Cân 4 (8)
Ymostwng yn Deyrngar i Drefn Theocrataidd
1. Pobol Duw Jehofah sy’n cyhoeddi’n daer
Wirioneddau’r Deyrnas, amhrisiadwy Air.
I’r drefn theocrataidd rhaid yw ufudd-hau;
Felly’n unol cadwn; teyrngar gwnawn barhau.
(Cytgan)
2. Crist yw ein Harweinydd grymus yn y nef;
Gwrendy pob rhyfelwr ar ei nerthol lef.
Brwydyr fawr ysbrydol o’n blaen beunydd sydd,
Fel un nawr gweithredwn, safwn yn y ffydd.
(Cytgan)
3. Hefyd y mae gennym was sy’n ffyddlon, call,
A’r glân ysbryd sanctaidd; rhoddant nerth di-ball.
Cadarn nawr y safwn, ceisiwn foddhau Duw,
A’i Air teg cyhoeddwn i bwy bynnag glyw.
(CYTGAN)
Gwir ymostyngiad, mewn gwerthfawrogiad,
I’n Duw teyrngarwch rown.
Cawn amddiffyniad, llwyr gydymdeimlad.
 dewr galon deyrngar down.