Cân 31 (67)
Casglwch Ichwi Drysorau yn y Nef
1. Hawdd yw caru Duw Jehofah
Tad holl oleuadau’r nef!
Pob rhoi da a phob rhodd berffaith,
Rhoddi’n hael i bawb mae ef.
Ganddo daw ein bwyd a chysgod
Daear ffrwythlon, haul a glaw.
Diolch wnawn i’n teg Gynhaliwr
Am fendigaid rodd ei law.
2. Llwyr ffolineb ydi treulio
Ein holl amser yn ddi-fudd
I grynhoi mawr olud bydol—
Peryg’ colli einioes fydd!
Bodlon fyddwn ar ychydig;
Mewn gweithredoedd da parhawn,
Sicr wedyn fydd ein gafael
Yn y bywyd bythol, llawn.
3. Nawr defnyddiwn ein hadnoddau
A’n holl nerth i geisio’n daer
Rhai â syched am ffynhonnau
Dyfroedd bywiol sanctaidd Air.
Wrth weithredu ag addfwynder
Gwir gyfeillion fyddwn ni
I Jehofah a Christ Iesu;
Casglwn drysor bythol fry.