Cân 19 (43)
Ymlaen, Chi Weinidogion y Deyrnas!
1. Ymlaen ewch, pregethwch y Deyrnas
I bawb ym mhob gwlad drwy’r byd.
Fe garwn yn fawr ein cymydog,
Ar addfwyn rai rhown ein bryd.
I roi bob parch i’n cenadwri
Ystyriwn wisg ac ymddwyn pur.
Mor werthfawr yw’n glân weinidogaeth;
Bendithiwn Jehofah geirwir.
(Cytgan)
2. Chi lân weinidogion sy’n newydd,
Ystyriwch deg wobr Duw.
Ymdrechwch yn lew, ymestynnwch,
Ymnerthwch ym maeth Gair byw.
I’r byd nid ydych mwy yn perthyn;
Yng ngwaith Duw cadwch yn bur, lân.
Yn ddyfal fe ddysgwch rinweddau
Sancteiddrwydd, gan gyflawni’ch rhan.
(Cytgan)
3. Ymlaen awn, cydweithiwn â’n gilydd
Y gweddill a’r defaid rai;
Yr ifanc, yr hen, gwŷr a gwragedd,
Cydgerddwn gan lawenhau.
Ein gweinidogaeth gysegredig,
Yn gyson ceisiwn ei chryfhau.
I’r addfwyn fe ddaw â diddanwch,
Anrhydedd gaiff Duw, a’i fawrhau.
(CYTGAN)
Ewch, pregethwch neges deg y Deyrnas dros y tir a’r môr,
Beunydd mewn teyrngarwch gwasanaethwch Fawr Jehofah Iôr.