LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lv pen. 4 tt. 36-49
  • Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?
  • “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM GALL HYN FOD YN HER?
  • PAM DYLEN NI BARCHU AWDURDOD?
  • PARCH YN Y TEULU
  • PARCH YN Y GYNULLEIDFA
  • PARCH AT AWDURDOD SECIWLAR
  • Awdurdod Pwy Ddylech Chi ei Gydnabod?
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Dangosa Barch Tuag at Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Deall Penteuluaeth yn y Gynulleidfa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch?
    Deffrwch!—2024
“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
lv pen. 4 tt. 36-49
Tad yn dysgu ei deulu

PENNOD 4

Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?

“Rhowch barch i bawb.”—1 PEDR 2:17.

1, 2. (a) Pa frwydr rydyn ni’n ei hwynebu o ran parchu awdurdod? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni yn eu hystyried?

WYT ti erioed wedi gweld plentyn bach yn gorfod gwneud rhywbeth nad oedd ef eisiau ei wneud? Mae’r olwg ar ei wyneb yn dweud y cwbl. Mae’n clywed llais Mam neu Dad, ac mae’n gwybod y dylai wrando arnyn nhw. Ond y tro hwn, nid yw ef eisiau ufuddhau. Mewn ffordd, rydyn ni i gyd yn wynebu’r un frwydr.

2 Dydy parchu awdurdod ddim bob amser yn hawdd. Wyt ti weithiau’n ei chael hi’n anodd parchu’r rhai sydd â rhywfaint o awdurdod arnat ti? Os felly, nid ti yw’r unig un i deimlo fel hyn. Yn y byd sydd ohoni, does fawr o neb yn parchu awdurdod. Ond eto, mae’r Beibl yn dweud bod angen dangos parch tuag at y rhai sy’n ben arnon ni. (Diarhebion 24:21) Yn wir, mae’n rhaid gwneud hyn os ydyn ni am aros yng nghariad Duw. Ond, yn naturiol, bydd rhai cwestiynau’n codi. Pam gall parchu awdurdod fod mor anodd? Pam mae Jehofa yn gofyn hyn gennyn ni, a beth fydd yn ein helpu ni i gydymffurfio? Ac yn olaf, sut gallwn ni barchu awdurdod?

PAM GALL HYN FOD YN HER?

3, 4. Sut cychwynnodd pechod ac amherffeithrwydd, a pham mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd inni barchu awdurdod?

3 Gad inni ystyried dau reswm pam y mae’n gallu bod mor anodd i barchu awdurdod. Yn gyntaf, rydyn ni’n amherffaith, ac yn ail, mae’r rhai sydd ag awdurdod arnon ni hefyd yn amherffaith. Mae hanes pechod ac amherffeithrwydd yn mynd yn ôl i ardd Eden pan wrthryfelodd Adda ac Efa yn erbyn awdurdod Duw. Gwrthryfela, felly, oedd cychwyn pechod. Ers hynny, mae’r duedd i wrthryfela yn rhan o’n natur.—Genesis 2:15-17; 3:1-7; Salm 51:5; Rhufeiniaid 5:12.

4 Oherwydd ein natur bechadurus, mae’n hawdd inni fod yn falch ac yn ffroenuchel, tra bo rhaid inni weithio’n galed i feithrin agwedd ostyngedig. Hyd yn oed ar ôl gwasanaethu Duw yn ffyddlon am flynyddoedd, fe all rhywun droi’n ystyfnig ac yn falch. Er enghraifft, meddylia am Cora, a lynodd yn ffyddlon wrth bobl Dduw drwy sawl cyfnod anodd. Ond eto, roedd yn chwenychu mwy o awdurdod iddo’i hun ac fe wrthryfelodd yn erbyn Moses, y dyn mwyaf gostyngedig ar wyneb y ddaear. (Numeri 12:3; 16:1-3) Meddylia, hefyd, am y Brenin Usseia a aeth yn ei falchder i mewn i deml Jehofa a chyflawni gwaith y dylai neb ond yr offeiriad ei wneud. (2 Cronicl 26:16-21) Yn y ddau achos, fe gostiodd eu gwrthryfeloedd yn ddrud. Eto i gyd, rydyn ni’n medru dysgu o’u hesiampl ddrwg. Mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn y balchder hwnnw sy’n gwneud parchu awdurdod yn anodd.

