Cân 105
Llefara’r Nefoedd Ogoniant Duw
Fersiwn Printiedig
(Salm 19)
1. Y nefoedd sydd yn datgan mawl Jehofa.
Y gloyw eangderau draethant foliant Duw.
Y dydd a’r nos a gyhoeddant ei glod.
Gwaith nerthol wnaed! Gorchestwaith gaed! Rhowch glod chwi’r ddynolryw.
2. Mae cyfraith Jah yn berffaith ac adfywiol,
Ei dystiolaethau rydd i’n camau sicrhad;
Ei ddeddfau cyfiawn sydd gywir a phur.
Daionus, da yw barnau Jah; Fel mêl ŷnt, llawn llesâd.
3. Mae ofn Jehofa’n lân, fe saif byth bythoedd;
Rhagorach cyfraith Duw na gemau’r byd a’i aur.
Dyrchafu wnawn enw sanctaidd ein Iôr.
I’w waith ymrown; y byd gyffrown â chenadwri’r Gair.
(Gweler hefyd Salm 111:9; 145:5; Dat. 4:11.)