Cân 62 (146)
Ffowch i Deyrnas Dduw!
(Seffaneia 2:3)
1. Ceisiwch Jehofah rai llariaidd y ddaear,
Ceisiwch gyfiawnder, addfwynder bob dydd;
Yna efallai yn nydd ei ddigofaint,
Cewch fod rhag ei ddicter, ynghudd.
(Cytgan)
2. Chi sy’n newynu am wir a chyfiawnder,
Osgowch Orthrymwr drwg; ceisiwch ffordd Duw.
Pam llefain mwyach mewn tristwch a gofid?
I’r Brenin Crist ildiwch eich byw.
(Cytgan)
3. ’Drychwch, dyrchefwch eich pennau yn llawen,
Gwelwch y prawf sydd i Deyrnas Dduw ddod.
Croeso nawr rhowch i oleuni Jehofah,
Ef ofnwch, a rhowch iddo glod.
(CYTGAN)
Gobaith y byd—ffowch i lân Deyrnas Dduw,
Cadarn o’i blaid foch, a’i fri;
Yno cewch brofi’i amddiffyn a’i fendith
Os ei orchmynion wnewch chi.