Cân 69 (160)
Rhodio Mewn Uniondeb
(Salm 26:1)
1. O barna fi, Jehofah f’Arglwydd Dduw.
Y llwybyr rhodiaf, Iôr, un cywir cadarn yw.
O chwilia fi, rho brawf ar ’nghalon nawr;
Ymddiried ynot wyf, dy fendith sydd werthfawr.
(Cytgan)
2. Nid eistedd wyf yng nghwmni diwerth rai,
Na chyfeillachu chwaith â chydymdeithion gau.
Rhag pechaduriaid a’r holl waedlyd wŷr
O gwared fi fy Nuw; dymunaf rodio’n bur.
(Cytgan)
3. Cans caru rwyf dy hardd breswylfa lân.
Amgylchaf d’allor Dduw; rhof ddiolch it mewn cân.
Fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb sydd;
Dy ryfeddodau mawr, eu hadrodd wnaf bob dydd.
(CYTGAN)
Ymlaen yr af boed aeaf neu boed haf;
I’r gwir yr ufuddhaf. Am byth uniondeb wnaf.