LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g21 Rhif 3 tt. 10-13
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Wrthon Ni?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Wrthon Ni?
  • Deffrwch!—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Dydy’r Beibl Ddim yn ei Ddweud?
  • Pryd Dechreuodd Duw Greu’r Bydysawd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Gwyddoniaeth a Llyfr Genesis
    A Gafodd Bywyd ei Greu?
  • Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ydy’r Beibl yn Cytuno â Gwyddoniaeth?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Deffrwch!—2021
g21 Rhif 3 tt. 10-13

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Wrthon Ni?

“Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu.” (Genesis 2:4) Gyda’r geiriau hynny, mae’r Beibl yn crynhoi’r hanes o sut daeth ein planed i fodolaeth. Ydy’r Beibl yn cytuno â’r ffeithiau gwyddonol? Ystyriwch rai enghreifftiau.

Y Dechrau: Mae’r bydysawd a’r ddaear yn cael eu creu

Ydy’r bydysawd wastad wedi bodoli?

Mae Genesis 1:1 yn dweud: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.”

Hyd at ail hanner yr 20fed ganrif, roedd llawer o wyddonwyr yn credu bod y bydysawd wastad wedi bodoli. Ond ar sail ymchwil mwy diweddar, mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr nawr yn cydnabod bod y bydysawd wedi cael dechreuad.

Sut le oedd y ddaear yn wreiddiol?

Yn ôl Genesis 1:2, 9 roedd y ddaear yn “anhrefn gwag” i gychwyn, yn ddi-siâp, wedi ei gorchuddio â dŵr.

Mae gwyddonwyr heddiw yn cytuno â’r disgrifiad hwnnw. Dywedodd y biolegwr Patrick Shih bod ein planed wedi dechrau gydag “atmosffer heb ocsigen i’w anadlu . . . oedd ar y cyfan yn edrych fel rhyw blaned ryfedd arall.” Dywedodd y cylchgrawn Astronomy: “Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod y ddaear gynnar yn fyd o ddŵr, gydag ychydig iawn, os nad dim, tir i’w weld.”

Sut newidiodd ein hatmosffer dros amser?

Mae Genesis 1:3-5 yn dangos bod golau wedi dechrau treiddio drwy’r atmosffer, ond doedd yr haul a’r lleuad yn dal ddim i’w gweld yn glir o wyneb y ddaear. Fyddai hynny ddim yn digwydd tan yn hwyrach ymlaen.—Genesis 1:14-18.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod yr holl fywyd ar y ddaear wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod 24 awr

Mae Canolfan Ymchwil Amgylcheddol y Smithsonian yn dweud bod ein hatmosffer cynnar dim ond wedi gadael i olau gwan gyrraedd y ddaear. Dywedodd: “Roedd diferion methan yn yr aer yn gorchuddio’r ddaear ifanc mewn niwl byd-eang.” Yn hwyrach ymlaen, “gwnaeth y niwl hwnnw glirio, a throdd yr awyr yn las.”

Ym mha drefn wnaeth bywyd ymddangos ar y ddaear?

1—Y Diwrnod Cyntaf: Mae golau gwan yn dechrau treiddio trwy atmosffer y ddaear.—Genesis 1:3-5

2—Yr Ail Ddiwrnod: Mae’r ddaear wedi ei gorchuddio â dŵr a haenen drwchus o niwl. Mae’r ddwy elfen hon yn cael eu gwahanu, gan greu bwlch rhyngddyn nhw.—Genesis 1:6-8

3—Y Trydydd Diwrnod: Mae’r dŵr ar y ddaear yn cilio, ac mae tir sych yn ymddangos.—Genesis 1:9-13

4—Y Pedwerydd Diwrnod: Mae’n bosib gweld yr haul a’r lleuad o wyneb y ddaear.—Genesis 1:14-19

5—Y Pumed Diwrnod: Mae Duw yn creu creaduriaid y môr ac adar gyda’r gallu i atgenhedlu yn ôl eu math.—Genesis 1:20-23

6—Y Chweched Diwrnod: Mae anifeiliaid y tir, mawr a bach, yn cael eu creu. Mae’r chweched diwrnod yn gorffen gyda chreadigaeth y cwpl dynol cyntaf.—Genesis 1:24-31

