SAFBWYNT Y BEIBL
Temtasiwn
Priodasau ar chwâl, iechyd gwael, y gydwybod yn procio—dim ond ychydig o ganlyniadau yw’r rhain sy’n dod o ildio i demtasiwn. Sut gallwn ni osgoi’r fagl hon?
Beth yw temtasiwn?
Rydych chi’n cael eich temtio pan ydych yn cael eich denu tuag at rywbeth, yn enwedig at rywbeth drwg. Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi’n siopa ac mae yna eitem sy’n denu eich sylw. Mae’r syniad yn gwibio trwy eich meddwl mai hawdd fyddai dwyn yr eitem heb gael eich dal. Ond, mae eich cydwybod yn dweud na! Felly, rydych yn sathru ar y syniad ac yn symud yn eich blaen. Yr adeg honno, mae’r temtasiwn wedi ei orchfygu, a chi sy’n fuddugol.
MAE’R BEIBL YN DWEUD
Dydy cael eich temtio ddim yn golygu eich bod chi’n berson drwg. Mae’r Beibl yn cydnabod ein bod ni i gyd yn profi temtasiwn. (1 Corinthiaid 10:13) Yr hyn sy’n bwysig yw sut rydyn ni’n ymddwyn pan gawn ni ein temtio. Mae rhai yn parhau i fyfyrio ar y chwant anghywir hwnnw ac yna’n ildio iddo. Mae eraill yn ei yrru o’u meddwl yn syth.
“Eu chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd.”—Iago 1:14.
Pam mae’n ddoeth i weithredu’n gyflym?
Mae’r Beibl yn dangos y camau sy’n arwain at ddrwgweithredu. Dywed Iago 1:15: “Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg.” Yn syml, pan ydyn ni’n treulio amser yn meddwl am chwant drwg, rydyn ni’n cyrraedd y pwynt lle mae hi’n anorfod y byddwn ni’n gweithredu arno, yr un mor anorfod â dynes feichiog yn geni babi. Ond, gallwn osgoi bod yn gaethweision i chwantau anghywir. Rydyn ni’n gallu eu rheoli.
GALL Y BEIBL EIN HELPU
Er ei bod hi’n bosib i’r meddwl roi ychwaneg o goed ar dân ein chwantau, mae hefyd yn bosib iddo eu diffodd nhw. Sut? Drwy ganolbwyntio ar rywbeth arall—rhyw weithgaredd, sgwrs gyda ffrind, neu feddwl am rywbeth iachusol. (Philipiaid 4:8) Rhywbeth arall a fydd yn ein helpu yw meddwl am y canlyniadau sy’n dod o ildio i demtasiwn, a all gynnwys niwed emosiynol, corfforol, neu ysbrydol. (Deuteronomium 32:29) Gall gweddi fod yn help mawr hefyd. Dywedodd Iesu Grist: “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi.”—Mathew 26:41.
“Peidiwch twyllo’ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau.”—Galatiaid 6:7.
Sut gallwch chi eich amddiffyn eich hun rhag temtasiwn?
Y REALITI
Edrychwch ar y temtasiwn yn ei wir oleuni—mae’n abwyd a all ddenu person ffôl, naïf, neu un sydd ddim yn wyliadwrus i berygl. (Iago 1:14) Mae hyn yn wir yn enwedig yn achos temtasiynau sy’n ymwneud ag anfoesoldeb rhywiol, a all ddod â chanlyniadau ofnadwy.—Diarhebion 7:22, 23.
GALL Y BEIBL EIN HELPU
“Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu,” meddai Iesu, “tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd.” (Mathew 5:29) Wrth gwrs, doedd Iesu ddim yn golygu hynny’n llythrennol! Yn hytrach, roedd yn dweud bod rhaid inni ladd y pethau drwg sydd ynon ni, fel petai, os ydyn ni eisiau plesio Duw a chael bywyd tragwyddol. (Colosiaid 3:5) Gall hyn olygu bod yn gwbl benderfynol o gefnu ar demtasiwn. Gweddïodd un o weision ffyddlon Duw: “Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!”—Salm 119:37.
Wrth gwrs, gall fod yn anodd dangos hunanreolaeth. Wedi’r cwbl, mae’r “corff yn wan.” (Mathew 26:41) Felly, rydyn ni’n gwneud camgymeriadau. Ond, pan ydyn ni’n gwir edifarhau ac yn gwneud ein gorau glas i beidio â magu’r arfer o wneud pethau drwg, bydd ein Creawdwr, Jehofa Dduw, yn “drugarog a charedig” wrthyn ni. (Salm 103:8) Onid ydy hynny’n rhoi cysur inni?
“O ARGLWYDD, os wyt ti’n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un?”—Salm 130:3.