Cân 3 (6)
Cyhoeddwch yr Efengyl Dragwyddol
1. Yng nghanol nef eheda angel Duw yn daer,
Cyhoeddi mae efengyl y tragwyddol Air.
Yn uchel dwed: ‘O ofnwch Dduw cans daeth ei awr,
Fe farna’r holl drigolion sydd ar ddaear lawr.
Gogoniant ac addoliad rhowch i Fawr Dduw’r nef;
Ag arswyd clyw’r drygionus rai ei nerthol lef.’
Ond chwi, gyhoeddwyr dewr y Deyrnas, nawr gwrandewch:
Heb ofn, pregethwch newydd da Duw. Ymgryfhewch.
2. Yn dilyn hyn daw angel arall teg, a dweud
Am waith mae Tystion dewr Jehofah nawr i’w wneud.
Sôn mae am syrthio dinas ddrwg, Fawr Babilon,
Ei difa’n llwyr gan Dduw fydd tynged erchyll hon.
I holl orchmynion Duw Jehofah ufuddhawn;
Cyhoeddwn ddydd ei ddial, a’i glodfori wnawn.
Terfynau’n maes pregethu sydd yn eang, wir;
Ond ar y blaen â angel Duw yn hyn drwy’n tir.
3. Daw Mab y Dyn â’i ogoneddus nefol lu
I farnu’r holl genhedloedd ar ein daear ni.
Casewch y drwg, a glynwch wrth yr hyn da sydd.
O ofnwch Dduw ac ufuddhewch â chadarn ffydd.
Dan rwymedigaeth rydym i orchymyn mawr,
‘Pregethwch bur efengyl Duw’r gwirionedd nawr.’
Anogaeth rown fel gweinidogion dros ddae’r gron,
“Addolwch Dduw Jehofah; rhowch wasanaeth llon.”