Mae llawer o bobl yn stryglo bob dydd i gael popeth maen nhw ei angen i fyw. Yn anffodus, mae problemau yn y byd yn gallu gwneud hynny’n anoddach. Pam?
Mae cymunedau ble mae helyntion yn gweld costau byw yn codi—gan gynnwys costau tai a bwyd.
Mae llawer o bobl yn colli eu swyddi neu’n gorfod gweithio am lai o gyflog pan mae ’na argyfwng.
Mae trychinebau yn gallu dinistrio busnesau, cartrefi, neu eiddo, gan achosi tlodi i lawer.
Beth Dylech Chi ei Wybod?
Os ydych chi’n defnyddio eich arian yn ddoeth, bydd hi’n haws arnoch chi mewn argyfwng.
Cofiwch fod eich incwm, cynilion, ac eiddo yn gallu colli eu gwerth.
Mae yna bethau dydy arian ddim yn gallu eu prynu, fel hapusrwydd ac undod yn y teulu.
Beth Gallwch Chi ei Wneud Nawr?
Mae’r Beibl yn dweud: “Felly, gan fod gynnon ni fwyd a dillad, byddwn ni’n fodlon ar y pethau hyn.”—1 Timotheus 6:8.
Mae bodlonrwydd yn golygu bod yn hapus gyda’r hyn rydyn ni ei angen nid popeth rydyn ni ei eisiau. Mae hyn yn enwedig o bwysig pan ydyn ni’n gorfod byw ar lai o arian.
I fod yn fodlon, efallai bydd angen ichi symleiddio eich bywyd. Os ydych chi’n gwario mwy na’ch incwm, bydd gynnoch chi fwy o broblemau.