Cân 75 (169)
Y Gân Newydd
(Salm 98:1)
1. Cenwch fawl i Dduw; cân newydd o lawenydd mawr;
Am ei ryfeddodau, a’i nerthol fraich glodfawr.
Cafodd â’i ddeheulaw fuddugoliaeth rymus wiw;
Gwelodd y cenhedloedd gyfiawnder sanctaidd Duw.
(Cytgan)
2. Rhowch i Dduw Jehofah eich gwrogaeth, yr holl ddae’r;
Cenwch mewn llawenydd, yn swynol ac yn daer.
Clod rhowch ar y delyn ac ar sain yr utgorn clir.
Teilwng yw Jehofah o fawl drwy’r môr a’r tir.
(Cytgan)
3. Rhued nawr y môr a’r cyfan ynddo glod i Dduw.
Cenwch yr holl ddaear, y byd, a phopeth byw.
Bydded i’r holl ddyfroedd guro dwylo mewn mawlgan;
Bryniau a mynyddoedd, yn llawen, codwch gân.
(CYTGAN)
Canu wnawn!
Ein Brenin Jah mawrhawn.
Moli wnawn
Jehofah cariadlawn!