Cân 88 (200)
Prawf Bod yn Ddisgybl
1. Cariad mwyn hirymarhous
Yw nod Cristion pur ei foes.
Cariad perffaith atom ddaeth;
Drosom Crist i’r eithaf aeth.
Gwelwn gariad yn ei nerth
Ym mhob disgybl mawr ei werth;
Cans i farw, parod yw
Er mwyn i’w gymydog fyw.
2. Sail y cariad perffaith pur
Yw egwyddor ddwyfol, wir.
Ceisio mae holl les a budd
Eraill, a’u bendithio fydd.
Hyn, gorchymyn newydd yw
—Rhoi ar waith y cariad gwiw.
Parod yw i drugarhau,
Ac yn llon, dal ati mae.
3. Gweld mae cariad ’r hyn sy dda;
A chryfhau’r frawdoliaeth wna.
Â’r edifar cariad lŷn,
Ac yn dirion iawn fe’u trin.
Trwy Fab Duw a’i aberth ddrud
Gweld wna dynolryw’r holl fyd
Tirion, mwyn drugaredd Duw.
Gwir yw’r Gair mai cariad yw!