Cân 44 (105)
Henffych Gyntafanedig Jehofah!
1. Cyfarchwn nawr yn llawen
Fab dewr Jehofah Dduw.
Teilyngaf mewn ufudd-dod;
Etifedd pob peth yw.
Y cyfan wnaethpwyd drwyddo
—Y nefoedd a’r lân ddae’r.
Mawrygodd fri Jehofah;
Ef oedd y Ffyddlon Air.
2. Er iddo fod ar ffurf Duw,
Ni cheisiodd ddwyfol fri.
Cymerodd agwedd isel,
A daeth i’n daear ni.
Ar wedd dyn ymostyngodd
Gan roi i’r ddynolryw
Wirionedd ffordd y bywyd,
A chyfiawnhau ei Dduw.
3. Ei dra dyrchafu gafodd
Ar lân ddeheulaw Duw,
I gyfiawnhau Jehofah,
A’r enw uchel gwiw.
Ym mrwydyr Armagedon
Gweithredu wna ei gledd,
A difa pob gelyniaeth.
Di-ddiwedd fydd ei hedd.
3. Cyfarchwn Fab Jehofah;
Teyrnasu mae yn awr.
O dŷ i dŷ pregethwn
Am iachawdwriaeth fawr.
Cans dysgu pawb o’r addfwyn
I nabod Duw, yw’n cais.
Cyfarchwn gyda’n brodyr
Fab Duw, â pharch parhaus.