Mae Genesis 1:20-27 yn dweud bod pysgod, adar, anifeiliaid y tir, ac yn olaf, pobl, wedi cael eu creu. Mae gwyddonwyr yn credu bod y pysgod cyntaf wedi ymddangos ymhell cyn y mamaliaid cyntaf, a bod pobl wedi ymddangos yn llawer hwyrach wedyn.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod pethau byw yn methu newid dros amser

“O ystyried pa mor gryno ydy hanes y creu yn Genesis 1, mae’n rhyfeddol pa mor debyg ydy hynny i beth mae gwyddoniaeth fodern wedi ei ddarganfod.”—Gerald L. Schroeder, ffisegwr.

Beth Dydy’r Beibl Ddim yn ei Ddweud?

Mae rhai pobl yn honni bod y Beibl yn anghytuno â gwyddoniaeth fodern. Ond yn aml, maen nhw’n dweud hynny am eu bod nhw wedi camddeall beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod y bydysawd a’r ddaear ond yn 6,000 o flynyddoedd oed. Yn hytrach, mae’n dweud yn syml fod y bydysawd a’r ddaear wedi cael eu creu “ar y dechrau.” (Genesis 1:1) Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union pa mor bell yn ôl oedd hynny.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod yr holl fywyd ar y ddaear wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod 24 awr. Yn hytrach, mae’n defnyddio’r geiriau “diwrnod” neu “dydd” i gyfeirio at gyfnodau o amser. Er enghraifft, mae’r “dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd” yn cyfeirio at y broses greu gyfan, gan gynnwys y chwe “diwrnod” creu. (Genesis 2:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly, gallai pob un o’r chwe “diwrnod” creu yn Genesis pennod 1 gynrychioli cyfnodau hir o amser.

Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod pethau byw yn methu newid dros amser. Mae llyfr Genesis yn dweud y cafodd anifeiliaid “o bob math” eu creu. (Genesis 1:24, 25) Dydy’r gair “math” yn y Beibl ddim yn derm gwyddonol. Mae’n ymddangos ei fod yn cyfeirio at wahanol grwpiau o bethau byw. Felly, gall un “math” gynnwys llawer o wahanol rywogaethau ac amrywiaethau. Mae hynny’n caniatáu am y posibilrwydd fod rhywogaethau o fewn “math” yn gallu newid ac amrywio dros amser yn dibynnu ar eu cynefin.

Beth rydych chi’n ei feddwl?

Fel rydyn ni wedi gweld, mae’r Beibl yn disgrifio pethau fel cychwyn y bydysawd, cyflwr gwreiddiol y ddaear, a datblygiad bywyd, mewn termau syml a chywir. Tybed felly a ydy’r Beibl hefyd yn gywir wrth enwi’r Un a greodd y pethau hynny? Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, “dydy’r syniad bod bywyd wedi tarddu o ganlyniad i ryw ddigwyddiad goruwchnaturiol, ddim yn anghytuno â gwyddoniaeth fodern.”a

Ystyriwch hyn:

Darllen Genesis 1:1-2:4. Cymharwch hynny â hen chwedlau am y greadigaeth. Er enghraifft, roedd y Babiloniaid yn credu bod y bydysawd a phobl wedi eu gwneud allan o gorff marw duwies a gwaed duw. Roedd yr Eifftiaid gynt yn dweud bod y duw Ra wedi creu pobl allan o ddagrau. Yn Tsieina, roedd rhai yn meddwl bod elfennau naturiol y ddaear wedi dod o gorff marw cawr, a bod pobl wedi datblygu o’r chwain ar ei gorff. Ydych chi’n meddwl bod hanes Genesis yn perthyn ymysg y chwedlau hyn? Neu ydy’r hanes yn cytuno â gwyddoniaeth?

Gwyliwch y fideo pedwar munud A Gafodd y Bydysawd ei Greu? Chwiliwch am y teitl ar jw.org/cy.

a Dydy’r Encyclopædia Britannica ddim yn hyrwyddo’r syniad bod bywyd wedi cael ei greu.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu