Cân 57 (136)
Addolwyr Ffyddlon yn Bendithio Jehofah
(Salm 18:25)
1. Bendithio wnawn yn llon, ein Harglwydd cariadlon.
Mewn moliant down gerbron, ei orsedd hael.
Ffyddlon i’r ffyddlon yw, cyfiawn ei ffyrdd clodwiw,
Teyrngar a nerthol Dduw; cymorth di-ffael.
2. Anrhydedd rown iti; derbyn ein diolch ni.
Wrth roi’n gwasanaeth hy, rhoddwn it glod.
O’n hôl mae byd di-fudd. Ymdrechu wnawn bob dydd
I gadarnhau ein ffydd; uniawn ein nod.
3. Beunydd rhown ar y blaen, fwriad dy Deyrnas gain.
Boed i bawb glywed sain, pregethu’r Gair.
Cymorth i’r addfwyn rhown, at hyn fe baratown.
At Iôr daionus down, mewn gweddi daer.
4. Codwn drwy’n tir ein llais, mewn clod a mawl parhaus
I’th Deyrnas lân foddhaus, a’th enw gwiw.
Bendith tangnefedd ddaw. Cyhoeddwn yn ddi-daw
Fawr nerth dy ddeheulaw, i’r ddynolryw.