LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g18 Rhif 2 t. 14
  • 11 Gweithgarwch

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 11 Gweithgarwch
  • Deffrwch!—2018
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE’N EI OLYGU?
  • PAM MAE’N BWYSIG?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Cael Mwynhad o’th Holl Lafur
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Cael Mwynhad yn Dy Holl Waith Caled
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Cyflwyniad
    Deffrwch!—2017
  • Sut Galla’ i Reoli Fy Amser?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Deffrwch!—2018
g18 Rhif 2 t. 14
Dynes ifanc yn rhedeg

Mae dysgu sut i weithio’n galed yn debyg i ymarfer corff; fe fydd yn fuddiol ichi nawr ac yn y dyfodol

AR GYFER POBL IFANC

11 Gweithgarwch

BETH MAE’N EI OLYGU?

Dydy pobl weithgar ddim yn osgoi gwaith caled. Yn hytrach, maen nhw’n mwynhau gweithio’n galed i ofalu amdanyn nhw eu hunain ac i helpu pobl eraill—hyd yn oed os nad ydy’r gwaith hwnnw’n ddeniadol.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae bywyd yn llawn cyfrifoldebau. Mewn byd lle nad oes llawer o bobl yn hoffi’r syniad o weithio’n galed, mae bod yn weithgar yn rhoi mantais ichi.—Pregethwr 3:13.

“Dw i wedi dysgu bod gweithio’n galed yn gwneud ichi deimlo’n falch ac yn fodlon. Mae’r teimlad hwnnw o fodlonrwydd mewnol wedi fy helpu i fwynhau gweithio. Bydd bod yn weithiwr da yn eich helpu i gael enw da hefyd.”—Reyon.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae elw i bob gwaith caled.”—Diarhebion 14:23.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Gallwch feithrin agwedd bositif tuag at weithio drwy ddilyn y camau canlynol.

Byddwch yn falch o wneud pethau’n dda. Os ydych chi’n gwneud gwaith o gwmpas y tŷ, yn gorffen eich gwaith cartref, neu’n gwneud gwaith seciwlar, canolbwyntiwch yn llwyr ar yr hyn rydych chi’n ei wneud. Unwaith ichi fedru gwneud rhywbeth yn dda, edrychwch am ffyrdd i wella—drwy ei wneud yn gyflymach neu yn well. Y mwyaf medrus rydych chi, y mwyaf y byddwch chi’n mwynhau eich gwaith.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Pan weli di rywun sy’n fedrus yn ei waith—bydd hwnnw’n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.”—Diarhebion 22:29.

Edrychwch ar y darlun mawr. Ym mhob achos bron, pan fyddwch chi’n cyflawni eich cyfrifoldebau mewn ffordd dda, byddwch yn helpu pobl eraill. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n weithgar wrth wneud gwaith o gwmpas y tŷ, byddwch chi’n gwneud bywyd yn haws i weddill y teulu.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Actau 20:35.

Ewch y filltir ychwanegol. Yn hytrach na gwneud y lleiaf posib, triwch wneud mwy na’r hyn y mae pobl yn gofyn ichi ei wneud. Drwy wneud hyn, chi fydd yn rheoli eich bywyd—byddwch yn gwneud mwy, nid oherwydd bod rhywun yn eich gorfodi, ond oherwydd eich bod chi wedi dewis gwneud hynny.—Mathew 5:41.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Er mwyn i dy garedigrwydd gael ei wneud oherwydd dy ewyllys rhydd, ac nid o dan orfodaeth.”—Philemon 14.

Byddwch yn gytbwys. Dydy pobl weithgar ddim yn ddiog nac yn gorweithio chwaith. Maen nhw’n ceisio cadw cydbwysedd, gan fwynhau gweithio’n galed ac ymlacio hefyd.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “‘Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.’ Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!”—Pregethwr 4:6.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu