Cân 17 (38)
Gweithredu’n Deyrngar
(Salm 18:25)
1. Mae gan Dduw Jehofah bobol
Sydd yn dwyn ei enw nawr.
Cynulleidfa deyrngar ffyddlon,
Ymgysegrant i’w glod mawr.
Diolch wnânt am fwyd ysbrydol,
O’i fwrdd sanctaidd, rhannu wnânt.
Eu dymuniad yw bodloni
Duw. Am hyn ei gwmni gânt.
2. I Dduw ac i’w gynulleidfa
Teyrngar fyddwn yn y ffydd.
Cadarn, ffyddlon yr arhoswn,
Ie, mewn adfydus ddydd.
Gwarchod wnawn ei theg fuddiannau
Rhag pob niwed neu anfri.
Os daw iddi unrhyw beryg’
Rhybudd buan waeddwn ni.
3. Teyrngar fyddwn wrth roi cymorth
I rai newydd ac i’r gwan;
Wrth astudio a gwas’naethu
Help rown iddynt wneud eu rhan.
Ffyddlon fôm fel aelod teulu,
Siomi’n brawd ni wnawn tra’n byw;
Ond ym mhob perthynas agos
Teyrngar fyddwn wrth gyd-fyw.
4. Byw rhaid nawr mewn byd annheyrngar,
Ond yn deyrngar cadwn ni
I’n glân frawd a phob cymydog
Trwy fil anawsterau lu.
Profwn mai celwyddog Satan,
Ond gwirionedd yw’n Iôr Jah.
Os yn deyrngar rhodiwn beunydd,
Hyn bodloni Duw a wna.