Cân 10 (27)
Peidiwch Â’u Hofni!
1. Bwriwch ’mlaen fy mhobl ffyddlon,
Gwnewch y gwaith pregethu’n hy,
Er bod gelyn creulon cry’;
Ceisiwch bawb o’r addfwyn lu.
D’wedwch wrthynt fod Crist Iesu
Yn fuddugol yn y nef,
Ac ar ôl caethiwo Satan
Y rhyddheir ei gaethion ef.
(Cytgan)
2. Er bod gelyn cry’ niferus
Yn eich bygwth a’ch sarhau,
Denu wnânt a’u geiriau gau,
Twyllo’n graff y gwannaidd rai.
Hwy nac ofnwch, fy rhyfelwyr;
Codwch galon. Ymladd, gwnewch!
Cadw wnaf fy newr ffyddloniaid.
Yn y frwydyr hon parhewch.
(Cytgan)
3. Fi yw’ch nerth a’ch cadarn darian,
Byddwch yn fy ngho’n barhaus.
Er ich syrthio ar y maes
Ildia angau i fy llais.
Fy rhyfelwyr dewr Cristnogol
Peidiwch ofni’u bostfawr ru;
Gwerthfawr yn fy ngolwg beunydd
Yw’ch ffyddlondeb cyson chi.
(CYTGAN)
Dyn ni all ddinistrio’r enaid;
Lladdwyr corff nac ofnwch chi.
Hyd y diwedd byddwch ffyddlon;
O’ch blaen bywyd bythol sy.