Cân 94
Bodloni ar Roddion Daionus Duw
1. Daionus roddion, pob rhoi da,
Disgynnant oddi fry—
Tad goleuadau’r nef sy’n rhoi
O’i roddion ras i ni.
Un cyfnewidiad byth ni cheir
Na chysgod troad rhod.
Goleuni, bywyd, rhoddion perffaith;
Rhoi’n hael mae’r Uchaf Fod.
2. ‘Ystyriwch lili’r maes,’ medd Crist,
‘Mae’i gwisg yn syml, gwiw;
Pryderu ni wna les i chi,
Eich angen gŵyr eich Duw;
Darpara fwyd i adar to,
Mwy gwerthfawr ydych chi.’
O, peidiwn felly â phryderu;
Cynhaliaeth fydd i ni.
3. Na cheisiwn fawrion bethau’r ddae’r,
Amddifad ŷnt o werth;
Yn hytrach prynu amser wnawn
I wneud gwaith Duw â’n nerth.
Addawodd, ‘Ni’th adawaf byth,’
Dy einioes ganddo roed.
Ar roddion Duw fe ymfodlonwn;
Ein llygad, syml boed.
(Gweler hefyd Jer. 45:5; Math. 6:25-34; 1 Tim. 6:8; Heb. 13:5.)