Cân 64 (151)
Cyhoeddwn yr Efengyl Hon am y Deyrnas
1. Newydd da am deg deyrnasiad Iesu Grist, pregethu raid.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
Wrth bregethu’r newydd da hyderwn fod yn ddewr, ddi-baid.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
Dewch! Pregethwn am y newydd da mewn cartref ac ar stryd.
Llawn ddefnyddio wnawn y Beibl a’n holl lyfrau i gyd.
Gyda’n gallu fe bregethwn, selog fyddwn yn unfryd.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas Dduw!
2. Rhaid pregethu’r newydd da am wledd mae Duw’n ei pharatoi.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
D’wedwch wrth yr addfwyn rai i ddod i’r wledd yn ddiymdroi.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
Ar y bwrdd mae pasgedigion i’r rhai fu’n newynog cyd;
D’wedwch wrthynt y’u digonir ar win pur gwynfyd.
Disglair, drudfawr iachawdwriaeth a oleua’r wynepryd.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas Dduw!
3. Dewch! Pregethwn am lawenydd mawr y Deyrnas sy’n bywhau.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
Fydd dim rhaid i neb sy’n caru Duw Jehofah byth dristáu.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas wiw!
Cymorth fydd i bawb ymdrechgar i ddwyn ffrwyth gweithredoedd da.
Bythol heddwch, noddfa gadarn, Duw a sicirha.
Beunydd hyfryd yw gwas’naethu Duw mewn sanctaidd fwyneidd-dra.
Awn! Cyhoeddwn efengyl Teyrnas Dduw.