5. Sut mae arweinwyr amherffaith wedi camddefnyddio eu hawdurdod?

5 Ar y llaw arall, mae camddefnyddio grym gan arweinwyr amherffaith wedi tanseilio parch tuag at awdurdod. Mae llawer wedi cam-drin eraill yn greulon ac yn ormesol. Yn wir, mae hanes yn dangos bod dyn yn aml wedi camddefnyddio grym. (Darllen Pregethwr 8:9.) Er enghraifft, dyn da a gostyngedig oedd Saul pan gafodd ei ddewis yn frenin gan Jehofa. Ond, cafodd balchder a chenfigen y llaw uchaf arno; a dechreuodd erlid y dyn ffyddlon Dafydd. (1 Samuel 9:20, 21; 10:20-22; 18:7-11) Un o frenhinoedd gorau Israel oedd Dafydd ond eto fe gamddefnyddiodd ei rym drwy ddwyn gwraig Ureia yr Hethiad a gyrru’r dyn diniwed hwnnw i flaen y gad i gael ei ladd. (2 Samuel 11:1-17) Felly, mae amherffeithrwydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ddefnyddio grym yn y ffordd iawn. Ac mae’n waeth byth pan fo’r rhai mewn grym heb unrhyw barch tuag at Jehofa. Ar ôl disgrifio’r erledigaeth greulon roedd rhai pabau Catholig yn gyfrifol amdani, dywedodd un gwleidydd Prydeinig: “Tuedd grym yw llygru, ac mae grym llwyr yn llygru’n llwyr.” Gyda hynny mewn golwg, gad inni ystyried y cwestiwn: Pam dylen ni barchu awdurdod?

PAM DYLEN NI BARCHU AWDURDOD?

6, 7. (a) Beth rydyn ni yn ei wneud oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, a pham? (b) Pa agwedd sydd ei hangen er mwyn ildio, a sut gallwn ni ddangos yr agwedd honno?

6 Cariad yw’r rheswm dros barchu awdurdod—ein cariad tuag at Jehofa, at ein cyd-ddyn, a hyd yn oed aton ni ein hunain. Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa uwchlaw popeth arall, rydyn ni eisiau llawenhau ei galon. (Darllen Diarhebion 27:11; Marc 12:29, 30.) Gwyddon ni fod ei hawl i reoli’r bydysawd wedi cael ei herio ar y ddaear ers y gwrthryfel yn Eden, a bod y rhan fwyaf o ddynolryw wedi ochri gyda Satan a gwrthod teyrnasiad Jehofa. Ond rydyn ni’n hapus i ochri â Jehofa. Mae geiriau Datguddiad 4:11 yn ennyn ymateb brwd ynon ni. Mae’n gwbl glir inni mai Jehofa yw’r un sydd â’r hawl i reoli’r bydysawd! Rydyn ni’n cefnogi sofraniaeth Jehofa ac yn derbyn ei awdurdod yn ein bywydau bob dydd.

7 Mae parch o’r fath yn gofyn inni ufuddhau ac ildio. Rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa am ein bod ni’n ei garu. Ond bydd adegau yn siŵr o godi pan fydd hynny’n anodd iawn. Ar adegau felly, bydd rhaid inni, fel y bachgen bach ar ddechrau’r bennod, ddysgu ildio. Roedd Iesu yn ildio i ewyllys ei Dad, hyd yn oed pan oedd hynny yn edrych yn anodd tu hwnt. “Gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i,” meddai wrth ei Dad.—Luc 22:42.

