Cân 77 (174)
Byddwch yn Wyliadwrus, Safwch yn Gadarn, Ymgryfhewch
1. Byddwch effro, byddwch wrol
Yn y frwydyr sydd gerllaw.
Nid yw’n amser i ddiffygio,
Buddugoliaeth sicir ddaw.
Trwy law Crist, y Gideon Mwyaf nawr,
Trechir Midian yn ei gwannaf awr.
Buan iawn fe glywn y rhyfelgri,
Syrthia’r gelyn ar bob llaw.
2. Byddwch effro, gwyliadwrus,
O mor bwysig ufuddhau.
Gwrando wnawn ar eiriau Iesu,
Pob un yn ei le’n ddiau.
Dysgwn lawer o’i esiampl wiw,
Pennaf un o flaen Jehofah yw.
Gwasanaethwn Dduw yn ei fyddin
Ymhlith llu ei deyrngar rai.
3. Byddwch effro, ymddisgyblwch,
Ar Jehofah disgwyl rhaid.
Mae ei law yn abl i achub;
Iachawdwriaeth brydlon gaed.
Disgwyl gynt fu byddin Gideon cyd;
Ein Harweinydd a dd’wed wrthym pryd.
Ymostyngwch nawr i’r gofynion,
Enw Duw gaiff glod di-baid.
4. Ymddisgyblwch, byddwch gadarn,
Ewch â’r newydd da i’r byd.
Rhaid cydnabod theocratiaeth;
O mor bwysig dod ynghyd.
Gyda’r teyrngar rai drwy’r ddaear gron,
Uchel floeddiwn nawr yn unol, llon:
‘Cleddyf Duw Jehofah a Gideon!’
Ymgryfhewch nawr yn unfryd!