LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g18 Rhif 3 t. 3
  • Poen Galar

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Poen Galar
  • Deffrwch!—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2018
  • Yn y Rhifyn Hwn: Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru
    Deffrwch!—2018
  • Beth i’w Ddisgwyl?
    Deffrwch!—2018
  • Cyflwyniad
    Deffrwch!—2018
Gweld Mwy
Deffrwch!—2018
g18 Rhif 3 t. 3
Dyn galarus yn eistedd ar ei ben ei hun mewn tŷ bwyta

HELP AR GYFER Y RHAI SY’N GALARU

Poen Galar

“Roedd Sophiaa a minnau wedi bod yn briod am dros 39 o flynyddoedd pan wnaeth salwch hirfaith roi terfyn ar ei bywyd. Cefais ddigon o gefnogaeth gan fy ffrindiau, ac mi wnes i fy nghadw fy hun yn brysur. Ond am flwyddyn gron, roeddwn yn teimlo fel petaswn i wedi fy rhwygo yn fy hanner. Byddai fy emosiynau yn mynd i fyny ac i lawr. Hyd yn oed nawr, bron i dair blynedd ar ôl iddi farw, mae poen emosiynol ddofn yn fy nharo o bryd i’w gilydd, ac yn aml heb rybudd.”—Kostas.

Ydych chi wedi dioddef profedigaeth? Os felly, gallwch gydymdeimlo â Kostas. Does dim llawer o bethau sy’n achosi mwy o loes calon na marwolaeth gŵr neu wraig, perthynas, neu ffrind annwyl. Mae arbenigwyr sy’n astudio poen galar yn cytuno â hynny. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn yr American Journal of Psychiatry yn dweud mai “marwolaeth ydy’r math mwyaf parhaol ac eithafol o golled sydd.” Yn wyneb y boen annioddefol sy’n dod yn sgil colled o’r fath, gall y sawl sy’n galaru ofyn: ‘Pa mor hir fydd y teimladau hyn yn para? A fydda’ i’n hapus eto? Beth all leddfu fy mhoen?’

Mae’r rhifyn hwn o Deffrwch! yn ystyried yr atebion i’r cwestiynau hynny. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod yr hyn y gallech chi ei ddisgwyl os ydych chi wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Bydd yr erthyglau dilynol yn trafod ffyrdd sydd efallai yn gallu lleihau poen eich galar tipyn bach.

Ein gobaith diffuant ydy bod yr hyn sy’n dilyn yn mynd i roi cysur a help ymarferol i unrhyw un sy’n dioddef poen ingol galar.

a Newidiwyd rhai enwau yn y gyfres hon o erthyglau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu