Cân 16
Ffowch i Deyrnas Dduw!
(Seffaneia 2:3)
1. Ceisiwch Jehofa chwi addfwyn rai’r ddaear,
Ceisiwch gyfiawnder, i’w ddeddfau ymrowch.
Dydd ei ddigofaint ar frys sydd yn dyfod;
O wrando, ei lid fe osgowch.
(CYTGAN)
Teyrnas Jehofa yw gobaith y byd,
Cynnig mae guddfan rhag gwae;
Ynddi cewch noddfa— ffowch iddi heb oedi—
Llesol ich fydd ufuddhau.
2. Chwi fu’n hirddisgwyl gweinyddiaeth byd cyfiawn,
Sychwch eich dagrau, daw terfyn ar loes.
Duw yn ei gariad ddarparodd ddihangfa;
Brenhiniaeth i Grist ef a roes.
(CYTGAN)
Teyrnas Jehofa yw gobaith y byd,
Cynnig mae guddfan rhag gwae;
Ynddi cewch noddfa— ffowch iddi heb oedi—
Llesol ich fydd ufuddhau.
3. Codwch eich pennau a gwelwch y Deyrnas!
Amlwg yw’r arwydd ar ddiwedd yr oes.
Llewyrch geirwiredd ein Iôr rydd in ragflas
O’i hynod lywodraeth a’i moes.
(CYTGAN)
Teyrnas Jehofa yw gobaith y byd,
Cynnig mae guddfan rhag gwae;
Ynddi cewch noddfa— ffowch iddi heb oedi—
Llesol ich fydd ufuddhau.
(Gweler hefyd Salm 59:16; Diar. 18:10; 1 Cor. 16:13.)