8. (a) Beth sydd ei angen i ildio i awdurdod Jehofa heddiw, a sut mae Jehofa yn teimlo am hyn? (b) Beth all ein helpu ni i dderbyn cyngor a disgyblaeth? (Gweler y blwch “Gwrando ar Gyngor a Derbyn Ddisgyblaeth.”)

8 Wrth gwrs, nid yw Jehofa yn siarad â ni’n bersonol heddiw; mae’n defnyddio ei Air a’i gynrychiolwyr ar y ddaear. Felly, byddwn ni’n ildio i awdurdod Jehofa drwy barchu’r rhai y mae Jehofa naill ai wedi rhoi awdurdod iddyn nhw, neu wedi caniatáu iddyn nhw aros mewn awdurdod. Petawn ni’n gwrthryfela yn eu herbyn—drwy wrthod eu cyngor Ysgrythurol er enghraifft—byddai hynny yn digio Duw. Pan oedd yr Israeliaid yn grwgnach ac yn gwrthryfela yn erbyn Moses, roedd Jehofa yn gweld hynny’r un fath â gwrthryfela yn ei erbyn Ef.—Numeri 14:26, 27.

9. Pam mae cariad tuag at ein cyd-ddyn yn gwneud inni barchu awdurdod? Rho esiampl.

9 Rheswm arall dros barchu awdurdod yw cariad at ein cyd-ddyn. Sut felly? Wel, dychmyga dy fod ti’n filwr mewn byddin. Er mwyn i’r fyddin ennill y frwydr, mae angen i bob milwr gydweithredu. Rhaid i bawb barchu’r gadwyn awdurdod ac ufuddhau iddi. Petaet ti’n tanseilio’r drefn honno drwy wrthryfela, fe all hynny beryglu bywydau dy gyd-filwyr. Wrth gwrs, yn wahanol i fyddinoedd dynol, dim ond daioni y mae byddinoedd Jehofa yn ei wneud. Mae’r Beibl yn cyfeirio at Jehofa fel “ARGLWYDD y Lluoedd” gannoedd o weithiau. (1 Samuel 1:3) Ef yw Pennaeth byddin enfawr o angylion nerthol. Weithiau, mae Jehofa yn galw ei weision ar y ddaear yn fyddin. (Salm 68:11; Eseciel 37:1-10) Petaswn ni’n rhyfela yn erbyn y rhai y mae Jehofa wedi eu gosod mewn awdurdod, gallai hynny beryglu ein cyd-filwyr ysbrydol. Pan fo Cristion yn gwrthryfela yn erbyn y rhai sydd wedi eu penodi’n henuriaid, gall eraill yn y gynulleidfa ddioddef hefyd. (1 Corinthiaid 12:14, 25, 26) Pan fo plentyn yn gwrthryfela, gall yr holl deulu ddioddef. Felly, byddwn ni’n caru ein cyd-ddyn drwy barchu awdurdod a bod yn barod i gydweithredu.

10, 11. Sut mae meddwl am fanteision ufudd-dod yn ein helpu i barchu awdurdod?

10 Rydyn ni hefyd yn parchu awdurdod oherwydd bod hynny er ein lles. Yn aml iawn, pan fydd Jehofa yn gofyn inni barchu awdurdod, y mae’n rhestru’r manteision. Er enghraifft, mae’n dweud wrth blant am fod yn ufudd i’w rhieni er mwyn cael bywyd hir a hapus. (Deuteronomium 5:16; Effesiaid 6:2, 3) Mae’n dweud wrthon ni am barchu’r henuriaid er mwyn osgoi niwed ysbrydol. (Hebreaid 13:7, 17) Ac mae’n dweud wrthon ni am ufuddhau i’r awdurdodau sy’n ben er mwyn ein diogelwch.—Rhufeiniaid 13:4.

11 Mae gwybod pam mae Jehofa yn gofyn inni fod yn ufudd yn ein helpu ni i barchu awdurdod. Gad inni, felly, ystyried sut y gallwn ni barchu awdurdod mewn tair sefyllfa.

