Cân 14 (34)
Byw Fel Tystion
(Eseia 43:10-12)
1. Sanctaidd Jehofah, cadernid tragwyddol,
Perffaith mewn cariad a phob rhinwedd gwiw;
Ffynnon gwirionedd a bythol ddoethineb,
Ti yw ein Brenin, Penllywydd clodwiw.
Yn gweini arnat mae lluoedd angylion;
Sêr y ffurfafen dy foliant a gân.
Ni yw dy Dystion, mae arnom dy enw;
Rhodiwn yn ufudd i’th orchmynion glân!
2. Cymorth, Jehofah, rho i ni’n feunyddiol,
Clodforwn d’enw a phorthwn dy ŵyn.
Boed i ni ddilyn yn ôl traed Crist Iesu,
Ffyddlon i’w eiriau fe geisiwn ymddwyn.
Gofal gwastadol rhaid rhoi i’n haddoliad,
Cadwn yn sanctaidd dy enw a’th fri.
Gwefusau mawl dyro i ni, dy Dystion;
Braint yw cyhoeddi dy frenhiniaeth di!
3. Derbyn ein sanctaidd, resymol wasanaeth
Wrth in gydweithio mewn cariad a hedd;
Bodlonrwydd dwyfol derbyniwn yn rhadlon;
Llawenydd calon oleua ein gwedd.
Boed i ni gynnal mawrhydi dy enw;
Â’r geiriau bywiol at bobloedd yr awn;
Hyn ddaw â chlod i Jehofah ein Brenin,
A’i enw dwyfol bob amser mawrhawn.