YMDOPI Â’R CYNNYDD MEWN PRISIAU
Rheoli Eich Arian yn Ofalus
Mae prisiau cynyddol yn her i bob un ohonon ni. Ond does dim angen ichi deimlo’n ddiymadferth. Mae’n debyg bod pethau y gallwch chi eu gwneud i wella’r sefyllfa.
PAM MAE’N BWYSIG?
Os nad ydych chi’n gwneud dim i reoli eich arian, mae’n hawdd i’r sefyllfa waethygu, a bydd hynny yn ychwanegu at eich pryderon. Hyd yn oed os ydy arian yn brin, mae sawl peth y gallwch ei wneud i reoli eich sefyllfa ariannol.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
Gwario llai na’ch incwm. Drwy wneud hyn, byddwch chi’n teimlo bod y sefyllfa ariannol dan reolaeth, a byddwch chi’n fwy parod ar gyfer costau annisgwyl.
Er mwyn gwario llai na’ch incwm, mae’n help mawr os ydych chi’n creu cyllideb—hynny yw cynllun sy’n dangos faint rydych chi’n ei ennill a faint sydd ei angen i dalu eich biliau. Wrth lunio’r gyllideb, meddyliwch yn ofalus am eich gwir anghenion. Yna gwnewch eich gorau i gadw at eich cynllun, a’i addasu os bydd prisiau, neu eich incwm, yn newid. Wrth gwrs, os ydych chi’n briod, dylech chi wneud penderfyniadau gyda’ch gilydd.
Rhowch gynnig ar hyn: Yn lle prynu ar gredyd, defnyddiwch arian parod os gallwch. Drwy wneud hyn, mae rhai’n ei chael hi’n haws rheoli eu gwario ac osgoi mynd i ddyled. Hefyd, cofiwch edrych ar eich cyfriflenni banc. Bydd gwybod faint o arian sydd gynnoch chi yn lleihau straen.
Gall fod yn anodd byw o fewn eich incwm. Ond bydd cyllideb ymarferol, wedi ei chynllunio’n dda, yn help mawr. Bydd yn gwneud ichi deimlo bod y sefyllfa dan reolaeth.
Cadwch eich swydd. Pa bethau ymarferol gallwch chi eu gwneud i gadw eich swydd? Dyma rai syniadau: Byddwch yn brydlon. Cadwch agwedd bositif tuag at eich gwaith. Helpwch eraill a gweithiwch yn galed. Dangoswch barch. Dilynwch y rheolau, a cheisiwch wella eich sgiliau.
Peidiwch â gwastraffu eich arian. Gofynnwch, ‘A oes gen i arferion costus neu wastraffus?’ Er enghraifft, mae llawer o bobl yn gwastraffu arian maen nhw wedi gweithio’n galed amdano drwy gamddefnyddio cyffuriau, gamblo, smygu, neu yfed gormod o alcohol. Mae’r arferion hyn yn gallu costio rhywun ei iechyd a’i swydd.
Cynilwch ar gyfer costau annisgwyl. Pan fydd hi’n bosib, rhowch ychydig o arian o’r neilltu ar gyfer costau annisgwyl neu i’w ddefnyddio mewn argyfwng. Mae cael cronfa wrth gefn yn gallu lleddfu’r straen os byddwch chi neu rywun yn y teulu yn mynd yn sâl, yn colli swydd, neu’n wynebu rhywbeth arall annisgwyl.