bob blwyddyn yn marw o heintiau sy’n gysylltiedig â defnyddio tybaco. Mae hyn yn cynnwys dros 600,000 o bobl sydd ddim yn ysmygu ond yn dioddef o effaith mwg ail-law. Ystyriwch sut mae tybaco yn effeithio ar iechyd pobl sydd yn ei ddefnyddio ac iechyd eraill sydd o’u cwmpas.

Canser. Mae ’na dros 50 o gemegion carsinogenig mewn mwg tybaco. Mae’r Encyclopædia Britannica yn dweud “y credir bod mwg tybaco yn gyfrifol am 90 y cant o achosion o ganser yr ysgyfaint.” Gall mwg tybaco achosi canser mewn organau eraill, gan gynnwys y geg, y tracea, yr oesoffagws, y gwddf, y laryncs, yr iau, y pancreas, a’r bledren.

Heintiau resbiradol. Mae pobl sy’n ysmygu tybaco yn fwy tebyg o ddioddef o afiechydon resbiradol fel niwmonia a’r ffliw. Mae plant sy’n mewnanadlu mwg ail-law yn rheolaidd yn fwy tebyg o ddioddef o asthma, peswch cronig, a llai o dyfiant a defnydd o’r ysgyfaint.

Clefyd y galon. Mae ysmygwyr mewn mwy o berygl o gael strôc neu o ddatblygu clefyd y galon. Mae carbon monocsid sydd mewn mwg tybaco yn pasio’n hawdd o’r ysgyfaint i lif y gwaed, lle mae’n dadleoli ocsigen. Gyda llai o ocsigen ar gael yn y gwaed, rhaid i’r galon weithio’n galetach i ddosbarthu ocsigen i’r corff.

Effeithiau ar feichiogrwydd. Mae gwragedd sy’n ysmygu tra’n feichiog yn ychwanegu’r perygl o gael baban cynamserol, gyda phwysau geni isel, neu gyda diffygion eraill fel gwefus hollt. Gall y fath babanod hefyd ddatblygu problemau resbiradol neu ddioddef o syndrom marwolaeth sydyn babanod.

a Mae’r term ysmygu yn cyfeirio yma at fewnanadlu mwg tybaco o sigaréts, sigarau, pibellau, neu bibellau dŵr yn fwriadol. Ond, mae’r egwyddorion sy’n cael eu trafod yr un mor gymwys i arferion fel cnoi tybaco, defnyddio snisin, e-sigaréts sydd â chynnwys nicotin, a phethau tebyg.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu