Cân 30 (63)
Llewyrched y Goleuni
1. Bydded nawr oleuni,
Hyn orchmynnodd Duw.
Ymaith â thywyllwch
Hir y ddynolryw.
Mellt a thân fflachiadau
Ddaw o’i deml bur;
Llewyrch ganddynt gawn i
Rodio’r llwybyr gwir.
2. Â gair byw y Deyrnas
A’r teg obaith drud,
Awn i’r holl alarus
Mewn anghenus fyd.
Gan Dduw, nerth i dystio
Am ei Air a gawn;
Yn ddewr fe gyhoeddwn
Fwriad Iôn uniawn.
3. Dangos wnawn ffyddlondeb
Gyda chymorth Duw.
Cadarn fo’n huniondeb
Beunydd tra fôm byw.
Uchel glod, gogoniant,
Rhoi i’w enw wnawn;
Enw anrhydeddus,
Ynddo llawenhawn.