Cân 78 (175)
Y Nefoedd Sy’n Datgan Gogoniant Duw
(Salm 19:1)
1. Y nefoedd sydd yn datgan mawl Jehofah;
Fe adlewyrcha’r sêr ogoniant disglair Duw.
Bob dydd a nos adroddant glod
Bellteroedd maith ei orchestwaith.
Ysblander gwiw.
2. Jehofah’n Iôr, mor berffaith yw dy gyfraith,
Dy dystiolaethau wna y syml un yn ddoeth.
Gorchymyn Duw llawenydd rydd;
Ei ddeddfau glân a fydd ein cân,
Ein trem fydd goeth.
3. Mae ofn Jehofah’n lân, fe saif byth bythoedd.
Mae barnau Duw yn wir, mor gyfiawn ŷnt i gyd.
Mwy gwerthfawr ŷnt nag aur coeth pur,
Annwyl a chun, mêl ŷnt bob un,
Sail newydd fyd.
4. Diolchwn am dy gyfraith a’th lân ddeddfau;
O’u cadw hwynt enillwn wobr sy’n parhau.
Boed geiriau cudd ein calon ni
Yn gyfiawn, gwiw, ein Brenin Dduw,
I’th lwyr foddhau.