Cân 97
Ymlaen, Chi Weinidogion y Deyrnas!
1. Ymlaen ewch, llefarwch am Deyrnas
All achub byd dynolryw.
 chalon sy’n caru’ch cymydog
At addfwyn rai ewch, braint yw.
Gofynna gwaith Duw am ymroddiad;
Llefaru ei air wnawn yn hy.
Ewch allan i’r maes, tystiolaethwch;
Dyrchafwch ei enw a’i fri.
(CYTGAN)
Ymlaen awn; pregethwn
am y Deyrnas i bob llwyth a gwlad.
Ffyddlon, teyrngar, byddwn i Jehofa
Dduw ein nefol Dad.
2. Fe ŵyr gweinidogion y Deyrnas
Mai bywyd yw gwobr Duw.
O ddilyn ôl troed Crist, y Meistr,
Goroeswn sarhad a briw.
Rhown wybod i was a phendefig
Am Deyrnas sy’n uchel ei moes.
Llefarwn efengyl Jehofa—
Nid ofnwn, ei nerth inni roes!
(CYTGAN)
Ymlaen awn; pregethwn
am y Deyrnas i bob llwyth a gwlad.
Ffyddlon, teyrngar, byddwn i Jehofa
Dduw ein nefol Dad.
3. Cydgerdded a wnawn gyda’r gweddill
A thyrfa y defaid rai,
Yr henoed, rhieni a’r ifanc;
Teg gwmni mewn oes ar drai.
Llafurio mewn gwaith cysegredig
Bob dydd wnawn, yn sicr ein cam.
Duw gweld wna ein calon ddiffuant.
Anelwn at lendid di-nam.
(CYTGAN)
Ymlaen awn; pregethwn
am y Deyrnas i bob llwyth a gwlad.
Ffyddlon, teyrngar, byddwn i Jehofa
Dduw ein nefol Dad.
(Gweler hefyd Salm 23:4; Act. 4:29, 31; 1 Pedr 2:21.)