PARCH YN Y TEULU

12. Pa rôl y mae Jehofa yn ei rhoi i’r gŵr a’r tad yn y teulu, a sut gall dyn gyflawni’r rôl honno?

12 Jehofa ei hun a sefydlodd y teulu. Duw trefn fuodd Jehofa erioed ac mae wedi trefnu’r teulu i weithio’n rhwydd. (1 Corinthiaid 14:33) I’r gŵr a’r tad y mae Jehofa yn rhoi’r awdurdod fel pen y teulu. Mae’r gŵr yn dangos parch at yr un sy’n Ben arno ef, Crist Iesu, drwy efelychu’r ffordd y mae Iesu yn gweithredu fel Pen y gynulleidfa. (Effesiaid 5:23) Felly, ni ddylai’r gŵr gefnu ar ei gyfrifoldeb, ond fe ddylai ei ysgwyddo fel dyn. Ni ddylai fod yn ormesol neu’n llym, ond dylai fod yn gariadus, yn rhesymol, ac yn garedig. Y mae’n cofio mai awdurdod cymharol sydd ganddo. Nid yw byth yn uwch nag awdurdod Jehofa.

Bydd tad Cristnogol yn efelychu Crist yn ei rôl fel penteulu

13. Sut gall gwraig a mam gyflawni ei rôl yn y teulu mewn modd sy’n plesio Jehofa?

13 Helpu ei gŵr a bod yn gymar iddo yw rôl y wraig a’r fam. Mae ganddi hi, hefyd, awdurdod yn y teulu, gan fod y Beibl yn sôn am ‘gyfarwyddyd y fam.’ (Diarhebion 1:8) Wrth gwrs, mae ei hawdurdod hi yn is nag awdurdod ei gŵr. Bydd gwraig Gristnogol yn parchu awdurdod ei gŵr drwy ei helpu i gyflawni ei rôl fel penteulu. Dydy hi ddim yn ei fychanu nac yn ceisio dylanwadu yn amhriodol arno, nac ychwaith yn cymryd ei rôl drosodd. Yn hytrach, mae hi’n ei gefnogi ac yn cydweithredu ag ef. Pan na fydd hi’n hoffi ei benderfyniadau, fe all fynegi ei theimladau’n barchus ac yn ymostyngar. Gall hyn fod yn her os nad yw ei gŵr yn grediniwr, ond fe all ei hymddygiad gostyngedig ddenu ei gŵr at Jehofa.—Darllen 1 Pedr 3:1.

Tad yn disgyblu ei fab yn garedig am iddo greu llanast

14. Sut gall plant ddod â llawenydd i’w rhieni ac i Jehofa?

14 Mae plant sy’n ufudd i’w rhieni yn dod â phleser mawr i Jehofa. Hefyd, maen nhw’n dod ag anrhydedd a llawenydd i’w rhieni. (Diarhebion 10:1) Mewn teuluoedd rhiant sengl, mae plant yr un mor ufudd, gan sylweddoli bod angen mwy o gefnogaeth a chydweithrediad mewn sefyllfa o’r fath. Mewn teuluoedd lle mae pawb yn cyflawni’r rôl y mae Duw wedi ei rhoi iddyn nhw, ceir heddwch a llawenydd. Ac mae hyn yn dod ag anrhydedd i’r Un a sefydlodd y teulu, Jehofa Dduw.—Effesiaid 3:14, 15.

PARCH YN Y GYNULLEIDFA

15. (a) Yn y gynulleidfa, sut gallwn ni barchu awdurdod Jehofa? (b) Pa egwyddorion all ein helpu ni i fod yn ufudd i’n harweinwyr? (Gweler y blwch “Ufuddhewch i’ch Arweinwyr”.)

15 Mae Jehofa wedi penodi ei Fab fel Rheolwr ar y gynulleidfa Gristnogol. (Colosiaid 1:13) Mae Iesu, yn ei dro, wedi penodi’r “gwas ffyddlon a chall” i ofalu am anghenion ysbrydol pobl Dduw ar y ddaear. (Mathew 24:45-47) Y gwas hwnnw yw’r Corff Llywodraethol Tystion Jehofa. Fel y digwyddodd yng nghynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf, mae henuriaid heddiw yn cael cyfarwyddyd a chyngor gan y Corff Llywodraethol naill ai’n uniongyrchol neu drwy ei gynrychiolwyr, er enghraifft yr arolygwyr teithiol. Trwy barchu awdurdod yr henuriaid Cristnogol, rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa.—Darllen 1 Thesaloniaid 5:12; Hebreaid 13:17.

16. Ym mha ystyr y mae henuriaid yn cael eu penodi drwy ysbryd glân Duw?

16 Dydy’r henuriaid na’r gweision gweinidogaethol ddim yn berffaith. Fel ninnau, mae ganddyn nhw eu ffaeleddau. Ond eto, mae’r henuriaid yn rhodd i’r gynulleidfa i’w helpu i aros yn ysbrydol gryf. (Effesiaid 4:8, 11) Mae’r henuriaid yn cael eu penodi drwy’r ysbryd glân. (Actau 20:28) Sut felly? Oherwydd bod rhaid iddyn nhw gwrdd â’r gofynion a restrir yng Ngair ysbrydoledig Duw. (1 Timotheus 3:1-7, 12; Titus 1:5-9) Ar ben hynny, pan fydd yr henuriaid yn ystyried i ba raddau y mae brawd yn cwrdd â’r gofynion Ysgrythurol, byddan nhw’n gweddïo’n daer am arweiniad ysbryd glân Jehofa.

17. Yng ngweithgareddau’r gynulleidfa, pam mae merched weithiau yn gorchuddio eu pennau?

17 O bryd i’w gilydd, fe all sefyllfa godi yn y gynulleidfa lle nad oes henuriaid na gweision gweinidogaethol ar gael i gyflawni gwaith y bydden nhw fel arfer yn ei wneud, fel arwain cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, gall brodyr eraill sydd wedi eu bedyddio gyflawni’r gwaith. Os nad oes brawd ar gael, yna fe all chwiorydd cymwys sefyll yn y bwlch. Fodd bynnag, pan fo dynes yn cyflawni rôl sydd fel arfer yn cael ei chyflawni gan ddyn bedyddiedig, mae hi’n gorchuddio ei phen.a (1 Corinthiaid 11:3-10) Nid yw hyn yn iselhau gwragedd. Yn hytrach, mae’n rhoi cyfle i barchu trefn penteuluaeth Jehofa yn y teulu ac yn y gynulleidfa.

PARCH AT AWDURDOD SECIWLAR

18, 19. (a) Sut byddet ti’n esbonio’r egwyddorion yn Rhufeiniaid 13:1-7? (b) Sut rydyn ni’n dangos parch at awdurdodau seciwlar?

18 Mae gwir Gristnogion yn ofalus i gadw at yr egwyddorion yn Rhufeiniaid 13:1-7. (Darllen.) Wrth iti ddarllen yr adnodau hyn, fe weli di mai’r llywodraethau dynol yw’r “awdurdodau sy’n ben.” Tra bo’r llywodraethau hyn yn cael caniatâd gan Jehofa i barhau, maen nhw’n gwneud gwaith pwysig yn cadw rhywfaint o gyfraith a threfn ac yn darparu gwasanaethau angenrheidiol. Rydyn ni’n dangos parch at yr awdurdodau hyn trwy gadw’r gyfraith. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n talu unrhyw dreth sy’n ddyledus, yn llenwi unrhyw ffurflenni y mae’r llywodraeth yn gofyn amdanynt, ac yn cydymffurfio ag unrhyw gyfraith sy’n berthnasol i ni, i’n teulu, i’n busnes, neu i’n heiddo. Ond dydyn ni ddim yn ymostwng i awdurdodau seciwlar os ydyn nhw’n gofyn inni fod yn anufudd i Dduw. Fe fyddwn ni’n rhoi’r un ateb â’r apostolion: “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:28, 29; gweler y blwch “I Bwy y Dylwn Ufuddhau?”

I Bwy Y Dylwn Ufuddhau?

Egwyddor: “Yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr; yr ARGLWYDD yw ein brenin.”—Eseia 33:22.

Gofynna i ti dy hun

  • Beth byddwn i yn ei wneud petai rhywun yn gofyn imi fynd yn groes i safonau Jehofa?—Mathew 22:37-39; 26:52; Ioan 18:36.

  • Beth byddwn i yn ei wneud petai rhywun yn gorchymyn imi beidio â gwneud yr hyn y mae Jehofa yn ei ofyn imi ei wneud?—Actau 5:27-29; Hebreaid 10:24, 25.

  • Sut gallaf ddysgu bod yn ufudd i’r rhai mewn awdurdod?—Rhufeiniaid 13:1-4; 1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 6:1-3.

19 Mae ein hagwedd hefyd yn dangos parch tuag at yr awdurdodau seciwlar. Weithiau bydd rhaid inni ddelio’n uniongyrchol gyda swyddogion y llywodraeth. Roedd yr apostol Paul yn ymddangos o flaen y Brenin Herod Agripa a’r Rhaglaw Ffestus. Roedd gan y dynion hyn ffaeleddau difrifol, ond roedd Paul yn eu hannerch nhw â pharch. (Actau 26:2, 25) Rydyn ni’n dilyn esiampl Paul, p’un a ydyn ni’n siarad â rheolwr pwysig neu â heddwas lleol. Yn yr ysgol, mae Cristnogion ifanc yn dangos parch tuag at bawb sy’n gweithio yno. Wrth gwrs, rydyn ni’n dangos parch nid yn unig tuag at y rhai sy’n gefnogol i’n credoau, ond hefyd tuag at y rhai sy’n elyniaethus i Dystion Jehofa. Mewn gwirionedd, dylai ein parch fod yn amlwg i anghredinwyr yn gyffredinol.—Darllen Rhufeiniaid 12:17, 18; 1 Pedr 3:15.

20, 21. Pa fendithion sy’n dod o ddangos parch priodol at awdurdod?

20 Ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Rhowch barch i bawb.” (1 Pedr 2:17) Felly, rydyn ni eisiau bod yn hael wrth ddangos parch at eraill. Gall parch diffuant wneud argraff ddofn ar bobl. Peth prin iawn yw parch erbyn hyn. Ond, o’i ddangos, fe fyddwn ni’n dilyn gorchymyn Iesu: “Boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.”—Mathew 5:16.

21 Yn y byd tywyll hwn, mae pobl â chalonnau da yn cael eu denu at oleuni ysbrydol. Gall ein parch ni, yn y teulu, yn y gynulleidfa, ac yng nghyd-destunau seciwlar ddenu eraill i rodio gyda ni yn y goleuni. Dyna i ti syniad braf! Ond, hyd yn oed os nad yw hynny’n digwydd, mae un peth yn sicr: mae ein parch at bobl eraill yn plesio Jehofa Dduw ac yn ein cadw yn ei gariad. Pa wobr sy’n well na hynny?

a Mae’r erthygl “Gorchuddio’r Pen—Pryd a Pham?” yn trafod ffyrdd ymarferol o roi’r egwyddor hon ar waith.

“GWRANDO AR GYNGOR, A DERBYN DDISGYBLAETH”

Mae ysbryd Satan, ei agwedd wrthryfelgar a chwerylgar, yn llenwi’r byd. Mae’r Beibl yn galw Satan yn “dywysog galluoedd yr awyr,” ac yn sôn am “yr ysbryd sydd yn awr ar waith yn y rhai sy’n anufudd i Dduw.” (Effesiaid 2:2) Mae llawer heddiw eisiau bod yn gwbl annibynnol ar awdurdod. Gwaetha’r modd, mae’r ysbryd annibynnol hwn wedi cael effaith andwyol ar rai yn y gynulleidfa Gristnogol. Er enghraifft, fe all henuriad roi cyngor caredig am beryglon adloniant anfoesol neu dreisgar, ond fe all rhai wrthod y cyngor hwnnw neu hyd yn oed digio. Dylai pob un ohonon ni dderbyn geiriau Diarhebion 19:20: “Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.”

Beth all ein helpu yn hyn o beth? Ystyria dri rheswm y mae pobl yn gwrthod cyngor neu ddisgyblaeth, ac yna rho sylw i safbwynt y Beibl.

  • “Dydw i ddim yn meddwl bod y cyngor yn deg.” Fe allen ni feddwl nad yw’r cyngor yn berthnasol i’n sefyllfa ni neu fod y sawl sy’n rhoi’r cyngor heb weld y darlun cyfan. Efallai ein hymateb cyntaf fydd dirmygu’r cyngor ac wfftio ato. (Hebreaid 12:5) Gan ein bod ni i gyd yn amherffaith, onid yw hi’n bosibl mai ein safbwynt ni sydd angen ei newid? (Diarhebion 19:3) Onid oedd rhywfaint o’r cyngor yn berthnasol? Felly, dyna sy’n rhaid inni gofio. Mae Gair Duw yn ein cynghori: “Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd.”—Diarhebion 10:17.

  • “Doeddwn i ddim yn licio’r ffordd y cafodd y cyngor ei roi.” Wrth gwrs, mae Gair Duw yn gosod safon uchel ynglŷn â’r ffordd y dylid rhoi cyngor. (Galatiaid 6:1) Ond, ar y llaw arall, mae’r Beibl yn dweud ein bod “oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” (Rhufeiniaid 3:23) Yr unig ffordd inni gael cyngor perffaith wedi ei roi yn berffaith yw ei dderbyn gan berson perffaith. (Iago 3:2) Mae Jehofa yn defnyddio unigolion amherffaith i roi cyngor inni, felly, peth doeth fyddai osgoi canolbwyntio ar y ffordd y rhoddir y cyngor. Sylwa yn hytrach ar gynnwys y cyngor, a gweddïa am sut i’w roi ar waith.

  • “Dylai edrych yn nes adref cyn rhoi cyngor i mi!” Os ydyn ni’n meddwl bod gwendidau personol y sawl sy’n rhoi’r cyngor yn caniatáu inni ei ddiystyru, fe ddylen ni gofio am y pwyntiau uchod. Yn yr un modd, os ydyn ni’n meddwl bod ein hoedran, ein profiad, neu ein cyfrifoldebau yn y gynulleidfa yn ein gosod ni uwchlaw pob cyngor, yna fe ddylen ni ailfeddwl. Yn Israel gynt, er bod gan y Brenin gyfrifoldebau mawr, roedd yn rhaid iddo dderbyn cyngor gan broffwydi, offeiriaid, ac eraill o blith ei ddeiliaid. (2 Samuel 12:1-13; 2 Cronicl 26:16-20) Heddiw, mae cyfundrefn Jehofa yn penodi dynion amherffaith i roi cyngor, ac mae Cristnogion aeddfed yn hapus i’w dderbyn a’i roi ar waith. Os oes gennyn ni fwy o gyfrifoldeb a phrofiad nag eraill, fe ddylen ni osod esiampl drwy dderbyn cyngor a’i roi ar waith mewn modd rhesymol a gostyngedig.—1 Timotheus 3:2, 3; Titus 3:2.

Yn amlwg, does neb uwchlaw cyngor. Gad inni fod yn barod i dderbyn cyngor a’i roi ar waith gan ddiolch i Jehofa am rodd a all achub ein bywydau. Arwydd o gariad Jehofa tuag aton ni yw cyngor, ac yn sicr rydyn ni’n dymuno aros yng nghariad Duw.—Hebreaid 12:6-11.

“UFUDDHEWCH I’CH ARWEINWYR”

Yn Israel gynt, roedd taer angen am drefn. Roedd hi’n amhosibl i un dyn oruchwylio miliynau o bobl a oedd yn teithio drwy ddiffeithwch peryglus. Felly, beth wnaeth Moses? “Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a’u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.”—Exodus 18:25.

Yn y gynulleidfa Gristnogol heddiw, mae angen trefn hefyd. Dyna pam y ceir arolygwr ar gyfer pob grŵp gweinidogaeth, henuriaid ar gyfer pob cynulleidfa, arolygwr cylchdaith ar gyfer pob grŵp o gynulleidfaoedd, a Phwyllgor Gwlad neu Bwyllgor Cangen ar gyfer pob gwlad. Mae’r drefn hon yn golygu bod pob dyn sy’n gweithio fel bugail yn gallu rhoi sylw manwl i ddefaid Jehofa o dan ei ofal. Mae’r bugeiliaid hyn yn atebol i Jehofa ac i Grist.—Actau 20:28.

Yn y drefn hon y mae angen i bob un ohonon ni fod yn ufudd ac yn ymostyngar. Fydden ni byth eisiau bod fel Diotreffes a oedd heb unrhyw barch tuag at arweinwyr y gynulleidfa bryd hynny. (3 Ioan 9, 10) Yn hytrach, fe ddylen ni dderbyn cyngor yr Apostol Paul: “Ufuddhewch i’ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy’n gwylio’n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny’n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny.” (Hebreaid 13:17) Mae rhai yn fodlon ufuddhau pan fyddan nhw’n cytuno â’r cyfarwyddyd ond yn gwrthod ildio pan fyddan nhw’n anghytuno neu’n methu gweld y rheswm y tu ôl iddo. Mae bod yn ymostyngar yn medru golygu ufuddhau hyd yn oed pan nad ydyn ni’n teimlo fel gwneud hynny. Fe ddylen ni i gyd ofyn, ‘A ydw i’n ufudd ac yn barod i ymostwng i’r rhai sy’n arwain yn y gynulleidfa?’

Wrth gwrs, dydy Gair Duw ddim yn trafod sut y dylid trefnu pob agwedd ar waith y gynulleidfa. Ond eto, mae’r Beibl yn dweud: “Dylid gwneud popeth yn weddus ac mewn trefn.” (1 Corinthiaid 14:40) Mae’r Corff Llywodraethol yn ufuddhau i’r cyfarwyddyd hwn drwy sefydlu trefniadau a rhoi canllawiau sy’n sicrhau bod popeth o fewn y gynulleidfa yn rhedeg yn esmwyth a didrafferth. O roi’r trefniadau hyn ar waith, mae dynion Cristnogol cyfrifol yn esiamplau da o ran ufudd-dod. Maen nhw hefyd yn dangos eu bod nhw yn rhesymol ac yn barod i ufuddhau i’r rhai sy’n goruchwylio’r gynulleidfa. Felly, ym mhob grŵp, cynulleidfa, cylchdaith, a gwlad mae’n bosibl gweld cymdeithas o addolwyr unedig sy’n dod â chlod i’w Duw hapus.—1 Corinthiaid 14:33.

Ar y llaw arall, mae geiriau Paul yn Hebreaid 13:17 yn dangos pa mor niweidiol yw anufudd-dod. Fe fyddai hynny yn gwneud gwaith y rhai sydd â chyfrifoldeb yn anodd neu’n “ofidus,” yn lle bod “yn llawen.” Pan fydd brawd yn gorfod delio gydag agwedd wrthryfelgar a diffyg cydweithredu yn y gynulleidfa, fe all ei fraint o wasanaethu Jehofa droi’n faich. Yn ei dro, byddai hyn yn niweidiol “i chwi,” sef y gynulleidfa gyfan. Wrth gwrs, gall gwrthod ildio i drefn theocrataidd niweidio rhywun mewn ffordd arall. Os ydy rhywun yn gwrthod ildio oherwydd balchder, bydd hyn yn ei niweidio yn ysbrydol, gan greu pellter rhyngddo ef a’i Dad nefol. (Salm 138:6) Gad inni i gyd, felly, aros yn ufudd ac yn ymostyngar.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu