LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g24 Rhif 1 tt. 4-6
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?
  • Deffrwch!—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE PARCH AT ERAILL YN BWYSIG
  • BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
  • BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?
  • Dangosa Barch Tuag at Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch?
    Deffrwch!—2024
  • Goddefgarwch—Sut Mae’r Beibl yn Helpu?
    Pynciau Eraill
  • Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Gweld Mwy
Deffrwch!—2024
g24 Rhif 1 tt. 4-6
Dyn mewn bwyty yn gweiddi ar y gweinydd sy’n ceisio ymddiheuro. Mae’r bobl eraill sy’n eistedd wrth y bwrdd yn edrych yn anghyfforddus.

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?

PAM MAE PARCH AT ERAILL YN BWYSIG

Mae parch at eraill yn gallu cadw sefyllfa ddrwg rhag gwaethygu.

  • Mae dihareb yn y Beibl yn dweud: “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” (Diarhebion 15:1) Mae geiriau a gweithredoedd amharchus ond yn bwydo’r tân, ac yn aml yn arwain at ganlyniadau ofnadwy.

  • Dywedodd Iesu: “O lawnder y galon y mae’r geg yn siarad.” (Mathew 12:34) Gall geiriau amharchus ddatgelu sut rydyn ni’n wir yn teimlo am rai o hil, llwyth, cefndir, neu genedl sy’n wahanol i ni.

    Ar ôl holi mwy na 32,000 o bobl mewn 28 gwlad, dywedodd 65 y cant ohonyn nhw mai’r amarch maen nhw’n ei weld heddiw ydy’r gwaethaf maen nhw erioed wedi ei weld.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Yn yr ysgol neu yn y gwaith, dylech chi barchu pawb—hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno â nhw. Chwiliwch am bethau rydych chi’n gallu cytuno arnyn nhw. Bydd gwneud hynny’n eich helpu chi i osgoi bod yn feirniadol.

“Stopiwch farnu er mwyn ichi beidio â chael eich barnu.”—Mathew 7:1.

Dylech chi drin eraill yn y ffordd hoffech chi gael eich trin. Os ydych chi’n garedig a theg, bydd pobl eraill yn fwy tebygol o’ch trin chi yn yr un ffordd.

“Yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw.”—Luc 6:31.

Byddwch yn faddeugar. Peidiwch â meddwl y gwaethaf am eraill, ond maddeuwch iddyn nhw am ddweud neu wneud pethau angharedig.

“Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.”—Diarhebion 19:11.

Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa cyn cyfarfod. Mae pobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau yn rhoi croeso cynnes i’w gilydd ac yn sgwrsio.
Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa cyn cyfarfod. Mae pobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau yn rhoi croeso cynnes i’w gilydd ac yn sgwrsio.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?

Mae Tystion Jehofa yn annog pobl yn eu cymunedau i ddangos parch.

Rydyn ni’n cynnig gwersi am y Beibl am ddim i bawb, ond dydyn ni ddim yn gwthio ein daliadau na’n syniadau ar eraill. Yn hytrach, rydyn ni’n ceisio dilyn cyngor y Beibl drwy rannu ein neges “gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.”—1 Pedr 3:15; 2 Timotheus 2:24.

Dydyn ni ddim yn dangos ffafriaeth ac mae ’na groeso i bobl o bob cefndir ddod i’n cyfarfodydd ac i ddysgu am y Beibl. Rydyn ni’n ceisio bod yn oddefgar a ‘rhoi parch i bawb.’—1 Pedr 2:​17, BCND.

Rydyn ni’n dangos parch at y llywodraeth. (Rhufeiniaid 13:1) Rydyn ni’n ufudd i’r gyfraith ac yn talu trethi. Er nad ydyn ni’n cymryd ochrau mewn pethau gwleidyddol, rydyn ni’n parchu hawl pobl eraill i wneud penderfyniadau eu hunain.

Collage: Golygfeydd o’r fideo “Ydy Cariad yn Gryfach na Chasineb?” 1. Arab. 2. Iddew.

DYSGWCH FWY

Gall fod yn anodd parchu eraill pan ydych chi wedi cael eich dysgu i’w casáu nhw. Gwelwch sut gwnaeth dau ddyn o genhedloedd gwahanol ddysgu i ddangos parch. Chwiliwch ar jw.org am y fideo Ydy Cariad yn Gryfach na Chasineb?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu