Cân 70 (162)
“Pregetha’r Gair”!
1. Rhaid ‘pregethu’r gair’ yn gyson,
Dyma nawr orchymyn Duw.
Ein hymateb fel disgyblion—
Llwyr ufudd-dod beunydd, yw.
Rhaid ‘pregethu’r gair’ gan ddysgu’r
Addfwyn rai drwy’n tir i gyd.
Peidiwn ofni erledigaeth;
Mawr fo’n hyder ar bob stryd.
2. Rhaid ‘pregethu’r gair’ bob amser.
Yn ein calon paratown
Sicir reswm am ein gobaith
—Gyda pharch i bawb fe’i rhown.
Rhaid ‘pregethu’r gair’, er mynych
Yw yr erledigaeth gawn.
Ymddiriedwn ein comisiwn
I’r Goruchaf Dduw uniawn.
3. Rhaid ‘pregethu’r gair’ heb flino
I’r holl ddynolryw ddi-hid!
Mynd ar gynnydd fydd drygioni,
Diwedd ddaw ar wawdlyd fyd.
Rhaid ‘pregethu’r gair’ am enw
Glân Jehofah, cyfiawn, gwiw.
Rhaid ‘pregethu’r gair’ am frwydyr
Dydd mawr buddugoliaeth Duw.