Cân 90 (204)
“Dyma Fi! Anfon Fi”
(Eseia 6:8)
1. Dig’wilydd ac mor ffiaidd yw
Amharchu glendid enw Duw.
I’r ynfyd nid yw Duw yn bod;
I arall beio Duw yw’r nod.
Amddiffyn enw Duw, pwy wna?
Pwy gana glod ei ddoniau da?
“O dyma fi Iôr! Anfon fi.
Moliannaf fyth dy glod a’th fri.
(Cytgan)
2. Cenhedlaeth sydd heb ofni Duw,
Nawr gwawdio maent Greawdwr byw.
Ymgrymant i eilunod mud;
Ar orsedd Duw rhônt Gesar byd.
Pwy â i ddweud am ryfel Duw:
Rhybuddio holl lu dynol ryw?
“O dyma fi Iôr! Anfon fi;
Pregethaf yn ddi-daw a hy.
(Cytgan)
3. Yr addfwyn sydd yn mawr dristáu
Am fod drygioni yn parhau.
Fe geisiant â’u calonnau glân
Wirionedd pur fydd yn fawl gân.
Mawr angen eu diddanu sydd;
Pwy â i ddweud am ddedwydd ddydd?
“O dyma fi Iôr! Anfon fi.
Fe ddysgaf addfwyn rai mor gu.
(CYTGAN)
Hyn yw’r anrhydedd fwyaf sy!
Iôr, dyma fi! O anfon fi.”