Cân 43
Byddwch Effro, Byddwch Wrol
1. Byddwch effro, byddwch wrol,
Byddwch ddewr a chadw ffydd.
Ymddisgyblwch, codwch galon,
Buddugoliaeth sicr sydd.
’N ôl gorchymyn Crist gweithredu wnawn,
Ac i’w gyfarwyddyd ufuddhawn.
(CYTGAN)
Byddwch effro, byddwch yn wrol!
Hyd y diwedd cadwch ffydd!
2. Byddwch effro, gwyliadwrus.
Goruchwyliwr doeth a rydd
Ichi gyfarwyddyd Iesu;
Boed chi’n barod pan ddaw’r dydd.
Gwrando cyngor brodyr hŷn sydd rhaid;
Mae eu gofal drosoch yn ddi-baid.
(CYTGAN)
Byddwch effro, byddwch yn wrol!
Hyd y diwedd cadwch ffydd!
3. Byddwn effro, byddwn unfryd;
Traethwn wirioneddau Duw.
Ac er gwaethaf her gelynion,
Cyrrau’r ddae’r ein llais a glyw.
Bloedd gorfoledd glywir yn y tir.
Dydd Jehofa, agos yw yn wir!
(CYTGAN)
Byddwch effro, byddwch yn wrol!
Hyd y diwedd cadwch ffydd!
(Gweler hefyd Math. 24:13; Heb. 13:7, 17; 1 Pedr 5:8.)