Cân 34
Arnom Mae Dy Enw
(Eseia 43:10-12)
1. Iôr bendigedig, Penarglwydd Jehofa,
Tarddle doethineb, pob rhinwedd o werth,
Nerthol Waredydd, Ffynhonnell geirwiredd,
Ti yw’n hyfrydwch, ‘Breswylydd y berth.’
Braint yw lledaenu gwirionedd dy Deyrnas.
Â’th genadwri awn at ddynolryw.
(CYTGAN)
Ninnau dy Dystion, yn Jah gorfoleddwn.
Braint yw cyhoeddi dy enw, O Dduw!
2. Hyfryd frawdoliaeth a ddyry fawr gysur;
Gan lewyrch d’eiriau ein tywys a gawn.
Hyfryd yw gweld mawl Jehofa ar gynnydd;
D’enw dyrchafwn, a’th fri a fawrhawn.
Gwaith anrhydeddus a roddaist i’th weision,
Teg genadwri y ddaear a glyw.
(CYTGAN)
Ninnau dy Dystion, yn Jah gorfoleddwn.
Braint yw cyhoeddi dy enw, O Dduw!
(Gweler hefyd Deut. 32:4; Salm 43:3; Dan. 2:20, 21.)