Cân 8 (21)
Cyfarchwch Deyrnas Jehofah!
1. Chwi Gristnogion nawr cyfarchwch
Deyrnas sefydledig Dduw.
Dewr Fihangel fwriodd Satan
’Lawr o’r nef. Gwae dynolryw!
Buan caiff yr hen Ddiafol
Â’i holl lu’n y pydew fod.
Daear gyfan a atseinia
Gyda Christ, i Dduw fawr glod.
2. Ar y blaen, gadewch i weddill
Bychan braidd; ffyddlonaf rai,
Gyfarch Teyrnas hardd Jehofah.
Rhannu wnânt â’r Crist di-fai.
Clywch chwi oll y rhai obeithiwch
Etifeddu gwynfyd gwiw:
Cymorth rhowch i’r gweddill bychan,
Ewch, cyhoeddwch Deyrnas Dduw.
3. Henffych Deyrnas lon Jehofah!
I bregethu’n ddi-ofn, ewch.
Cymorth rhowch i’r holl rai addfwyn
Ag ewyllys da parhewch.
Eiddo i Jehofah’r Deyrnas;
Llawn rhinweddau tirion yw.
Bythol fydd ei mwyn fendithion,
Cyfiawnhau wna enw Duw.