Cân 29
Rhodio Mewn Uniondeb
(Salm 26)
1. O barna fi, Jehofa clyw fy llais;
Yn gywir rhodiais Iôr, ni fynnais ddrwg na thrais.
O chwilia ’nghalon, hola ddull fy myw,
Diniwed yw fy nwylo; cedwais iti’n driw.
(CYTGAN)
Ymlaen yr af, yn llwybrau Duw parhaf,
I’w ddeddfau ufuddhaf. Yn uniawn rhodio wnaf.
2. Nid oes im ffrind o blith rhyfelgar rai.
Â’m llygaid gweld yr wyf ddrygioni’n amlhau.
Â’r llu trofaus nid oes i mi fwynhad;
Gochelaf eu cymdeithas, ni rydd im lesâd.
(CYTGAN)
Ymlaen yr af, yn llwybrau Duw parhaf,
I’w ddeddfau ufuddhaf. Yn uniawn rhodio wnaf.
3. Mor hoff gen i dy drigfan hawddgar, Dduw;
Amgylchu d’allor wnaf a chanu clod fy Llyw.
Goris y nef nid oes man gwell i fod;
Boed rhodio mewn uniondeb i mi’n fythol nod.
(CYTGAN)
Ymlaen yr af, yn llwybrau Duw parhaf,
I’w ddeddfau ufuddhaf. Yn uniawn rhodio wnaf.
(Gweler hefyd Salm 25:2.)