LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 6
  • Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Wrthon Ni?
    Deffrwch!—2021
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Helpa Dy Blant i Feithrin Ffydd Ddi-sigl yn y Creawdwr
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Ystyriwch y Ffeithiau
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 6
Gwers 6. Planhigyn yn blaguro ar ddiwrnod braf.

GWERS 06

Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Duw “ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Ydych chi’n credu hynny? Mae rhai yn credu mai hap a damwain sy’n gyfrifol am fywyd ar y ddaear. Ar y llaw arall, os mai Jehofa Dduw a greodd bywyd, oni fyddai pwrpas i fywyd?a Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddechrau bywyd, a pham mae hynny’n rhesymol.

1. Sut dechreuodd y bydysawd?

Mae’r Beibl yn dweud: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” (Genesis 1:1) Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno y bu dechrau i’r bydysawd. Sut creodd Duw y bydysawd? Defnyddiodd ei rym gweithredol—ei ysbryd glân—i greu popeth yn y bydysawd, gan gynnwys y galaethau, y sêr, a’r planedau.—Genesis 1:2.

2. Pam creodd Duw y ddaear?

Ni wnaeth Jehofa greu’r ddaear “i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.” (Eseia 45:18) Creodd y ddaear i fod yn gartref cyfforddus i bobl fyw arni am byth. (Eseia 40:28; 42:5) Mae gwyddoniaeth yn dangos bod y ddaear yn unigryw. Dyma’r unig blaned sy’n addas ar gyfer bywyd, hyd y gwyddom.

3. Ym mha ffordd mae pobl yn wahanol i’r anifeiliaid?

Ar ôl i Jehofa ffurfio’r ddaear, fe greodd fywyd arni. Yn gyntaf, creodd blanhigion ac anifeiliaid. Wedyn, “dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.” (Darllenwch Genesis 1:27.) Ym mha ffordd mae pobl yn unigryw? Mae pobl wedi eu creu ar ddelw Duw, ac felly gallan nhw ddangos yr un priodoleddau â Duw, rhinweddau fel cariad a chyfiawnder. Mae wedi ein creu ni hefyd gyda’r gallu i ddysgu ieithoedd, i werthfawrogi celf, ac i fwynhau cerddoriaeth. Ac yn wahanol i’r anifeiliaid, gallwn addoli ein Creawdwr.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch y dystiolaeth bod bywyd wedi cael ei ddylunio a bod hanes y creu yn y Beibl yn rhesymol. Dysgwch beth mae’r rhinweddau a welwn mewn bodau dynol yn ei ddangos inni am Dduw.

4. Cafodd bywyd ei ddylunio

Mae pobl yn derbyn y clod am y dyluniadau maen nhw wedi eu copïo o fyd natur. Ond pwy ddylai gael y clod am y dyluniadau gwreiddiol? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

FIDEO: Credu yn Nuw (2:43)

  • Pa bethau mae dylunwyr wedi eu copïo o fyd natur?

Mae pob tŷ yn cael ei ddylunio a’i adeiladu gan rywun. Ond pwy ddyluniodd ac adeiladodd bopeth ym myd natur? Darllenwch Hebreaid 3:4, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa bethau ym myd natur sydd wedi gwneud argraff arnoch chi?

  • Ydy hi’n rhesymol inni gredu bod y bydysawd a phopeth ynddo wedi cael eu dylunio? Pam?

Oeddech chi’n gwybod?

Gallwch weld erthyglau a fideos ar y pwnc hwn ar jw.org yn y gyfres “Wedi ei Ddylunio?” a’r gyfres “Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd.”

“Wrth gwrs, mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un a wnaeth adeiladu pob peth ydy Duw.”

Dyn yn rhoi to bambŵ ar dŷ mewn gwlad drofannol.

5. Mae hanes y creu yn y Beibl yn rhesymol

Ym mhennod cyntaf llyfr Genesis, mae’r Beibl yn trafod dechreuad y ddaear a’r bywyd arni. Allwch chi ymddiried yn yr hanes hwnnw, neu ai chwedl ydy’r cwbl? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: A Gafodd y Bydysawd ei Greu?—Clip (3:51)

Collage: Golygfeydd o’r fideo ‘A Gafodd y Bydysawd ei Greu?​—Clip.’ 1. Chwe diwrnod y creu o safbwynt rhywun ar y ddaear. 2 Y ddaear ar ôl chweched diwrnod y creu, gyda’r haul, tir sych, dŵr, planhigion, adar, anifeiliaid a phobl.
  • Ydy’r Beibl yn dysgu bod y ddaear a’r bywyd arni wedi eu creu mewn chwe diwrnod 24 awr?

  • Ydych chi’n credu bod hanes y creu yn y Beibl yn rhesymegol? Pam, neu pam ddim?

Darllenwch Genesis 1:1, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Mae gwyddonwyr yn dweud y bu dechreuad i’r bydysawd. Sut mae hyn yn cymharu â’r hyn rydych chi newydd ei ddarllen yn y Beibl?

Mae rhai pobl yn meddwl bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu bywyd. Darllenwch Genesis 1:21, 25, 27, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydy’r Beibl yn dysgu bod Duw wedi creu bywyd syml ac yna ei adael i esblygu yn bysgod, mamaliaid, a bodau dynol? Neu a wnaeth Duw greu’r holl “fathau” sylfaenol o fywyd?b

6. Mae pobl yn greadigaeth unigryw gan Dduw

Rydyn ni’n wahanol i’r anifeiliaid y mae Jehofa wedi eu creu. Darllenwch Genesis 1:26, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Gan ein bod ni wedi ein creu ar ddelw Duw, beth mae ein gallu i ddangos cariad a chydymdeimlad yn ein dysgu ni am Dduw?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Chwedl yw’r hanes am y greadigaeth yn y Beibl.”

  • Beth rydych chi’n ei feddwl? Pam?

CRYNODEB

Jehofa a greodd y bydysawd a’r bywyd ynddo.

Adolygu

  • Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am ddechreuad y bydysawd?

  • A wnaeth Duw adael i’r mathau gwahanol o fywyd esblygu o ffurf syml, neu a wnaeth Duw eu creu nhw i gyd?

  • Pam mae pobl yn unigryw?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch enghreifftiau o ddyluniad ym myd natur.

“Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Fyd Natur?” (Deffrwch!, Medi 2006)

Gwelwch sut mae tad yn esbonio hanes y creu yn y Beibl i’w fab ifanc.

Jehofa a Greodd Bob Peth (2:37)

Ystyriwch a ydy esblygiad yn cyd-fynd â’r Beibl.

“A Wnaeth Duw Ddefnyddio Esblygiad i Greu’r Gwahanol Fathau o Fywyd?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch a ydy’r cofnod ffosil ac arbrofion gwyddonol yn awgrymu bod bywyd wedi ei greu, neu ei fod wedi dechrau drwy hap a damwain.

Tarddiad Bywyd—Pum Cwestiwn Gwerth eu Gofyn (llyfryn)

a Bydd Gwers 25 yn trafod pwrpas Duw ar gyfer y ddynoliaeth.

b Yn y Beibl, mae’r gair “math” yn cyfeirio at grŵp eang o bethau byw.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu